John Evans, Chwarel Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar '''John Evans''' (? - 1827), twrnai nodedig o Gaernarfon ac un o ddatblygwyr a chyfalafwyr cynnar chwareli llechi [[Dyffryn Nantlle]], ac yn gyfreithiwr yng Nghaernarfon. Roedd o'n glerc yn swyddfa ystad y Faenol ym 1788, ac ym 1789 fe gafodd erthyglau i fynd yn dwrnai dan Hugh Ellis, gan gymryd y practis twrnai drosodd ym 1808 pan fu farw Ellis. Oherwydd fod Ellis wedi bod â diddordeb yn chwareli Dyffryn Peris a bod John Evans ei hun wedi datblygu busnes cloddio am lechi, daeth ei bractis yn arbenigwyr mewn achosion yn ymwneud â hawliau tir a chloddio. Dywedir iddo fod yn hollbwysig yn y gwaith o oresgyn grym terfysgwyr tir comin plwyf Llanddeiniolen ym 1809 pan oedd ymdrechion yn cychwyn i'w amgáu er budd tirfeddianwyr mawr lleol, ac [[Ystad y Faenol]] yn benodol.
Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar '''John Evans''' (1766-1827)<ref>Gwefan Archive Hub, [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/0d895a59-76a1-3d06-bf24-de4dc1f1f53f], cyrchwyd 30.9.2019</ref>, twrnai amlwg yng Nghaernarfon a chyfalafwr cynnar y chwareli, ond ei fod yn fab fferm [[Tal-y-mignedd]] ym mhlwyf [[Llanllyfni]].<ref>Gwefan Archive Hub, [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/94a12856-b0df-393c-abeb-38c6c1e43c1b], cyrchwyd 30.9.2019</ref>  Roedd yn dwrnai nodedig o Gaernarfon ac un o ddatblygwyr a chyfalafwyr cynnar chwareli llechi [[Dyffryn Nantlle]]. Roedd yn glerc yn swyddfa ystad y Faenol ym 1788, ac ym 1789 fe gafodd erthyglau i fynd yn dwrnai dan Hugh Ellis, Porth-yr-aur, Caernarfon, gan gymryd y practis twrnai drosodd ym 1808 pan fu farw Ellis. Oherwydd fod Ellis wedi bod â diddordeb yn chwareli Dyffryn Peris a bod John Evans ei hun wedi datblygu busnes cloddio am lechi, daeth ei bractis yn arbenigwyr mewn achosion yn ymwneud â hawliau tir a chloddio. Dywedir iddo fod yn hollbwysig yn y gwaith o oresgyn grym terfysgwyr tir comin plwyf Llanddeiniolen ym 1809 pan oedd ymdrechion yn dechrau i'w amgáu er budd tirfeddianwyr mawr lleol, ac [[Ystad y Faenol]] yn benodol.


Ym 1800, roedd yn un o bedwar partner a gafodd brydles ar hawliau chwarelu am lechi ar dir [[Comin Cilgwyn]]. Y tri arall oedd John Price o Sir Fôn a Thomas Jones, Bryntirion, [[Betws Garmon]], dau dirfeddianwr gyda diddordebau yn y gwaith o gloddio am gopr a Richard Roberts, masnachwr llechi o Gaernarfon, y pedwar felly'n ddynion cymharol leol.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.220</ref> Fe'i gysylltir yn bennaf â [[Chwarel Cilgwyn]] am y rheswm hwn, ond roedd y bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu chwareli eraill yn yr ardal a thrwy brydlesi eraill, chwareli mewn dyffrynnoedd eraill, megis Garreg Fawr (Waunfawr), Graig Ddu (ar yr hen ffordd rhwng Waunfawr a Llanberis) a chwarel Cook a'r Ddol ym mhlwyf Llanrug. Cafwyd hefyd brydles ar chwareli ar ran o ystad y Coetmor, Bethesda, ym 1800 ac ym 1805 roedd y bartneriaeth yn gweithio Chwarel Tŷ'n Ffridd yno. Ym 1802 gymerodd y bartneriaeth lês ar tair chwarel ar fferm [[Tal-y-sarn]], gan eu galw'r [[Gwmni Llechi Tal-y-sarn]].
Ym 1800, roedd yn un o bedwar partner a gafodd brydles ar hawliau chwarelu am lechi ar dir [[Comin Cilgwyn]]. Y tri arall oedd John Price o Sir Fôn a Thomas Jones, Bryntirion, [[Betws Garmon]], dau dirfeddiannwr gyda diddordebau yn y gwaith o gloddio am gopr a Richard Roberts, masnachwr llechi o Gaernarfon, y pedwar felly'n ddynion cymharol leol.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.220</ref> Dywedir, fodd bynnag, mai Evans oedd y "partner rheolaethol". <ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.28</ref>Fe'i cysylltir yn bennaf â [[Chwarel Cilgwyn]] am y rheswm hwn, ond roedd y bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu chwareli eraill yn yr ardal a, thrwy brydlesi eraill, chwareli mewn dyffrynnoedd eraill, megis Garreg Fawr (Waunfawr), Graig Ddu (ar yr hen ffordd rhwng Waunfawr a Llanberis) a chwarel Cook a'r Ddôl ym mhlwyf Llanrug. O 1805 hyd 1807, roedd y bartneriaeth hefyd yn gyfrifol am [[Chwarel Hafod-y-wern]] ger Betws Garmon, ond ym mhlwyf [[Llanwnda]], [[Uwchgwyrfai]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.36</ref> Cafwyd hefyd brydles ar chwareli ar ran o ystad y Coetmor, Bethesda, ym 1800 ac, ym 1805, roedd y bartneriaeth yn gweithio Chwarel Tŷ'n Ffridd yno. Ym 1802 cymerodd y bartneriaeth les ar dair chwarel ar fferm [[Tal-y-sarn]], gan alw'r bartneriaeth yn "[[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]]".


Yr oedd yn ymddiddori yn y busnes allforio llechi ac yr oedd ganddo gyfranddaliadau mewn nifer o longau ynghyd ag o leiaf un long ei hun, y slŵp ''Cilgwyn''.
Yr oedd yn ymddiddori yn y busnes allforio llechi ac yr oedd ganddo gyfranddaliadau mewn nifer o longau ynghyd ag o leiaf un llong ei hun, y slŵp ''Cilgwyn''.


Pan fu farw ym 1827, fe basiodd ei fusnes lechi a'i gwmni twrnai i'w nai Evan Evans (gan nad oedd ei fab ei hun yn gymeradwy wedi iddo briodi'n groes i ddymuniadau ei dad). Nid oedd Evan Evans â diddordeb mawr yn y diwydiant llechi, gan gyfaddef ei fod wedi cael llond bol ar y fusnes, ac fe werthwyd ei siâr yn y bartneriaeth ym 1830. Ei gyngor oedd i'w gwerthu yn Llundain gan nad oedd neb lleol â digon o fodd i'w brynu.
Pan fu farw ym 1827, fe basiodd ei fusnes llechi a'i gwmni cyfreithiol i'w nai Evan Evans (gan nad oedd ei fab ei hun yn gymeradwy wedi iddo briodi'n groes i ddymuniadau ei dad). Nid oedd Evan Evans â diddordeb mawr yn y diwydiant llechi, gan gyfaddef ei fod wedi cael llond bol ar y busnes, ac fe werthwyd ei siâr yn y bartneriaeth ym 1830. Ei gyngor oedd i'w gwerthu yn Llundain gan nad oedd neb lleol â digon o fodd i'w phrynu. Roedd ewyllys John Evans yn profi'n amhosibl i'w gweinyddu, fodd bynnag, oherwydd ei or-haelioni, yn arbennig i'r ddynes a gadwai dŷ iddo. Bu farw Evan Evans yn fuan wedyn a gorfodwyd ei weddw, Anna Evans, i werthu'r holl diroedd a oedd gan John Evans.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.55-6</ref>


Er gwaethaf ei sefyllfa fel perchennog a chynrychiolydd cyfreithiol perchnogion eraill chwareli, mae rhyw faint o dystiolaeth ei fod yn fwy ystyriol o weithwyr y diwydiant oherwydd yr amodau gwaith garw nag oedd rhai o benaethiaid eraill y diwydiant.<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'',(Newton Abbot, 1974), ''passim''.</ref>
Er gwaethaf ei sefyllfa fel perchennog a chynrychiolydd cyfreithiol perchnogion eraill chwareli, mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn fwy ystyriol o weithwyr y diwydiant a'u hamodau gwaith garw na rhai o benaethiaid eraill y diwydiant.<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'',(Newton Abbot, 1974), ''passim''.</ref>
 
Mae llawer o bapurau John Evans ynglŷn â'i waith fel twrnai ac fel ffigwr yn y diwydiant llechi i'w cael yng nghasgliad dogfennau Porth-yr-aur yn Archifdy Prifysgol Bangor.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:18, 17 Tachwedd 2022

Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar John Evans (1766-1827)[1], twrnai amlwg yng Nghaernarfon a chyfalafwr cynnar y chwareli, ond ei fod yn fab fferm Tal-y-mignedd ym mhlwyf Llanllyfni.[2] Roedd yn dwrnai nodedig o Gaernarfon ac un o ddatblygwyr a chyfalafwyr cynnar chwareli llechi Dyffryn Nantlle. Roedd yn glerc yn swyddfa ystad y Faenol ym 1788, ac ym 1789 fe gafodd erthyglau i fynd yn dwrnai dan Hugh Ellis, Porth-yr-aur, Caernarfon, gan gymryd y practis twrnai drosodd ym 1808 pan fu farw Ellis. Oherwydd fod Ellis wedi bod â diddordeb yn chwareli Dyffryn Peris a bod John Evans ei hun wedi datblygu busnes cloddio am lechi, daeth ei bractis yn arbenigwyr mewn achosion yn ymwneud â hawliau tir a chloddio. Dywedir iddo fod yn hollbwysig yn y gwaith o oresgyn grym terfysgwyr tir comin plwyf Llanddeiniolen ym 1809 pan oedd ymdrechion yn dechrau i'w amgáu er budd tirfeddianwyr mawr lleol, ac Ystad y Faenol yn benodol.

Ym 1800, roedd yn un o bedwar partner a gafodd brydles ar hawliau chwarelu am lechi ar dir Comin Cilgwyn. Y tri arall oedd John Price o Sir Fôn a Thomas Jones, Bryntirion, Betws Garmon, dau dirfeddiannwr gyda diddordebau yn y gwaith o gloddio am gopr a Richard Roberts, masnachwr llechi o Gaernarfon, y pedwar felly'n ddynion cymharol leol.[3] Dywedir, fodd bynnag, mai Evans oedd y "partner rheolaethol". [4]Fe'i cysylltir yn bennaf â Chwarel Cilgwyn am y rheswm hwn, ond roedd y bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu chwareli eraill yn yr ardal a, thrwy brydlesi eraill, chwareli mewn dyffrynnoedd eraill, megis Garreg Fawr (Waunfawr), Graig Ddu (ar yr hen ffordd rhwng Waunfawr a Llanberis) a chwarel Cook a'r Ddôl ym mhlwyf Llanrug. O 1805 hyd 1807, roedd y bartneriaeth hefyd yn gyfrifol am Chwarel Hafod-y-wern ger Betws Garmon, ond ym mhlwyf Llanwnda, Uwchgwyrfai.[5] Cafwyd hefyd brydles ar chwareli ar ran o ystad y Coetmor, Bethesda, ym 1800 ac, ym 1805, roedd y bartneriaeth yn gweithio Chwarel Tŷ'n Ffridd yno. Ym 1802 cymerodd y bartneriaeth les ar dair chwarel ar fferm Tal-y-sarn, gan alw'r bartneriaeth yn "Cwmni Llechi Tal-y-sarn".

Yr oedd yn ymddiddori yn y busnes allforio llechi ac yr oedd ganddo gyfranddaliadau mewn nifer o longau ynghyd ag o leiaf un llong ei hun, y slŵp Cilgwyn.

Pan fu farw ym 1827, fe basiodd ei fusnes llechi a'i gwmni cyfreithiol i'w nai Evan Evans (gan nad oedd ei fab ei hun yn gymeradwy wedi iddo briodi'n groes i ddymuniadau ei dad). Nid oedd Evan Evans â diddordeb mawr yn y diwydiant llechi, gan gyfaddef ei fod wedi cael llond bol ar y busnes, ac fe werthwyd ei siâr yn y bartneriaeth ym 1830. Ei gyngor oedd i'w gwerthu yn Llundain gan nad oedd neb lleol â digon o fodd i'w phrynu. Roedd ewyllys John Evans yn profi'n amhosibl i'w gweinyddu, fodd bynnag, oherwydd ei or-haelioni, yn arbennig i'r ddynes a gadwai dŷ iddo. Bu farw Evan Evans yn fuan wedyn a gorfodwyd ei weddw, Anna Evans, i werthu'r holl diroedd a oedd gan John Evans.[6]

Er gwaethaf ei sefyllfa fel perchennog a chynrychiolydd cyfreithiol perchnogion eraill chwareli, mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn fwy ystyriol o weithwyr y diwydiant a'u hamodau gwaith garw na rhai o benaethiaid eraill y diwydiant.[7]

Mae llawer o bapurau John Evans ynglŷn â'i waith fel twrnai ac fel ffigwr yn y diwydiant llechi i'w cael yng nghasgliad dogfennau Porth-yr-aur yn Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Archive Hub, [1], cyrchwyd 30.9.2019
  2. Gwefan Archive Hub, [2], cyrchwyd 30.9.2019
  3. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.220
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.28
  5. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.36
  6. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.55-6
  7. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), passim.