Ffatri Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Llysydelyn.jpg|bawd|de|300px|Llys y Delyn - hen dŷ rheolwr Ffatri Tryfan]]  
[[Delwedd:Llysydelyn.jpg|bawd|de|300px|Llys y Delyn - hen dŷ rheolwr Ffatri Tryfan]]  


Roedd [[Afon Llifon]] yn troi olwyn ddŵr ''Melin wlân Tryfan'', neu (yn ôl y bobl leol) '''Ffatri Tryfan'''. Safai lle saif Craigside a Chludannedd heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr ''The Welsh Woollen Industry'' bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffrâm Arkwright a ddyfeisiwyd ym 1769 ac yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.
Roedd [[Afon Llifon]] yn troi olwyn ddŵr ''Melin wlân Tryfan'', neu (yn ôl y bobl leol) '''Ffatri Tryfan'''. Safai lle saif ‘Sŵn yr Afon’ a ‘Chludannedd’ heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr ''The Welsh Woollen Industry'' bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffrâm Arkwright, a ddyfeisiwyd ym 1769, yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), t.238</ref>


Yn ei ysgrif ar y [[Tryfan]]<ref>''Trafodion Hanes Sir Gaernarfon'' (cyf 2)</ref>, dywed [[W. Gilbert Williams]] ei fod yn credu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau [[Mynydd Cilgwyn]]. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y [[Cofrestrau plwyf Llandwrog|Cofnodion Plwyf]].
Yn ei ysgrif ar y [[Tryfan]]<ref>''Trafodion Hanes Sir Gaernarfon'' (cyf 2)</ref>, dywed [[W. Gilbert Williams]] ei fod yn credu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau [[Mynydd Cilgwyn]]. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y [[Cofrestrau plwyf Llandwrog|Cofnodion Plwyf]]. Er mai "Factory" yn unig a geir yno yn yr 18g. (ac felly na allwn fod yn hollol sicr mai Ffatri Tryfan a olygir), daw'n amlwg yn y cofnod o enedigaeth Elias Jones ym mis Mehefin 1804, lle nodir mai ei dad oedd Padrick Jones, "Coulour and Done Cloath", o'r "Factry near Tryfan". Y flwyddyn ganlynol, ceir sôn am fedydd Elisabeth, merch John Leece, gwehydd, "Factry Tryfan"; ac erbyn 1811 pan fedyddiwyd Ellin Parry, merch "spinman" yn "Tryfan Manufactury", daeth yn glir bod mwy na melin wlân fach gyffredin yma, a bod nifer yn cael eu cyflogi yno gyda swyddogaethau a chrefftau unigol ac arbenigol. <ref>Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestrau Plwyf Llandwrog, ''passim''.</ref>


Yn ôl cyfrifiad 1841, Ann Jones, gweddw, oedd yn rhedeg y ffatri ac yna ei mab Robert i fyny i 1891.Roedd yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, a'i ferch Mary'n briod â David Williams, [[Appii Forum]]. Roedd ganddynt fab o'r enw Robert Jones Williams a  adweinid yn ddiweddarach fel Robert Ffatri. Ond, er cael ei anfon i'w brentisio i ffatri wlân Trefriw, nid oedd am ymgymryd â'r gwaiath. Gwerthwyd y ffatri i Humphrey Jones o Sir feirionnydd a fu'n byw yng Nghae Ffridd ac yna yn Nhrem y Werydd.
Yn ôl cyfrifiad 1841, Ann Jones, gweddw, oedd yn rhedeg y ffatri ac yna ei mab Robert hyd at 1891.Roedd yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, a'i ferch Mary'n briod â David Williams, [[Appii Forum]]. Roedd ganddynt fab o'r enw Robert Jones Williams a  adwaenid yn ddiweddarach fel Robert Ffatri. Ond, er cael ei anfon i'w brentisio i ffatri wlân Trefriw, nid oedd am ymgymryd â'r gwaith. Gwerthwyd y ffatri i Humphrey Jones o Sir Feirionnydd a fu'n byw yng Nghae Ffridd ac yna yn Nhrem y Werydd.


Byddai rhai o ferched y Groeslon yn arfer gweithio i Humphrey Jones yn eu cartrefi. Cofiai Katie Jones ei mam yn gwnïo tronsiau o wlân gwyn hefo rhesi duon ynddo a'r rheiny'n cau ar y penglin hefo tâp. Byddai hen wraig oedd yn byw ym Mron Iwrch yn gwnïo crysau gwlân iddo efo'i llaw, a chofiai Mair Edwards fynd i'r ffatri i nôl gwlanen goch i'w mam, ag iodîn ynddi.
Byddai rhai o ferched Y Groeslon yn arfer gweithio i Humphrey Jones yn eu cartrefi. Cofiai Katie Jones ei mam yn gwnïo tronsiau o wlân gwyn hefo rhesi duon ynddo a'r rheiny'n cau ar y penglin hefo tâp. Byddai hen wraig oedd yn byw ym Mron Iwrch yn gwnïo crysau gwlân iddo efo'i llaw, a chofiai Mair Edwards fynd i'r ffatri i nôl gwlanen goch i'w mam, ag iodîn ynddi.


