Sarn Helen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Derbynnir yn gyffredinol | Derbynnir yn gyffredinol mai '''Sarn Helen''' oedd y ffordd Rufeinig a gysylltai gaerau Nidum (Castell Nedd) a Canovium (Caerhun yn Nyffryn Conwy), ond mae llawer yn defnyddio'r enw ar gyfer y ffordd Rufeinig a redai (mae'n bur debyg) i gyfeiriad y de o Gaernarfon i gyfeiriad Tomen y Mur ger Trawsfynydd, lle mae'n ymuno â'r brif ffordd Sarn Helen.<ref>Gweler yr erthygl yn Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Sarn_Helen]</ref> | ||
Er gwaethaf y ffaith fod rhai mapiau Ordnans yn dangos "Sarn Helen" ar ambell i fap, mae dadl yn parhau parthed llinell a hyd yn oed | Er gwaethaf y ffaith fod rhai mapiau Ordnans yn dangos "Sarn Helen" ar ambell i fap, mae dadl yn parhau parthed llinell, a hyd yn oed fodolaeth, rhai darnau o ffordd Rufeinig. Mae'r astudiaeth ddiweddaraf<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Roman Roads in North-West Wales'', Adroddiad Rhif 668, 4ydd Adolygiad, 2007 [http://www.walesher1974.org/her/groups/GAT/media/GAT_Reports/GATreport_668_compressed.pdf]</ref> yn awgrymu bod ffordd o Gaernarfon ar draws bryniau Uwchgwyrfai i gyfeiriad Bryncir, lle ceir olion gwersyll Rhufeinig ym Mhen Llystyn. Credir, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r llinell o dan ffyrdd a lonydd gwyrdd presennol ac nid oes tystiolaeth bendant ohoni felly. Ni ddylid ystyried enw [[Penfforddelen]], [[Y Groeslon]], fel tystiolaeth ychwaith, gan mai ''Pen y Ffordd Felen'' oedd yr enw'n wreiddiol nes i awydd am ganfod cysylltiadau ag Elen Luyddog a Segontiwm lurgeinio sawl enw lle yn lleol (er enghraifft, trodd Coed Alun yn Goed Helen). | ||
Mae'r gair''Sarn'' yn yr achos yma yn cyfeirio at ffordd wedi ei wynebu â slabiau neu gerrig sylweddol. | Mae'r gair''Sarn'' yn yr achos yma yn cyfeirio at ffordd wedi ei wynebu â slabiau neu gerrig sylweddol. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:09, 11 Ionawr 2022
Derbynnir yn gyffredinol mai Sarn Helen oedd y ffordd Rufeinig a gysylltai gaerau Nidum (Castell Nedd) a Canovium (Caerhun yn Nyffryn Conwy), ond mae llawer yn defnyddio'r enw ar gyfer y ffordd Rufeinig a redai (mae'n bur debyg) i gyfeiriad y de o Gaernarfon i gyfeiriad Tomen y Mur ger Trawsfynydd, lle mae'n ymuno â'r brif ffordd Sarn Helen.[1]
Er gwaethaf y ffaith fod rhai mapiau Ordnans yn dangos "Sarn Helen" ar ambell i fap, mae dadl yn parhau parthed llinell, a hyd yn oed fodolaeth, rhai darnau o ffordd Rufeinig. Mae'r astudiaeth ddiweddaraf[2] yn awgrymu bod ffordd o Gaernarfon ar draws bryniau Uwchgwyrfai i gyfeiriad Bryncir, lle ceir olion gwersyll Rhufeinig ym Mhen Llystyn. Credir, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r llinell o dan ffyrdd a lonydd gwyrdd presennol ac nid oes tystiolaeth bendant ohoni felly. Ni ddylid ystyried enw Penfforddelen, Y Groeslon, fel tystiolaeth ychwaith, gan mai Pen y Ffordd Felen oedd yr enw'n wreiddiol nes i awydd am ganfod cysylltiadau ag Elen Luyddog a Segontiwm lurgeinio sawl enw lle yn lleol (er enghraifft, trodd Coed Alun yn Goed Helen).
Mae'r gairSarn yn yr achos yma yn cyfeirio at ffordd wedi ei wynebu â slabiau neu gerrig sylweddol.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma