Robert Williams Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Robert Williams Parry''' (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 21 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert Williams Parry''' (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i [[Thomas Parry]] a [[T.H. Parry-Williams]] - reodd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni ym mhentref [[Tal-y-sarn]], lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd.
Roedd '''Robert Williams Parry''' (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er na chyhoeddodd ond dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Syr [[Thomas Parry]] a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni yn Madog View, tŷ ym mhentref [[Tal-y-sarn]], lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd, dros y ffordd i safle'r hen orsaf. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r gofeb ym 1969 yma [https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-dadorchuddio-cofeb-r-williams-parry-1969-online].
 
==Gyrfa==
Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a [[Ysgol Sir Pen-y-groes|Phen-y-groes]] cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle'r arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio. Yn dilyn hynny cafodd swydd fel athro ysgol. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion cynradd Cefnddwysarn a Sarn (Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn dychwelyd i'r Barri ym 1918. Ym 1921 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a'r Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Bangor.
 
Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond roedd yr Athro, [[Ifor Williams|Syr Ifor Williams]], yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn a oedd gan RWP yn ei ddarlithoedd yn ddigon academaidd. Dilynwyd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.<ref>Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [https://cy.wikipedia.org/wiki/Robert_Williams_Parry]</ref>
 
Yn ôl pob sôn roedd yn ddyn swil ac ofnus, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos, gan gynnwys am sawl tymor yn [[Trefor|Nhrefor]], lle llwyddodd i feithrin nifer o feirdd medrus yn y mesurau caeth. Roedd yn genedlaetholwr cadarn a chafodd carchariad Tri Penyberth effaith sylweddol arno, ac yn arbennig ddiswyddo Saunders Lewis gan Goleg y Brifysgol, Abertawe, yn dilyn ei garchariad. Cyfansoddodd nifer o gerddi ysgytwol i Saunders Lewis a'r erlid a fu arno o du awdurdodau'r brifysgol yn arbennig.
 
==Gwaith llenyddol==
Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau ŵr a oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef [[Owen Edwards (Anant)]], chwarelwr, a [[H.E. Jones (Hywel Cefni)]], gwerthwr dillad.
 
Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl ''Yr Haf'', cerdd a barodd gryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.<ref>Erthygl ar Robert Williams Parry yn ''Y Bygraffiadur ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-PARR-WIL-1884]</ref>
 
Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau, ond ysgubol, o farddoniaeth, ''Yr Haf a Cherddi eraill'' (1924) a ''Cerddi'r Gaeaf'' (1956). Yn y gyntaf o'r rhain ceir ''Mae Hiraeth yn y Môr'', ''Y Llwynog'' ac ''Englynion Coffa Hedd Wyn'' yn ogystal â'r awdl faith a enillodd iddo'r gadair ym 1910; yn yr ail ceir cerddi megis ''Eifionydd'', ''Y Ddôl a aeth o'r golwg'' ([[Dolbebin]]), ''Cymru 1937'' (efallai ei soned fwyaf un) a'r englyn i ''Neuadd Goffa Mynytho''. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.
 
Priododd ym 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog (bu farw ym 1972), ac yn dilyn ei benodi'n ddarlithydd ym Mangor fe wnaethant ymgartrefu yn ardal Coetmor, Bethesda - mae plac ar wyneb y tŷ yn nodi iddo fod yn gartref i RWP. Ni chawsant blant. Mae'r ddau wedi eu claddu wrth ochr y prif lwybr sy'n mynd ar draws drwy ganol Mynwent Coetmor.
 
==Ei gartref==
Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei dŷ yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:15, 21 Mai 2022

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er na chyhoeddodd ond dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Syr Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni yn Madog View, tŷ ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd, dros y ffordd i safle'r hen orsaf. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r gofeb ym 1969 yma [1].

Gyrfa

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle'r arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio. Yn dilyn hynny cafodd swydd fel athro ysgol. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion cynradd Cefnddwysarn a Sarn (Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn dychwelyd i'r Barri ym 1918. Ym 1921 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a'r Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Bangor.

Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond roedd yr Athro, Syr Ifor Williams, yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn a oedd gan RWP yn ei ddarlithoedd yn ddigon academaidd. Dilynwyd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.[1]

Yn ôl pob sôn roedd yn ddyn swil ac ofnus, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos, gan gynnwys am sawl tymor yn Nhrefor, lle llwyddodd i feithrin nifer o feirdd medrus yn y mesurau caeth. Roedd yn genedlaetholwr cadarn a chafodd carchariad Tri Penyberth effaith sylweddol arno, ac yn arbennig ddiswyddo Saunders Lewis gan Goleg y Brifysgol, Abertawe, yn dilyn ei garchariad. Cyfansoddodd nifer o gerddi ysgytwol i Saunders Lewis a'r erlid a fu arno o du awdurdodau'r brifysgol yn arbennig.

Gwaith llenyddol

Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau ŵr a oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef Owen Edwards (Anant), chwarelwr, a H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad.

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd gryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.[2]

Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau, ond ysgubol, o farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1956). Yn y gyntaf o'r rhain ceir Mae Hiraeth yn y Môr, Y Llwynog ac Englynion Coffa Hedd Wyn yn ogystal â'r awdl faith a enillodd iddo'r gadair ym 1910; yn yr ail ceir cerddi megis Eifionydd, Y Ddôl a aeth o'r golwg (Dolbebin), Cymru 1937 (efallai ei soned fwyaf un) a'r englyn i Neuadd Goffa Mynytho. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.

Priododd ym 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog (bu farw ym 1972), ac yn dilyn ei benodi'n ddarlithydd ym Mangor fe wnaethant ymgartrefu yn ardal Coetmor, Bethesda - mae plac ar wyneb y tŷ yn nodi iddo fod yn gartref i RWP. Ni chawsant blant. Mae'r ddau wedi eu claddu wrth ochr y prif lwybr sy'n mynd ar draws drwy ganol Mynwent Coetmor.

Ei gartref

Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei dŷ yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [2]
  2. Erthygl ar Robert Williams Parry yn Y Bygraffiadur ar-lein, [3]