Byddai Humphrey Jones yn mynd o amgylch tai pobl i werthu ei gynnyrch. Roedd ganddo stondin yn y farchnad yng Nghaernarfon hefyd, a bu'n rhedeg honno ar ôl i'r ffatri gau.
Byddai Humphrey Jones yn mynd o amgylch tai pobl i werthu ei gynnyrch. Roedd ganddo stondin yn y farchnad yng Nghaernarfon hefyd, a bu'n rhedeg honno ar ôl i'r ffatri gau.

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 25 Mai 2021

Hen adeilad y felin wedi'i droi'n ddau dŷ
Llys y Delyn - hen dŷ rheolwr Ffatri Tryfan

Roedd Afon Llifon yn troi olwyn ddŵr Melin wlân Tryfan, neu (yn ôl y bobl leol) Ffatri Tryfan. Safai lle saif ‘Sŵn yr Afon’ a ‘Chludannedd’ heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr The Welsh Woollen Industry bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffrâm Arkwright, a ddyfeisiwyd ym 1769, yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.[1]

Yn ei ysgrif ar y Tryfan[2], dywed W. Gilbert Williams ei fod yn credu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau Mynydd Cilgwyn. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y Cofnodion Plwyf. Er mai "Factory" yn unig a geir yno yn yr 18g. (ac felly na allwn fod yn hollol sicr mai Ffatri Tryfan a olygir), daw'n amlwg yn y cofnod o enedigaeth Elias Jones ym mis Mehefin 1804, lle nodir mai ei dad oedd Padrick Jones, "Coulour and Done Cloath", o'r "Factry near Tryfan". Y flwyddyn ganlynol, ceir sôn am fedydd Elisabeth, merch John Leece, gwehydd, "Factry Tryfan"; ac erbyn 1811 pan fedyddiwyd Ellin Parry, merch "spinman" yn "Tryfan Manufactury", daeth yn glir bod mwy na melin wlân fach gyffredin yma, a bod nifer yn cael eu cyflogi yno gyda swyddogaethau a chrefftau unigol ac arbenigol. [3]

Yn ôl cyfrifiad 1841, Ann Jones, gweddw, oedd yn rhedeg y ffatri ac yna ei mab Robert hyd at 1891.Roedd yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, a'i ferch Mary'n briod â David Williams, Appii Forum. Roedd ganddynt fab o'r enw Robert Jones Williams a adwaenid yn ddiweddarach fel Robert Ffatri. Ond, er cael ei anfon i'w brentisio i ffatri wlân Trefriw, nid oedd am ymgymryd â'r gwaith. Gwerthwyd y ffatri i Humphrey Jones o Sir Feirionnydd a fu'n byw yng Nghae Ffridd ac yna yn Nhrem y Werydd.

Byddai rhai o ferched Y Groeslon yn arfer gweithio i Humphrey Jones yn eu cartrefi. Cofiai Katie Jones ei mam yn gwnïo tronsiau o wlân gwyn hefo rhesi duon ynddo a'r rheiny'n cau ar y penglin hefo tâp. Byddai hen wraig oedd yn byw ym Mron Iwrch yn gwnïo crysau gwlân iddo efo'i llaw, a chofiai Mair Edwards fynd i'r ffatri i nôl gwlanen goch i'w mam, ag iodîn ynddi.

Byddai Humphrey Jones yn mynd o amgylch tai pobl i werthu ei gynnyrch. Roedd ganddo stondin yn y farchnad yng Nghaernarfon hefyd, a bu'n rhedeg honno ar ôl i'r ffatri gau.

Prynwyd tir a thŷ'r ffatri gan Mr William J. Evans, gorsaf-feistr Gorsaf reilffordd Y Groeslon, a ddaethai o Langefni. Gan fod ei wraig yn delynores (Telynores Gwyngyll), newidiwyd enw tŷ’r ffatri i Llys y Delyn. Ar dir y ffatri yr adeiladwyd tai cyngor Maes Tryfan yn 30au'r 20g.[4]

Cyfeiriadau

  1. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), t.238
  2. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (cyf 2)
  3. Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestrau Plwyf Llandwrog, passim.
  4. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.