Glynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Glynne''' yn un ffordd a sillafwyd cyfenw sydd yn lled gyffredin mewn sawl ardal yng Nghymru ac yng Nghernyw hyd yn oed. Nid yw pob '''Glyn''', '''Glynn''' neu '''Glynne''' felly'n perthyn i'w gilydd. Y mae rhai teuluoedd nad ydynt bellach ag unrhyw gysylltiad ymarferol ag Uwchgwyrfai wreiddiau yn nhir Glynllifon fodd bynnag: roedd Glynniaid a Gladstones Penarlág, er enghraifft, neu deulu Glyn, Ewell, Swydd Surrey, sydd wedi rhoi eu cyfenw i fanc, yn hanu o gyff teulu Glynllifon.  
Mae '''Glynne''' yn un ffordd y sillafwyd cyfenw sydd yn lled gyffredin mewn sawl ardal yng Nghymru ac yng Nghernyw hyd yn oed. Nid yw pob '''Glyn''', '''Glynn''' neu '''Glynne''' felly'n perthyn i'w gilydd. Y mae gan rai teuluoedd nad oes ganddynt bellach unrhyw gysylltiad ymarferol ag Uwchgwyrfai wreiddiau yn nhir Glynllifon, fodd bynnag: roedd Glynniaid a Gladstones Penarlág, er enghraifft, neu deulu Glyn, Ewell, Swydd Surrey, sydd wedi rhoi eu cyfenw i fanc, yn hanu o gyff teulu Glynllifon.  


Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], mai cyfenw sydd wedi ei fabwysiadu gan deulu [[Glynllifon]], sef disgynyddion [[Robert ap Meredydd]] ap Hwlcyn Llwyd, ydyw. Bu sawl gangen o'r teulu, gan gynnwys rhai a fu'n ymrafael â'i gilydd. Amrywiol iawn yw'r sillafiad a ddefnyddid, o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn aml hyd yn oed gan yr un unigolion.
Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], cyfenw a fabwysiadwyd gan deulu [[Glynllifon]], sef disgynyddion [[Robert ap Meredydd]] ap Hwlcyn Llwyd, ydyw. Bu sawl cangen o'r teulu, gan gynnwys rhai a fu'n ymrafael â'i gilydd. Amrywiol iawn yw'r sillafiad a ddefnyddid, o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn aml hyd yn oed gan yr un unigolion.


'''Yng nghyd-destun Cof y Cwmwd, rhaid oedd dewis un sillafiad er mwyn cysondeb ac i hwyluso chwilio a mynegeio, ac felly penderfynwyd defnyddio GLYNN fel arfer.''' Ceisir creu croesgyfeiriadau lle bo'n briodol o un sillafiad i'r lleill.
'''Yng nghyd-destun Cof y Cwmwd, rhaid oedd dewis un sillafiad er mwyn cysondeb ac i hwyluso chwilio a mynegeio, ac felly penderfynwyd defnyddio GLYNN fel arfer.''' Ceisir creu croesgyfeiriadau lle bo'n briodol o un sillafiad i'r lleill.

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:29, 17 Chwefror 2022

Mae Glynne yn un ffordd y sillafwyd cyfenw sydd yn lled gyffredin mewn sawl ardal yng Nghymru ac yng Nghernyw hyd yn oed. Nid yw pob Glyn, Glynn neu Glynne felly'n perthyn i'w gilydd. Y mae gan rai teuluoedd nad oes ganddynt bellach unrhyw gysylltiad ymarferol ag Uwchgwyrfai wreiddiau yn nhir Glynllifon, fodd bynnag: roedd Glynniaid a Gladstones Penarlág, er enghraifft, neu deulu Glyn, Ewell, Swydd Surrey, sydd wedi rhoi eu cyfenw i fanc, yn hanu o gyff teulu Glynllifon.

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfenw a fabwysiadwyd gan deulu Glynllifon, sef disgynyddion Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ydyw. Bu sawl cangen o'r teulu, gan gynnwys rhai a fu'n ymrafael â'i gilydd. Amrywiol iawn yw'r sillafiad a ddefnyddid, o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn aml hyd yn oed gan yr un unigolion.

Yng nghyd-destun Cof y Cwmwd, rhaid oedd dewis un sillafiad er mwyn cysondeb ac i hwyluso chwilio a mynegeio, ac felly penderfynwyd defnyddio GLYNN fel arfer. Ceisir creu croesgyfeiriadau lle bo'n briodol o un sillafiad i'r lleill.