Pont Weddus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Codwyd pont dros [[Afon Weddus]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Dichon mai "'''Pont Weddus"''' oedd ei henw.
Codwyd pont dros [[Afon Weddus]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Dichon mai "'''Pont Weddus"''' oedd ei henw. Roedd pont dros yr Afon "Gwenis" (sef mae'n debyg yr Afon Mynweddus neu Weddus]] mor gynnar â 1657, pan nodwyd bod angen gwelliannau iddi er mwyn atal i'r afon orlifo. Safai ar y ffordd gyhoeddus rhwng Pwllheli a Chaernarfon.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1657/182</ref>


Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwarter ar y ffordd dyrpeg. Pont un bwa,  21 ' ar draws oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, [[Clynnog Fawr]], iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros [[Afon Llifon]], Llandwrog]], sef [[Pont Plas Newydd]], a chost y ddwy bont oedd £200 am y bont dros y Llifon a £100 am Pont Weddus|Bont Weddus.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/169</ref>
Mae'n bosibl mai dyma'r bont a wnaed o'r newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwarter ar y ffordd dyrpeg. Pont un bwa,  21' ar draws, oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, [[Clynnog Fawr]], iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi pont dros [[Afon Llifon]], Llandwrog]], sef [[Pont Plas Newydd]], a chost y ddwy bont oedd £200 am y bont dros y Llifon a £100 am Pont Weddus|Bont Weddus.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/169</ref>
 
Mae peth ansicrwydd ynglŷn â pha afon neu nant oedd yr Afon Weddus, ond mae'n bur debyg mai'r afonig sy'n rhedeg trwy bentref Clynnog ar hyd ochr y tŷ capel, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Tŷ Coch ydoedd. Dichon felly mai ger Tŷ Coch y mae, neu yr oedd, Pont Weddus.<ref>Gwybodaeth ar lafar gan Marian Elias Roberts</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Pontydd]]
[[Categori:Pontydd]]
Archifdy Gwynedd, XPlansB/169

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:14, 14 Ionawr 2022

Codwyd pont dros Afon Weddus ym mhlwyf Clynnog Fawr. Dichon mai "Pont Weddus" oedd ei henw. Roedd pont dros yr Afon "Gwenis" (sef mae'n debyg yr Afon Mynweddus neu Weddus]] mor gynnar â 1657, pan nodwyd bod angen gwelliannau iddi er mwyn atal i'r afon orlifo. Safai ar y ffordd gyhoeddus rhwng Pwllheli a Chaernarfon.[1]

Mae'n bosibl mai dyma'r bont a wnaed o'r newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwarter ar y ffordd dyrpeg. Pont un bwa, 21' ar draws, oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, Clynnog Fawr, iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi pont dros Afon Llifon, Llandwrog]], sef Pont Plas Newydd, a chost y ddwy bont oedd £200 am y bont dros y Llifon a £100 am Pont Weddus|Bont Weddus.[2]

Mae peth ansicrwydd ynglŷn â pha afon neu nant oedd yr Afon Weddus, ond mae'n bur debyg mai'r afonig sy'n rhedeg trwy bentref Clynnog ar hyd ochr y tŷ capel, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Tŷ Coch ydoedd. Dichon felly mai ger Tŷ Coch y mae, neu yr oedd, Pont Weddus.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1657/182
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/169
  3. Gwybodaeth ar lafar gan Marian Elias Roberts