Derwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Derwin''' oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig, yn perthyn i [[Clas | '''Derwin''' oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig, yn perthyn i [[Clas ac Abaty Sant Beuno|Glas Clynnog Fawr]], sefydliad dysgedig gyda chymuned o fynaich, o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.<ref>Colin Gresham, ''Eifionydd'' (Caerdydd, 1973), t.301</ref> Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr oherwydd i'r eglwys yno fod yn berchen arni, ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.<ref>Colin Gresham, ''Eifionydd'' (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1</ref> Gan nad oes amheuaeth ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog, a hynny ers canrifoedd, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes '''Cof y Cwmwd'''. | ||
Saif tir Derwin rhwng trefgordd [[Nancall]] i'r dwyrain, a hen drefgordd Cwm (y naill fel y llall yn eiddo i Abaty Aberconwy) i'r gorllewin. Y ffiniau hyd y gellir eu casglu oedd | Saif tir Derwin rhwng trefgordd [[Nancall]] i'r dwyrain, a hen drefgordd [[Cwm]] (y naill fel y llall yn eiddo i Abaty Aberconwy) i'r gorllewin. Y ffiniau hyd y gellir eu casglu oedd, ar yr ochr orllewinol, o bwynt ar nant rhwng [[Gyfelog]] ac Ynys Hwfa, ar hyd y nant honno i gyfeiriad y de nes cyrraedd cors yn ardal [[Bwlch Derwin]] ac ymlaen ar hyd afonig fach a elwid yn [[Afon Carrog (Bwlch Derwin)|Afon Carrog]] sydd, mewn gwirionedd, yn flaendwr Afon Wen sy'n aberu â'r môr ger Chwilog. O ffin Eifionydd, ger Bryn Brych, mae'r ffin yn rhedeg i'r de o fynydd bach Y Foel nes cyrraedd [[Afon Dwyfach]] ger Derwyn Bach. Mae'r ffin wedyn yn troi tua'r gogledd nes pasio [[Pant-glas]] cyn troi i'r gorllewin a rhedeg dros y gorsdir Gyfelog.<ref>Colin Gresham, ''Eifionydd'' (Caerdydd, 1973), t.306</ref> Sylwer bod Derwin Fawr o fewn y ffiniau, ond mae Derwin Bach yn Eifionydd o ychydig lathenni. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori:Trefgorddau]] | ||
[[Categori:Israniadau gwladol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 19:43, 5 Medi 2023
Derwin oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig, yn perthyn i Glas Clynnog Fawr, sefydliad dysgedig gyda chymuned o fynaich, o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.[1] Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr oherwydd i'r eglwys yno fod yn berchen arni, ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan nad oes amheuaeth ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog, a hynny ers canrifoedd, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.
Saif tir Derwin rhwng trefgordd Nancall i'r dwyrain, a hen drefgordd Cwm (y naill fel y llall yn eiddo i Abaty Aberconwy) i'r gorllewin. Y ffiniau hyd y gellir eu casglu oedd, ar yr ochr orllewinol, o bwynt ar nant rhwng Gyfelog ac Ynys Hwfa, ar hyd y nant honno i gyfeiriad y de nes cyrraedd cors yn ardal Bwlch Derwin ac ymlaen ar hyd afonig fach a elwid yn Afon Carrog sydd, mewn gwirionedd, yn flaendwr Afon Wen sy'n aberu â'r môr ger Chwilog. O ffin Eifionydd, ger Bryn Brych, mae'r ffin yn rhedeg i'r de o fynydd bach Y Foel nes cyrraedd Afon Dwyfach ger Derwyn Bach. Mae'r ffin wedyn yn troi tua'r gogledd nes pasio Pant-glas cyn troi i'r gorllewin a rhedeg dros y gorsdir Gyfelog.[3] Sylwer bod Derwin Fawr o fewn y ffiniau, ond mae Derwin Bach yn Eifionydd o ychydig lathenni.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma