Nancall (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Nancall''' oedd enw trefgordd eglwysig a oedd yn eiddo eglwysig ers dyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe roddwyd i Abaty Aber...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Nancall''' oedd enw trefgordd | Sonnir am '''Nancall''' yn hanes [[Math fab Mathonwy]] yn y [[Mabinogion]].<ref>Colin Gresham, ''The Aberconwy Charter'', (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139</ref> Yn ddiweddarach, Nancall oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe'i rhoddwyd i [[Abaty Aberconwy]] gan Llywelyn Fawr tua 1200. Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd [[Uwchgwyrfai]], er bod rhai haneswyr yn anghytuno.<ref>Colin Gresham, ''Eifionydd'' (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1</ref> Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog ers canrifoedd fodd bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes '''Cof y Cwmwd'''. | ||
Ffiniau Nancall oedd | Ffiniau Nancall oedd [[Afon Call]] i'r gogledd ac [[Afon Faig]] i'r dwyrain a'r de. Cyrhaeddodd gopa [[Mynydd Craig Goch]]. Y ffin orllewinol oedd [[Afon Dwyfach]], o'r pwynt lle mae Afon Faig yn aberu i Afon Dwyfach ger [[Pont Tafarn-faig]], gan redeg ar hyd Afon Dwyfach i gyfeiriad y gogledd nes gyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen [[Gorsaf reilffordd Pant-glas|orsaf reilffordd Pant-glas]].<ref>Colin Gresham, ''The Aberconwy Charter'', (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138-9</ref> | ||
Rhoddwyd y drefgordd i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn [[Rhedynog Felen]] ac wedyn Aberconwy, ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siartr Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.<ref>Colin Gresham, ''The Aberconwy Charter'', (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4</ref> Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar luest neu ffermdir [[Rhedynog Felen]] yn nhrefgordd [[Dinlle]]. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au. Ym 1562, roedd y trefgordd ym meddiant Coron Lloegr fel rhan o'r hen diroedd eglwysig, ac fe brydleswyd rhan o'r trefgordd i deulu Clenennau yn Eifionydd.<ref>LlGC, Gweithredoedd Brogyntyn, ETD/1/1</ref> | |||
Parhaodd Nancall yn drefgordd ar | Y mae llythyr tra diddorol yn ''Y Brython'' ar gyfer 1861 sydd yn tystio i barhad cysylltiad Nancall â hen hawliau Priory Beddgelert ac Abaty Aberconwy. Meddai'r gohebydd: | ||
Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.<ref>''Y Brython'', Tachwedd 1861, t.435</ref> | |||
Mae'r manylion hyn yn tueddu awgrymu bod [[Cwrt Beddgelert]] yn parhau â chysylltiad â Nancall tan oddeutu 1837, sef tua'r adeg pan ddiwygiwyd y system o dalu'r Degwm. Mae'r dyfyniad hefyd yn tueddu awgrymu mai rhan bellaf plwyf [[Clynnog Fawr]] oedd lleoliad trefgordd Nancall. Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae'n cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â hen fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed; cafodd hwn brydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, cadwyd at delerau'r brydles am weddill ei thymor. | |||
Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahân hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.<ref>Colin Gresham, ''Eifionydd'' (Caerdydd, 1973), tt.301-3</ref> Parhai brif drigolion Nancall dalu rhai ffioedd i olynwyr Abaty Aberconwy fel tirfeddianwyr hyd oddeutu 1835, gan deithio'n flynyddol i fynychu hen lys maenorol [[Cwrt Beddgelert]].<ref>''Y Brython'', Tachwedd 1861, t.435</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 12: | Llinell 18: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori: Israniadau gwladol]] | ||
[[Categori: | [[Categori:Trefgorddau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:26, 27 Awst 2023
Sonnir am Nancall yn hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogion.[1] Yn ddiweddarach, Nancall oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe'i rhoddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog ers canrifoedd fodd bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.
Ffiniau Nancall oedd Afon Call i'r gogledd ac Afon Faig i'r dwyrain a'r de. Cyrhaeddodd gopa Mynydd Craig Goch. Y ffin orllewinol oedd Afon Dwyfach, o'r pwynt lle mae Afon Faig yn aberu i Afon Dwyfach ger Pont Tafarn-faig, gan redeg ar hyd Afon Dwyfach i gyfeiriad y gogledd nes gyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen orsaf reilffordd Pant-glas.[3]
Rhoddwyd y drefgordd i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Gruffydd ap Cynan tua 1186 wrth iddynt ymsefydlu yn Rhedynog Felen ac wedyn Aberconwy, ac fe gadarnhawyd y rhodd gan siartr Llywelyn ab Iorwerth tua 10 mlynedd yn diweddarach.[4] Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar luest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au. Ym 1562, roedd y trefgordd ym meddiant Coron Lloegr fel rhan o'r hen diroedd eglwysig, ac fe brydleswyd rhan o'r trefgordd i deulu Clenennau yn Eifionydd.[5]
Y mae llythyr tra diddorol yn Y Brython ar gyfer 1861 sydd yn tystio i barhad cysylltiad Nancall â hen hawliau Priory Beddgelert ac Abaty Aberconwy. Meddai'r gohebydd:
Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[6]
Mae'r manylion hyn yn tueddu awgrymu bod Cwrt Beddgelert yn parhau â chysylltiad â Nancall tan oddeutu 1837, sef tua'r adeg pan ddiwygiwyd y system o dalu'r Degwm. Mae'r dyfyniad hefyd yn tueddu awgrymu mai rhan bellaf plwyf Clynnog Fawr oedd lleoliad trefgordd Nancall. Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae'n cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â hen fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed; cafodd hwn brydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, cadwyd at delerau'r brydles am weddill ei thymor.
Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahân hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[7] Parhai brif drigolion Nancall dalu rhai ffioedd i olynwyr Abaty Aberconwy fel tirfeddianwyr hyd oddeutu 1835, gan deithio'n flynyddol i fynychu hen lys maenorol Cwrt Beddgelert.[8]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139
- ↑ Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138-9
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.123-4
- ↑ LlGC, Gweithredoedd Brogyntyn, ETD/1/1
- ↑ Y Brython, Tachwedd 1861, t.435
- ↑ Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3
- ↑ Y Brython, Tachwedd 1861, t.435