Dan Ellis, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Symud i fyw yn [[Trefor|Nhrefor]] yn y 1960au wnaeth '''Daniel Ellis'''. Daeth yma o Fynytho, Llŷn, i gadw siop yn y pentref - ''Temperance House'' - siop fferins, papurau newydd, a fferyllfa fechan, a gedwid cyn hynny gan William Hughes Ellis (''Wili Temprans''). Roedd yn fardd medrus a gallai lunio sonedau da.  Bu hefyd yn ymryson ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'' â [[Tom Bowen Jones]], [[William Jones (Wil Parsal)]], Harri Reilly o Garmel ac eraill. Ei 'enw barddol' bryd hynny fyddai ''Dan Dean!''
Symud i fyw i [[Trefor|Drefor]] yn y 1960au wnaeth '''Daniel Ellis'''. Daeth yma o Fynytho, Llŷn, i gadw siop yn y pentref - ''Temperance House'' - siop fferins, papurau newydd, a fferyllfa fechan, a gedwid cyn hynny gan William Hughes Ellis (''Wili Temprans'').  
 
Fe'i ganwyd yr ieuengaf ond un o naw o blant yn Preswylfa, Mynytho. Bu'n brentis saer maen gyda Hugh Williams, Boduan, o tua 1922.
 
Roedd yn fardd medrus a gallai lunio sonedau da.  Bu hefyd yn ymryson ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'' â [[Tom Bowen Jones]], [[William Jones (Wil Parsal)]], Harri Reilly o Garmel ac eraill. Ei 'enw barddol' bryd hynny fyddai ''Dan Dean!''
 
Cyhoeddwyd llyfr o rai o'i atgofion - ''Rhodio Lle Gynt y Rhedwn.''


Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr ''Herald Cymraeg'', 24 Gorffennaf 1967.
Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr ''Herald Cymraeg'', 24 Gorffennaf 1967.




'''YR  EIFL'''
                  '''YR  EIFL'''
 


   ''Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud,''
   ''Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud,''

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:46, 16 Awst 2022

Symud i fyw i Drefor yn y 1960au wnaeth Daniel Ellis. Daeth yma o Fynytho, Llŷn, i gadw siop yn y pentref - Temperance House - siop fferins, papurau newydd, a fferyllfa fechan, a gedwid cyn hynny gan William Hughes Ellis (Wili Temprans).

Fe'i ganwyd yr ieuengaf ond un o naw o blant yn Preswylfa, Mynytho. Bu'n brentis saer maen gyda Hugh Williams, Boduan, o tua 1922.

Roedd yn fardd medrus a gallai lunio sonedau da. Bu hefyd yn ymryson ar dudalennau'r Herald Cymraeg â Tom Bowen Jones, William Jones (Wil Parsal), Harri Reilly o Garmel ac eraill. Ei 'enw barddol' bryd hynny fyddai Dan Dean!

Cyhoeddwyd llyfr o rai o'i atgofion - Rhodio Lle Gynt y Rhedwn.

Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr Herald Cymraeg, 24 Gorffennaf 1967.


                 YR  EIFL
  Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud,
  A Ceiri ar dy lin - teganau oes
  A ddarfu, lle bu dynion bore'r byd
  Yn pêr-freuddwydio, ac yn dioddef loes,
  A gwelaist trwy flynyddoedd y pell wae
  Ddynionach gwyllt yn brwydro ar dy groen,
  Fel morgrug sydd yn brysur, fan lle mae
  Y ddaear greulon byth yn gwario'i hoen.
  Mae dynion eto ar dy 'sgythredd di
  yn dal i lynu ac i lunio gwaith
  O'th garreg, a daw eto egwan gri
  Ei brotest, pan fo'r halen ar ei graith,
  A thithau fel rhyw haflog foliog fawr
  Yn edrych yn ddirmygus arno i lawr.