Tafarn y Goat, Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Gwesty'r Goat, Llanwnda.jpg|bawd|de|450px|Tafarn y Goat, Llanwnda tua 1920-25]] | [[Delwedd:Gwesty'r Goat, Llanwnda.jpg|bawd|de|450px|Tafarn y Goat, Llanwnda tua 1920-25]] | ||
'''Tafarn y Goat''' (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn [[Llanwnda]] oedd y dafarn a wasanaethai [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|yr orsaf]] gerllaw. Roedd yn cael ei chadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffith oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Ym 1889, William Griffith oedd y tafarnwr a'r masnachwr glo.<ref>Cyfeiriadau Masnach Sutton, 1889-90</ref> Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn barhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004. Bu farw'r olaf i gadw'r dafarn, Ann Griffith, yn 2019. | |||
Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd | Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd ochr Caernarfon i'r Goat, a'r ochr arall i'r bont roedd [[Tafarn y Railway]]. Caewyd honno yn ystod yr 20g ac, ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd yr un pryd ag y dymchwelwyd pont y rheilffordd. | ||
Am flynyddoedd nes iddi gau roedd yn nodedig am | Am flynyddoedd nes iddi gau roedd Y Goat yn nodedig am Gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf cenedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno! | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai] | [[Categori:Tafarndai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:25, 30 Ionawr 2022
Tafarn y Goat (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn Llanwnda oedd y dafarn a wasanaethai yr orsaf gerllaw. Roedd yn cael ei chadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffith oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Ym 1889, William Griffith oedd y tafarnwr a'r masnachwr glo.[1] Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn barhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004. Bu farw'r olaf i gadw'r dafarn, Ann Griffith, yn 2019.
Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd ochr Caernarfon i'r Goat, a'r ochr arall i'r bont roedd Tafarn y Railway. Caewyd honno yn ystod yr 20g ac, ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd yr un pryd ag y dymchwelwyd pont y rheilffordd.
Am flynyddoedd nes iddi gau roedd Y Goat yn nodedig am Gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf cenedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno!
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfeiriadau Masnach Sutton, 1889-90