Afon Weddus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Afon Weddus''' yn afon fach sydd yn rhedeg i'r môr ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw wedi ei golli ar dafod-leferydd, ond roedd yn cael ei ddefnyddio yn niwedd y 18g pan ail-godwyd [[Pont Weddus]] dros "Afon Weddus" ym mhlwyf Clynnog gan awdurdodau'r sir ym 1777. Ganrif ynghynt, ym 1657, ceir sôn am yr un bont mewn cyflwr gwael, ac yn caniatáu i "Afon Gwenis" orlifo.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1657/182</ref> Mae'n debyg mai afonig fechan yw Afon Weddus, gan fod y bont wedi costio £100, a'r un flwyddyn talwyd £200 am godi pont dros [[Afon Llifon]], sydd, ei hun, yn afon weddol fach.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/169</ref> Y tebygrwydd yw mai'r afon sydd yn rhedeg trwy bentref Clynnog, heibio i Dŷ Capel, ydyw; mae hi'n troi tua'r gogledd wedyn, heibio Tŷ Coch, ac yn ymarllwys i'r mor nid nepell o [[Maen Dylan|Faen Dylan]]. Dyna, beth bynnag, oedd barn Catrin Pari Huws, un o haneswyr lleol nodedig yr ardal.
Mae '''Afon Weddus''' yn afon fach sydd yn rhedeg i'r môr ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw wedi ei golli ar dafod-leferydd, ond roedd yn cael ei ddefnyddio yn niwedd y 18g pan ail-godwyd [[Pont Weddus]] dros "Afon Weddus" ym mhlwyf Clynnog gan awdurdodau'r sir ym 1777. Ganrif ynghynt, ym 1657, ceir sôn am yr un bont mewn cyflwr gwael, ac yn caniatáu i "Afon Gwenis" orlifo.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1657/182</ref> Mae'n debyg mai afonig fechan yw Afon Weddus, gan fod y bont wedi costio £100, a'r un flwyddyn talwyd £200 am godi pont dros [[Afon Llifon]], sydd, ei hun, yn afon weddol fach.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/169</ref> Y tebygolrwydd yw mai'r afon sydd yn rhedeg trwy bentref Clynnog, heibio i Dŷ Capel, ydyw; mae hi'n troi tua'r gogledd wedyn, heibio Tŷ Coch, ac yn ymarllwys i'r môr nid nepell o [[Maen Dylan|Faen Dylan]]. Dyna, beth bynnag, oedd barn Catrin Pari Huws, un o haneswyr lleol nodedig yr ardal.


Ceir cyfeiriadau hen iawn at yr afon, fodd bynnag. Mae'n debyg mai "Moweddus" neu "Myweddus" oedd yr enw'n wreiddiol, ac mae rhai yn awgrymu mai enw gwreiddiol [[Afon Rhydybeirion]] ydyw. Ceir cyfeiriadau hefyd at yr enw yn y ''Record of Carnarvon'', ac yn llenyddiaeth gynnar Gymraeg.<ref>Gwybodaeth oddi wrth Mrs Marian Elias Roberts</ref>
Ceir cyfeiriadau hen iawn at yr afon, fodd bynnag. Mae'n debyg mai "Moweddus" neu "Myweddus" oedd yr enw'n wreiddiol, ac mae rhai yn awgrymu mai enw gwreiddiol [[Afon Rhydybeirion]] ydyw. Ceir cyfeiriadau hefyd at yr enw yn y ''Record of Carnarvon'', ac mewn llenyddiaeth Gymraeg gynnar.<ref>Gwybodaeth oddi wrth Mrs Marian Elias Roberts</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:34, 7 Chwefror 2022

Mae Afon Weddus yn afon fach sydd yn rhedeg i'r môr ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw wedi ei golli ar dafod-leferydd, ond roedd yn cael ei ddefnyddio yn niwedd y 18g pan ail-godwyd Pont Weddus dros "Afon Weddus" ym mhlwyf Clynnog gan awdurdodau'r sir ym 1777. Ganrif ynghynt, ym 1657, ceir sôn am yr un bont mewn cyflwr gwael, ac yn caniatáu i "Afon Gwenis" orlifo.[1] Mae'n debyg mai afonig fechan yw Afon Weddus, gan fod y bont wedi costio £100, a'r un flwyddyn talwyd £200 am godi pont dros Afon Llifon, sydd, ei hun, yn afon weddol fach.[2] Y tebygolrwydd yw mai'r afon sydd yn rhedeg trwy bentref Clynnog, heibio i Dŷ Capel, ydyw; mae hi'n troi tua'r gogledd wedyn, heibio Tŷ Coch, ac yn ymarllwys i'r môr nid nepell o Faen Dylan. Dyna, beth bynnag, oedd barn Catrin Pari Huws, un o haneswyr lleol nodedig yr ardal.

Ceir cyfeiriadau hen iawn at yr afon, fodd bynnag. Mae'n debyg mai "Moweddus" neu "Myweddus" oedd yr enw'n wreiddiol, ac mae rhai yn awgrymu mai enw gwreiddiol Afon Rhydybeirion ydyw. Ceir cyfeiriadau hefyd at yr enw yn y Record of Carnarvon, ac mewn llenyddiaeth Gymraeg gynnar.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1657/182
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/169
  3. Gwybodaeth oddi wrth Mrs Marian Elias Roberts