Brynaerau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Brynaerau''' yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref Pontlyfni. Ceir yno gapel ynghyd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Brynaerau''' yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell o bentref [[Pontlyfni]]. Ceir yno [[Capel Brynaerau (MC)|gapel]] ynghyd â mynwent yr ardal, [[Ysgol Brynaerau]] sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys, bellach, pentref Clynnog Fawr. Daw'r enw yn wreiddiol o ffermydd Brynaerau.
Mae '''Brynaerau''' yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], nid nepell o bentref [[Pontlyfni]]. Ceir yno [[Capel Brynaerau (MC)|gapel]] ynghyd â mynwent yr ardal, [[Ysgol Brynaerau]] sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys pentref Clynnog Fawr, a fferm Brynaerau. Nid yw'n bell o [[Pont-y-Cim|Bont-y-Cim]], lle cafwyd Efail-y-Cim.
 
Mae plasty gerllaw, [[Bron Dirion]], a godwyd yn 1842, ac a helaethwyd yn 1872. Bu'r plasty'n gartref dros dro i'r anturiaethwr ifanc [[Edgar Christian]].
 
Ymddengys yr enw gwreiddiol, Bryn  Arien,  ym [[Pedwaredd Gainc y Mabinogi|Mhedwaredd Gainc y Mabinogi]] (Math fab Mathonwy) pan oedd Arianrhod wedi tynghedu na fyddai ei mab, Lleu Llaw Gyffes, yn cael arfau heb iddi hi ei hun eu gwisgo amdano. Ond, yn groes i hynny, hyfforddwyd ef  gan Gwydion i farchogaeth ceffylau ac i drin arfau. Aethant i weld Arianrhod am yr eildro, y tro hwn yn rhith dau was ifanc.  "Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth, cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny parth â Bryn Arien."<ref>''Pedair Cainc y Mabinogi'' wedi eu diweddaru gan T.H. Parry-Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1959, t. 95</ref> 
 
Roedd Syr Ifor Williams o’r farn nad y Brynaerau presennol oedd hwn:  "Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau.  Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien..."  <ref>''Pedeir Keinc y Mabinogi'' gan Syr Ifor Williams, D.Litt. Ail Argraffiad, Gwasg Prifysgol Cymru, 1951.</ref> Enw cae ar fferm [[Llyn y Gele]],<ref>"celid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir" Allan o "Enwau Lleoedd" gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd,  1962, tud. 57</ref> Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.<ref> gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau. </ref> 
 


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:24, 19 Ebrill 2024

Mae Brynaerau yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref Pontlyfni. Ceir yno gapel ynghyd â mynwent yr ardal, Ysgol Brynaerau sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys pentref Clynnog Fawr, a fferm Brynaerau. Nid yw'n bell o Bont-y-Cim, lle cafwyd Efail-y-Cim.

Mae plasty gerllaw, Bron Dirion, a godwyd yn 1842, ac a helaethwyd yn 1872. Bu'r plasty'n gartref dros dro i'r anturiaethwr ifanc Edgar Christian.

Ymddengys yr enw gwreiddiol, Bryn Arien, ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi (Math fab Mathonwy) pan oedd Arianrhod wedi tynghedu na fyddai ei mab, Lleu Llaw Gyffes, yn cael arfau heb iddi hi ei hun eu gwisgo amdano. Ond, yn groes i hynny, hyfforddwyd ef gan Gwydion i farchogaeth ceffylau ac i drin arfau. Aethant i weld Arianrhod am yr eildro, y tro hwn yn rhith dau was ifanc. "Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth, cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny parth â Bryn Arien."[1]

Roedd Syr Ifor Williams o’r farn nad y Brynaerau presennol oedd hwn: "Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien..." [2] Enw cae ar fferm Llyn y Gele,[3] Pontlyfni, yw Bryn Beddau bellach.[4]


Cyfeiriadau

  1. Pedair Cainc y Mabinogi wedi eu diweddaru gan T.H. Parry-Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1959, t. 95
  2. Pedeir Keinc y Mabinogi gan Syr Ifor Williams, D.Litt. Ail Argraffiad, Gwasg Prifysgol Cymru, 1951.
  3. "celid gelod mewn llyn oedd gynt ar y tir" Allan o "Enwau Lleoedd" gan Syr Ifor Williams, MA, D.Litt, FAA, FSA, Gwasg y Brython, Lerpwl, Argraffiad Newydd, 1962, tud. 57
  4. gwybodaeth gan W. Vaughan Jones, Llyn-y-Gele, ar gyfer casgliad Canolfan Hanes Uwchgwyrfai o enwau caeau.