Robert Williams Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Williams Parry''' (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i [[Thomas Parry]] a Syr T.H. Parry-Williams - reodd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni ym mhentref [[Tal-y-sarn]], lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd.
Roedd '''Robert Williams Parry''' (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er na chyhoeddodd ond dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Syr [[Thomas Parry]] a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni yn Madog View, tŷ ym mhentref [[Tal-y-sarn]], lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd, dros y ffordd i safle'r hen orsaf. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r gofeb ym 1969 yma [https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-dadorchuddio-cofeb-r-williams-parry-1969-online].


==Gyrfa==
==Gyrfa==
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a [[Ysgol Sir Pen-y-groes|Phen-y-groes]] cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio, gan sicrhau swydd fel athro. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion Cefnddwysarn a Sarn (Pen Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn ddychwelyd i'r Barri, 1918. Ym 1921 fe'i benodwyd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Bangor.
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a [[Ysgol Sir Pen-y-groes|Phen-y-groes]] cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle'r arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio. Yn dilyn hynny cafodd swydd fel athro ysgol. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion cynradd Cefnddwysarn a Sarn (Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn dychwelyd i'r Barri ym 1918. Ym 1921 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a'r Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Bangor.


Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond yr oedd yr Athro, [[Ifor Williams|Syr Ifor Williams]], yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn oedd gan RWP yn ddigon academaidd. Dilynodd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.<ref>Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [https://cy.wikipedia.org/wiki/Robert_Williams_Parry]</ref>
Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond roedd yr Athro, [[Ifor Williams|Syr Ifor Williams]], yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn a oedd gan RWP yn ei ddarlithoedd yn ddigon academaidd. Dilynwyd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.<ref>Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [https://cy.wikipedia.org/wiki/Robert_Williams_Parry]</ref>
 
Yn ôl pob sôn roedd yn ddyn swil ac ofnus, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos, gan gynnwys am sawl tymor yn [[Trefor|Nhrefor]], lle llwyddodd i feithrin nifer o feirdd medrus yn y mesurau caeth. Roedd yn genedlaetholwr cadarn a chafodd carchariad Tri Penyberth effaith sylweddol arno, ac yn arbennig ddiswyddo Saunders Lewis gan Goleg y Brifysgol, Abertawe, yn dilyn ei garchariad. Cyfansoddodd nifer o gerddi ysgytwol i Saunders Lewis a'r erlid a fu arno o du awdurdodau'r brifysgol yn arbennig.


==Gwaith llenyddol==
==Gwaith llenyddol==
Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl ''Yr Haf'', cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.
Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau ŵr a oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef [[Owen Edwards (Anant)]], chwarelwr, a [[H.E. Jones (Hywel Cefni)]], gwerthwr dillad.
 
Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl ''Yr Haf'', cerdd a barodd gryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.<ref>Erthygl ar Robert Williams Parry yn ''Y Bygraffiadur ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-PARR-WIL-1884]</ref>
 
Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau, ond ysgubol, o farddoniaeth, ''Yr Haf a Cherddi eraill'' (1924) a ''Cerddi'r Gaeaf'' (1956). Yn y gyntaf o'r rhain ceir ''Mae Hiraeth yn y Môr'', ''Y Llwynog'' ac ''Englynion Coffa Hedd Wyn'' yn ogystal â'r awdl faith a enillodd iddo'r gadair ym 1910; yn yr ail ceir cerddi megis ''Eifionydd'', ''Y Ddôl a aeth o'r golwg'' ([[Dolbebin]]), ''Cymru 1937'' (efallai ei soned fwyaf un) a'r englyn i ''Neuadd Goffa Mynytho''. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.
 
Priododd ym 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog (bu farw ym 1972), ac yn dilyn ei benodi'n ddarlithydd ym Mangor fe wnaethant ymgartrefu yn ardal Coetmor, Bethesda - mae plac ar wyneb y tŷ yn nodi iddo fod yn gartref i RWP. Ni chawsant blant. Mae'r ddau wedi eu claddu wrth ochr y prif lwybr sy'n mynd ar draws drwy ganol Mynwent Coetmor.  


Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau ond ysgubol o farddoniaeth, ''Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a ''Cerddi'r Gaeaf'' (1956). Yn y cyntaf o'r rhain ceir "Mae Hiraeth yn y Môr" ac "Englynion Coffa Hedd Wyn"; yn yr ail ceir cerddi megis "Eifionydd", "Y Ddôl a aeth o'r golwg" (Dol Pebin), "Cymru 1937" a'r englyn "Neuadd Goffa Mynytho". Cyhopeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.
==Ei gartref==
Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:15, 21 Mai 2022

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er na chyhoeddodd ond dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Syr Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni yn Madog View, tŷ ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd, dros y ffordd i safle'r hen orsaf. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r gofeb ym 1969 yma [1].

Gyrfa

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle'r arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio. Yn dilyn hynny cafodd swydd fel athro ysgol. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion cynradd Cefnddwysarn a Sarn (Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn dychwelyd i'r Barri ym 1918. Ym 1921 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a'r Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Bangor.

Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond roedd yr Athro, Syr Ifor Williams, yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn a oedd gan RWP yn ei ddarlithoedd yn ddigon academaidd. Dilynwyd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.[1]

Yn ôl pob sôn roedd yn ddyn swil ac ofnus, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos, gan gynnwys am sawl tymor yn Nhrefor, lle llwyddodd i feithrin nifer o feirdd medrus yn y mesurau caeth. Roedd yn genedlaetholwr cadarn a chafodd carchariad Tri Penyberth effaith sylweddol arno, ac yn arbennig ddiswyddo Saunders Lewis gan Goleg y Brifysgol, Abertawe, yn dilyn ei garchariad. Cyfansoddodd nifer o gerddi ysgytwol i Saunders Lewis a'r erlid a fu arno o du awdurdodau'r brifysgol yn arbennig.

Gwaith llenyddol

Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau ŵr a oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef Owen Edwards (Anant), chwarelwr, a H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad.

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd gryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.[2]

Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau, ond ysgubol, o farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1956). Yn y gyntaf o'r rhain ceir Mae Hiraeth yn y Môr, Y Llwynog ac Englynion Coffa Hedd Wyn yn ogystal â'r awdl faith a enillodd iddo'r gadair ym 1910; yn yr ail ceir cerddi megis Eifionydd, Y Ddôl a aeth o'r golwg (Dolbebin), Cymru 1937 (efallai ei soned fwyaf un) a'r englyn i Neuadd Goffa Mynytho. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.

Priododd ym 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog (bu farw ym 1972), ac yn dilyn ei benodi'n ddarlithydd ym Mangor fe wnaethant ymgartrefu yn ardal Coetmor, Bethesda - mae plac ar wyneb y tŷ yn nodi iddo fod yn gartref i RWP. Ni chawsant blant. Mae'r ddau wedi eu claddu wrth ochr y prif lwybr sy'n mynd ar draws drwy ganol Mynwent Coetmor.

Ei gartref

Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei dŷ yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [2]
  2. Erthygl ar Robert Williams Parry yn Y Bygraffiadur ar-lein, [3]