David Lloyd George: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Er iddo fod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth y sir - ac yn wir y wlad i gyd - prin oedd cysylltiadau uniongyrchol ac ymwneud '''David Lloyd George''' ag [[Uwchgwyrfai]]. Roedd ei hen daid, Richard David Lloyd (ganed 1772) yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]]. Fe briododd ddwywaith a disgynnydd iddo a'i ail wraig, Elizabeth Roberts (g.1776) oedd David Lloyd Pritchard a aned ym 1800 yn Llanystumdwy. Fo oedd taid David Lloyd George. Fe briododd David Lloyd Pritchard â Rebecca Williams (merch William ac Elin Samuels) yn Nenio (Pwllheli) ym 1824.<ref>Gwybodaeth gan Ivor Gwyn</ref>
Er iddo fod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth y sir - ac yn wir y wlad i gyd - prin oedd cysylltiadau uniongyrchol '''David Lloyd George''' ag [[Uwchgwyrfai]] a'i ymwneud â'r cwmwd. Roedd ei hen daid, Richard David Lloyd (ganed 1772) yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]]. Fe briododd ddwywaith a disgynnydd iddo ef a'i ail wraig, Elizabeth Roberts (g.1776), oedd David Lloyd Pritchard a aned ym 1800 yn Llanystumdwy. Ef oedd taid David Lloyd George. Fe briododd David Lloyd Pritchard â Rebecca Williams (merch William ac Elin Samuels) yn Nenio (Pwllheli) ym 1824.<ref>Gwybodaeth gan Ivor Gwyn</ref>
 
Saif un cysylltiad arall pwysig ym mywyd personol Lloyd George sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai. Roedd Margaret ei wraig yn hanu o deulu Tyddyn Mawr, [[Llanaelhaearn]], a phan oedd y ddau'n canlyn a theulu Margaret yn anhapus ynglŷn â'r berthynas, fe'i hanfonwyd hi am gyfnod o'i chartref, Mynydd Ednyfed, Cricieth, at ei hewythr a oedd yn ffermio yn [[Llyn y Gele]], [[Pontlyfni]], yn y gobaith y byddai pellter rhyngddynt yn oeri'r berthynas. Ysywaeth, ymwelodd Lloyd George â Margaret yno a dywedir mai ar risiau llofft yr ŷd Llyn y Gele y bu i'r ddau ddyweddïo.<ref>Gweler erthygl ar [[Llyn y Gele]] am gyfeiriadau.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:48, 8 Mehefin 2022

Er iddo fod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth y sir - ac yn wir y wlad i gyd - prin oedd cysylltiadau uniongyrchol David Lloyd George ag Uwchgwyrfai a'i ymwneud â'r cwmwd. Roedd ei hen daid, Richard David Lloyd (ganed 1772) yn hanu o blwyf Clynnog Fawr. Fe briododd ddwywaith a disgynnydd iddo ef a'i ail wraig, Elizabeth Roberts (g.1776), oedd David Lloyd Pritchard a aned ym 1800 yn Llanystumdwy. Ef oedd taid David Lloyd George. Fe briododd David Lloyd Pritchard â Rebecca Williams (merch William ac Elin Samuels) yn Nenio (Pwllheli) ym 1824.[1]

Saif un cysylltiad arall pwysig ym mywyd personol Lloyd George sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai. Roedd Margaret ei wraig yn hanu o deulu Tyddyn Mawr, Llanaelhaearn, a phan oedd y ddau'n canlyn a theulu Margaret yn anhapus ynglŷn â'r berthynas, fe'i hanfonwyd hi am gyfnod o'i chartref, Mynydd Ednyfed, Cricieth, at ei hewythr a oedd yn ffermio yn Llyn y Gele, Pontlyfni, yn y gobaith y byddai pellter rhyngddynt yn oeri'r berthynas. Ysywaeth, ymwelodd Lloyd George â Margaret yno a dywedir mai ar risiau llofft yr ŷd Llyn y Gele y bu i'r ddau ddyweddïo.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan Ivor Gwyn
  2. Gweler erthygl ar Llyn y Gele am gyfeiriadau.