Bachwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir....'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu.
[[Delwedd:Bachwen.jpg|bawd|350px|de]]


Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys un slab mawr o garreg, gyda phedair maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], Frederick George Wynn|F.G. Wynn]]
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth.
 
Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes gynnar Neolithig, 4200-3500CC.<ref>Gwefan Ancient Monuments, [https://ancientmonuments.uk/128075-bachwen-burial-chamber-clynnog], cyrchwyts 22.8.2019</ref>
 
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.
 
Mae dwsinau o bantau cwpan (''cup-holes'') ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55</ref>
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Archeoleg]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:20, 22 Awst 2019

Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth.

Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd. Dyddia'r heneb yn ôl i'r oes gynnar Neolithig, 4200-3500CC.[1]

Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[2]


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Ancient Monuments, [1], cyrchwyts 22.8.2019
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55