Y Gurn Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gurn Ddu''' yn fynydd uwchben pentref [[Gurn Goch]]. Mae'r copa ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] er bod rhai o'r mynydd ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus â chwareli[[Yr Eifl|'r Eifl]]. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, copa uchaf y pum copa Gurn Ddu, [[Gurn Goch]], [[Bwlch Mawr]], Clipuau a Moel Bronmiod. Mae hen bentyrrau o gerrig ar ystys de-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau megis cytiau crwn yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch.
Mae '''Gurn Ddu''' yn fynydd uwchben ardal Tyddyn Hywel a phentref [[Gurn Goch]]. Mae'r copa ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] er bod rhan o'r mynydd ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Ar yr ochr serth sy'n wynebu'r môr ceir olion dwy hen chwarel ithfaen, er na fu'r un ohonynt mor llewyrchus o gryn dipyn â chwareli[[Yr Eifl|'r Eifl]]. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, gopa uchaf y pum copa, Gurn Ddu, [[Gurn Goch]], [[Bwlch Mawr]], Clipiau a [[Moel Bronmiod]]. Mae hen garneddau, sef pentyrrau o gerrig o'r Oes Efydd ar ystlys dde-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau, megis cytiau crynion o'r Oes Haearn, yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch. Ail-ddefnyddiwyd rhai o'r hen waliau hyn i greu corlannau defaid ar ryw adeg.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:29, 10 Ebrill 2022

Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben ardal Tyddyn Hywel a phentref Gurn Goch. Mae'r copa ym mhlwyf Llanaelhaearn er bod rhan o'r mynydd ym mhlwyf Clynnog Fawr. Ar yr ochr serth sy'n wynebu'r môr ceir olion dwy hen chwarel ithfaen, er na fu'r un ohonynt mor llewyrchus o gryn dipyn â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, gopa uchaf y pum copa, Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipiau a Moel Bronmiod. Mae hen garneddau, sef pentyrrau o gerrig o'r Oes Efydd ar ystlys dde-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau, megis cytiau crynion o'r Oes Haearn, yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch. Ail-ddefnyddiwyd rhai o'r hen waliau hyn i greu corlannau defaid ar ryw adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau