Pont Lyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfnwy]].  
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfni]]. Bu bont yno, fodd bynnag, am lawer o flynyddoedd cyn i'r ffordd dyrpeg ei gwella gan fod sôn am y bont , a hynny mewn cyflwr gwael, mor gynnar â 1654.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1654-5/56</ref>


Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].


Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au, lledwyd y ffordd a chwalwyd Swyddfa'r Post (Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref>Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref>  Roedd iddi dri bwa.  Roedd carreg yn nodi dyddiad ei hagor yn 1777 arni,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr. Gosodwyd y garreg hon ar y lle i ymochel bws gerllaw ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref>  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.<ref>Archifdy Caernarfon XPE/28/131</ref> Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]]
[[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]]
 
Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:
 
          ''Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw''
          ''Pont glòs odiaeth pont glws ydyw''
          ''Pont ar li Lyfni liw''
          ''Pont ddeil ond dŵr dyliw''."''
 
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777
 
Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post ([[Tafarn y Boar's Head]] gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref>


I'w barhau...


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:10, 12 Chwefror 2023

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfni. Bu bont yno, fodd bynnag, am lawer o flynyddoedd cyn i'r ffordd dyrpeg ei gwella gan fod sôn am y bont , a hynny mewn cyflwr gwael, mor gynnar â 1654.[1]

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[2]  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.[3] Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
Blwyddyn codi'r bont 1777
Englyn ar yr hen bont

Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:

         Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw
         Pont glòs odiaeth pont glws ydyw
         Pont ar li Lyfni liw
         Pont ddeil ond dŵr dyliw."
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777

Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post (Tafarn y Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[4]


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1654-5/56
  2. Archifdy Caernarfon XPlansB/158
  3. Archifdy Caernarfon XPE/28/131
  4. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45