Pont Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pont Newydd''' yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynnau plwyfi [[Llanwnda]] a Llanbeblig. Mae'n croesi [[Afon Gwyrfai]], yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhêd y ffordd A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef [[Y Bontnewydd]]. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, cyn y 17g pan godwyd [[Plas-y-bont]] gerllaw.Yn wir, mae sôn am fan a elwid "y bont newydd" mor gynnar â 1552.<ref>Archifdy Caernarfon, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwarter Ebrill 1552, t.5</ref> Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840, ac fe'i gwnaed o'r newydd ar ôl dymchwel yr hen bont.  
'''Pont Newydd''' yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynau plwyfi [[Llanwnda]] a Llanbeblig. Mae'n croesi [[Afon Gwyrfai]], yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhed ffordd yr A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef [[Y Bontnewydd]]. Mae'r enw'n cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, cyn y 17g pan godwyd [[Plas-y-bont]] gerllaw. Yn wir, mae sôn am fan a elwid y bont newydd ("''the new brige''") mor gynnar â 1552.<ref>Archifdy Caernarfon, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwarter Ebrill 1552, t.5</ref> Sonnir am y bont ei hun cyn hynny gan yr hynafiaethydd John Leland yn ei ''Itinerary'', a ysgrifennwyd tua 1542.<ref>Lucy Toulmin Smith (gol.), ''The Itinerary in Wales of John Leland'', (Llundain, 1906), ail-olygwyd gan T.P.T. Williams (2008), [http://www.tpwilliams.co.uk/leland/leland_2010.pdf], cyrchwyd 13.2.2023</ref>


Roedd cost yr holl waith yn uchel ar y pryd, sef £454, oherwydd yr angen i chwalu'r hen bont, darparu ffordd newydd dros dro tra oedd y gwaith o adeiladu'n mynd rhagddo, cryfhau rhai tai cyfagos dros dro, a chwalu beudy o eiddo John Williams, cigydd. Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon oedd y contractor. Ni aeth y gwaith rhagddo'n ddidrafferth a rhaid oedd i'r ynadon a syrfewr y sir ymholi ym 1841 i gamgymeriadau a arweiniodd ar ran o'r gwaith cychwynnol chwalu.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/40</ref>
Mae cofnod ar gael bod yr hen bont a elwid yn Bont Newydd wedi ei hatgyweirio ar gost o £10 ym 1699.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1699-1702/58</ref>
 
Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840, ac fe'i gwnaed o'r newydd ar ôl dymchwel yr hen bont. Roedd cost yr holl waith yn uchel ar y pryd, sef £454, oherwydd yr angen i chwalu'r hen bont, darparu ffordd newydd dros dro tra oedd y gwaith o adeiladu'n mynd rhagddo, cryfhau rhai tai cyfagos dros dro, a chwalu beudy o eiddo John Williams, cigydd. Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon, oedd y contractor. Nid aeth y gwaith rhagddo'n ddidrafferth a rhaid oedd i'r ynadon a syrfewr y sir ymholi ym 1841 i gamgymeriadau a arweiniodd at i ran o'r gwaith cychwynnol chwalu.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/40</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:58, 4 Chwefror 2024

Pont Newydd yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynau plwyfi Llanwnda a Llanbeblig. Mae'n croesi Afon Gwyrfai, yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhed ffordd yr A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef Y Bontnewydd. Mae'r enw'n cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, cyn y 17g pan godwyd Plas-y-bont gerllaw. Yn wir, mae sôn am fan a elwid y bont newydd ("the new brige") mor gynnar â 1552.[1] Sonnir am y bont ei hun cyn hynny gan yr hynafiaethydd John Leland yn ei Itinerary, a ysgrifennwyd tua 1542.[2]

Mae cofnod ar gael bod yr hen bont a elwid yn Bont Newydd wedi ei hatgyweirio ar gost o £10 ym 1699.[3]

Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840, ac fe'i gwnaed o'r newydd ar ôl dymchwel yr hen bont. Roedd cost yr holl waith yn uchel ar y pryd, sef £454, oherwydd yr angen i chwalu'r hen bont, darparu ffordd newydd dros dro tra oedd y gwaith o adeiladu'n mynd rhagddo, cryfhau rhai tai cyfagos dros dro, a chwalu beudy o eiddo John Williams, cigydd. Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon, oedd y contractor. Nid aeth y gwaith rhagddo'n ddidrafferth a rhaid oedd i'r ynadon a syrfewr y sir ymholi ym 1841 i gamgymeriadau a arweiniodd at i ran o'r gwaith cychwynnol chwalu.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwarter Ebrill 1552, t.5
  2. Lucy Toulmin Smith (gol.), The Itinerary in Wales of John Leland, (Llundain, 1906), ail-olygwyd gan T.P.T. Williams (2008), [1], cyrchwyd 13.2.2023
  3. Archifdy Caernarfon, XQS/1699-1702/58
  4. Archifdy Gwynedd, XPlansB/40