Pontlyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pontlyfni''' yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned [[Clynnog Fawr]]. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr.  Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Bu siop fechan ger yr modurdy (Siop Ralph Baum) oddeutu hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae [[Pont-y-Cim]] gerllaw. Yr oedd [[Melin-y-Cim]] yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef [[Pont Lyfni]], a godwyd yn 1777, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.
Mae '''Pontlyfni''' yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned [[Clynnog Fawr]]. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr.  Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Bu siop fechan ger yr modurdy ([[Siop Ralph Baum]]) oddeutu hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae [[Pont-y-Cim]] gerllaw. Yr oedd [[Melin-y-Cim]] yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef [[Pont Lyfni]], a godwyd yn 1777, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.


Roedd [[Capel Seilo (B), Pontlyfni|capel Bedyddwyr]], ger pont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd tafarn y Boar's Head. Roedd y Boar's Head yn agored ym 1914 ond wedi cau erbyn 1948 (yn ôl mapiau'r Ordnans). Bu Swyddfa'r Post yn yr adeilad hwn am gyfnod.  
Roedd [[Capel Seilo (B), Pontlyfni|capel Bedyddwyr]], ger pont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd [[Tafarn y Boar's Head]]. Caewyd y Boar's Head ym 1916.<ref>''Llangollen Advertiser'', 10.3.1916, t.2</ref> Bu Swyddfa'r Post yn yr adeilad hwn am gyfnod.  


==Carreg fellt Pontlyfni==
==Carreg fellt Pontlyfni==
Mae Pontlyfni yn enwog ym myd [[seryddiaeth]] am ddigwyddiad ar Ebrill 14eg 1931, pan syrthiodd maen awyr ([[Carreg fellt Pontlyfni]]) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.Roedd y ffermwr, John Lloyd Williams yn chwech a thrigain mlwydd oed ac ar y pryd yn sgwrsio efo Mary Wyn Jones ger giât Bronallt oddeutu hanner dydd. Rhedodd â'i wynt yn ei ddwrn i gyfeiriad y beudai, lle gwelodd ei fab hefyd mewn dychryn. Roedd synau fel gynnau'n tanio gyda sŵn chwibanu parhaus yn dilyn y ffrwydriadau. Sylwyd yn gyntaf ar y twll yn y ddaear. Pan gyffyrddwyd â'r gwrthrych roedd yn gynnes iawn. Roedd yn union bum pwys pan bwyswyd ef yn ddiweddarach.   
Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ar Ebrill 14eg 1931, pan syrthiodd maen awyr ([[Carreg fellt Pontlyfni]]) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.Roedd y ffermwr, John Lloyd Williams yn chwech a thrigain mlwydd oed ac ar y pryd yn sgwrsio efo Mary Wyn Jones ger giât Bronallt oddeutu hanner dydd. Rhedodd â'i wynt yn ei ddwrn i gyfeiriad y beudai, lle gwelodd ei fab hefyd mewn dychryn. Roedd synau fel gynnau'n tanio gyda sŵn chwibanu parhaus yn dilyn y ffrwydriadau. Sylwyd yn gyntaf ar y twll yn y ddaear. Pan gyffyrddwyd â'r gwrthrych roedd yn gynnes iawn. Roedd yn union bum pwys pan bwyswyd ef yn ddiweddarach.   


Roedd Mary Wyn Jones yn ddisgybl yn Ysgol Brynaerau (daeth yn athrawes yno yn ddiweddarach) a chofiai'r daearegwyr a ddaeth yn uniongyrchol o Lundain i astudio'r garreg,  gan aros yn ei chartref. Cofiai hefyd y prifathro, Llewelyn Parry, yn arddangos y garreg fellt mewn cwpwrdd gwydr yn yr ysgol.<ref>Allan o Golofn Robert Wyn;''Lleu'' Hydref 2013, Rhif 446, tud. </ref>  
Roedd Mary Wyn Jones yn ddisgybl yn Ysgol Brynaerau (daeth yn athrawes yno yn ddiweddarach) a chofiai'r daearegwyr a ddaeth yn uniongyrchol o Lundain i astudio'r garreg,  gan aros yn ei chartref. Cofiai hefyd y prifathro, Llewelyn Parry, yn arddangos y garreg fellt mewn cwpwrdd gwydr yn yr ysgol.<ref>Allan o Golofn Robert Wyn;''Lleu'' Hydref 2013, Rhif 446, tud. </ref>  

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:24, 1 Tachwedd 2023

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Clynnog Fawr. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr. Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Bu siop fechan ger yr modurdy (Siop Ralph Baum) oddeutu hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef Pont Lyfni, a godwyd yn 1777, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.

Roedd capel Bedyddwyr, ger pont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd Tafarn y Boar's Head. Caewyd y Boar's Head ym 1916.[1] Bu Swyddfa'r Post yn yr adeilad hwn am gyfnod.

Carreg fellt Pontlyfni

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ar Ebrill 14eg 1931, pan syrthiodd maen awyr (Carreg fellt Pontlyfni) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.Roedd y ffermwr, John Lloyd Williams yn chwech a thrigain mlwydd oed ac ar y pryd yn sgwrsio efo Mary Wyn Jones ger giât Bronallt oddeutu hanner dydd. Rhedodd â'i wynt yn ei ddwrn i gyfeiriad y beudai, lle gwelodd ei fab hefyd mewn dychryn. Roedd synau fel gynnau'n tanio gyda sŵn chwibanu parhaus yn dilyn y ffrwydriadau. Sylwyd yn gyntaf ar y twll yn y ddaear. Pan gyffyrddwyd â'r gwrthrych roedd yn gynnes iawn. Roedd yn union bum pwys pan bwyswyd ef yn ddiweddarach.

Roedd Mary Wyn Jones yn ddisgybl yn Ysgol Brynaerau (daeth yn athrawes yno yn ddiweddarach) a chofiai'r daearegwyr a ddaeth yn uniongyrchol o Lundain i astudio'r garreg, gan aros yn ei chartref. Cofiai hefyd y prifathro, Llewelyn Parry, yn arddangos y garreg fellt mewn cwpwrdd gwydr yn yr ysgol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llangollen Advertiser, 10.3.1916, t.2
  2. Allan o Golofn Robert Wyn;Lleu Hydref 2013, Rhif 446, tud.