Robert (R.) Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B ychwanegu categori |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''R. Lloyd Jones''' oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt. | '''R. Lloyd Jones''' (1878-1962) oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt. | ||
Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. | |||
Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl. | Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl. | ||
Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y ''C.E.Spooner'', a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog. | Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y ''C.E.Spooner'', a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog. | ||
Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd. | Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd. | ||
Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw. | Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw. | ||
Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru. | Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru. | ||
Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd Uwchgwyrfai ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro Ysgol Trefor, ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd Drefor i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno. | Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd [[Uwchgwyrfai]] ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro [[Ysgol Trefor]], ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd [[Trefor|Drefor]] i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno. | ||
[[categori: | |||
Bu farw 1962. ac fe'i gladdwyd ym mynwent Coetmor Bethesda, nid nepell oddi wrth R Williams Parry. <ref>Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’ (Caerdydd,1986), t.328</ref> | |||
Ceir rhestr o'i weithiau llenyddol [[Nofelau a Dramâu R. Lloyd Jones|'''yma''']]. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[categori:Diwylliant]] | |||
[[Categori: Addysg ]] | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Athrawon]] | |||
[[Categori:Awduron]] | |||
[[Categori:Dramodwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 23:39, 12 Mawrth 2024
R. Lloyd Jones (1878-1962) oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt.
Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl.
Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y C.E.Spooner, a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog.
Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd.
Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw.
Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru.
Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd Uwchgwyrfai ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro Ysgol Trefor, ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd Drefor i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno.
Bu farw 1962. ac fe'i gladdwyd ym mynwent Coetmor Bethesda, nid nepell oddi wrth R Williams Parry. [1]
Ceir rhestr o'i weithiau llenyddol yma.
Cyfeiriadau
- ↑ Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’ (Caerdydd,1986), t.328