Robert Price, Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:


Melinydd a saer coed oedd '''Robert Price''',  (1720-1806). Mab i Thomas Price a Jane Roberts, [[Clynnog Fawr]]. Ym Mai 1741 priododd â Catherine, unig ferch Meyrick Barnaby a Jane Samuel, [[Melin Faesog]], ac yno y cartrefodd y ddau.<ref>''Melin Faesog'', Sophia Pari-Jones, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007.</ref>
Bu Robert Price yn un o ddau a ofalai am gofrestr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys Clynnog]].<ref> Ibid. tud.24.</ref> 
 
Yr oedd cryn erlid ar Fethodistiaid ar y pryd a phan ddaeth  Lewis Evan, Llanllugan, (1720-92)  i bregethu i Glynnog, tarawodd  un o’r plwyfolion y pregethwr â choes ei chwip, nes oedd ei waed yn llifo. Pwy ataliodd yr helynt ond Robert Prys, [[Melin Faesog]].<ref>''Methodistiaeth Cymru'',Cyfrol II,John Hughes, Liverpool, tud. 159.</ref>


Melinydd a saer coed oedd '''Robert Price''', (1720-1806). Mab i Thomas Price a Jane Roberts, Clynnog. Ym Mai 1741 priododd â Catherine, unig ferch Meyrick Barnaby a Jane Samuel, [[Melin Faesog]], ac yno y cartrefodd y ddau.
Roedd Robert Price ymysg y rhai a lafuriodd i godi’r capel yng [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr|Nghapel Uchaf]].<ref>''Ibid. t. 161.</ref>Cyn codi’r capel,<ref>Ibid. Troednodyn: "Dywed Robert Jones mai hwn oedd y capel cyntaf yn sir Gaernarfon, ond mae o flaen fy llygaid, yn awr, lyfr o gofnodau y gymdeithasfa yn dadgan fod un capel, sef capel Tŷ mawr, Bryncroes,wedi ei godi tuag 8 ml. o flaen yr amser y dywedir i gapel Clynog gael ei godi. Hwnw yn y fl. 1752, hwn yn y fl. 1760."</ref> cynhelid llawer o gyfarfodydd y Methodistiaid ym Merth-ddu Bach ger [[Brynaerau]] ac mewn tŷ o';r enw Tŷ’n Lôn – tua chanllath o’r safle a ddewiswyd ar gyfer y capel yn ddiweddarachByddai plant yn mynd i’r cyfarfodydd yno a thorrodd diwygiad yn eu plith nes byddent yn moliannu ac yn gorfoleddu ar hyd y ffordd.  Ar un o’r adegau hyn daeth [[Richard Ellis]], ficer Clynnog, heibio ar ei ffordd adref i Blas y Gwynfryn. Roedd ar gefn ei geffyl a chwip yn ei law. Pan glywodd orfoledd y plant dechreuodd eu chwipio a pheri iddynt dewi. Ond daeth Robert Price, Melin Faesog, i’w hamddiffyn. Llwyddodd i afael ym mhen y ceffyl a dweud wrth y ficer: “Dyma’r ffordd i’r Gwynfryn, Syr. Pe tawai y rhai hyn fe lefarai y cerrig yn y fan.” <ref>Ibid.t.160.</ref>
   
Yn 1768 yr oedd yn un o ddau a ofalai am gofrestr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys Clynnog]].   Daeth yn Fethodist amlwg yn yr ardal fuan wedyn.   Yr oedd cryn erlid ar Fethodistiaid ar y pryd a phan ddaeth  Lewis Evan, Llanllugan, (1720-92) i bregethu i Glynnog, tarawodd un o’r plwyfolion y pregethwr â choes ei chwip, nes oedd ei waed yn llifo. Pwy ataliodd yr helynt ond Robert Prys, Melin Faesog. [TROEDNODYN I DDILYN ]


Roedd Robert Price ymysg y rhai a lafuriodd i godi’r capel yng Nghapel Uchaf.  [TROEDNODYN I DDILYN]
Ganwyd deg o blant i Robert Price a’i wraig Catherine.  Rhoddwyd y cyfenw Price, fel eu tad, i rai ohonynt.  Gyda rhai eraill, dilynwyd arferiad y cyfnod a rhoi Roberts yn gyfenw iddynt ar ôl enw bedydd eu tad.  Bu amryw ohonynt yn byw ar hyd a lled yr ardal – e.eTyddyn Madyn, [[Coch-y-big]], Cae Glas. Un disgynydd adnabyddus iawn i Robert Price oedd y crwydryn [[John Price]].


Cyn codi’r capel cynhelid llawer o gyfarfodydd y Methodistiaid ym Merth-ddu Bach ger Brynaerau ac yn Nhy’n Lôn – tua chanllath o’r safle a ddewiswyd ar gyfer y capel yn ddiweddarach. Byddai plant yn mynd i’r cyfarfodydd yno a thorrodd diwygiad yn eu plith nes byddent yn moliannu ac yn gorfoleddu ar hyd y ffordd.  Ar un o’r adegau hyn daeth Richard Ellis, ficer Clynnog, heibio ar ei ffordd adref i Blas y Gwynfryn. Roedd ar gefn ei geffyl a chwip yn ei law. Pan glywodd orfoledd y plant dechreuodd eu chwipio a pheri iddynt dewi. Ond daeth Robert Price, Melin Faesog, i’w hamddiffyn.  Llwyddodd i afael ym mhen y ceffyl a dweud wrth y ficer: “Dyma’r ffordd i’r Gwynfryn, Syr. Pe tawai y rhai hyn fe lefarai y cerrig yn y fan.” [TROEDNODYN I DDILYN]
Gor-ŵyr i Robert Price oedd David Roberts, a sefydlodd Eglwys y Mormoniaid yn Ffestiniog. Ymaelododd ei frawd, Daniel Roberts (ganwyd ym Mron Wen, Nantmor) a’i wraig Gwen (gynt o Gae’rllwynog, Croesor) â’r gangen honno.  


Ganwyd deg o blant i Robert Price a’i wraig Catherine.  Rhoddwyd y cyfenw Price, fel eu tad, i rai ohonynt. Gyda rhai eraill, dilynwyd arferiad y cyfnod a rhoi Roberts yn gyfenw iddynt ar ôl enw bedydd eu tad.  Bu amryw ohonynt yn byw ar hyd a lled yr ardal – e.e.  Tyddyn Madyn, Coch-y-big, Cae Glas. Un disgynydd adnabyddus iawn i Robert Price oedd y crwydryn John Price. [Croes-gyfeiriad i ddilyn]
Diystyriwyd bodolaeth y Mormoniaid bron yn gyfan gwbl yn ein llyfrau hanes er bod rhwng 6,000 a 10,000 ohonynt wedi ymfudo o Gymru i Ddinas y Llyn Halen a’r cyffiniau yn nhalaith Utah rhwng 1840 a 1870. Y rheswm am hyn, mewn gwirionedd, oedd fod y Mormoniaid yn wrthodedig gan y capeli anghydffurfiol Cymreig. Mae eu hanesion yn ddirdynnol gan i rai ohonynt orfod wynebu trychinebau erchyll ar y daith: collwyd bywydau dirifedi, rhai wedi rhynnu i farwolaeth mewn stormydd eira wrth groesi mynyddoedd y Rockies, rhai wedi marw o newyn, eraill wedi boddi wrth groesi’r afonydd;  mae yma hanes pobl yn gwarchod ei gilydd a chyfeillachu efo brodorion y Gorllewin Gwyllt cyn y brwydro anffodus dilynol.  


Gor-ŵyr i Robert Price oedd David Roberts, [croes-gyfeiriad i ddilyn]a sefydlodd Eglwys y Mormoniaid yn Ffestiniog. Ymaelododd ei frawd, Daniel Roberts (ganwyd ym Mron Wen, Nantmor) a’i wraig Gwen (gynt o Gae’rllwynog, Croesor)  â’r gangen honno. [croes gyfeiriad i ddilyn] 
Byddai’n arferiad gan y Mormoniaid gadw dyddiaduron a chofnodi eu hanesion. Ymddangosodd nifer o’r ysgrifau yn y cylchgrawn ''Udgorn Seion''.  


Diystyriwyd bodolaeth y Mormoniaid bron yn gyfan gwbl yn ein llyfrau hanes er bod rhwng 6,000 a 10,000 ohonynt wedi ymfudo o Gymru i Ddinas y Llyn Halen a’r cyffiniau yn nhalaith Utah rhwng 1840 a 1870.  Y rheswm am hyn, mewn gwirionedd,  oedd fod y Mormoniaid yn wrthodedig gan y capeli anghydffurfiol Cymreig.   Mae eu hanesion yn ddirdynnol gan i rai ohonynt orfod wynebu trychinebau erchyll ar y daith:  collwyd bywydau dirifedi,   rhai wedi rhynnu i farwolaeth mewn stormydd eira wrth groesi mynyddoedd y Rockies, rhai wedi marw o newyn, eraill wedi boddi wrth groesi’r afonydd;  mae yma hanes pobl yn gwarchod ei gilydd a chyfeillachu efo brodorion y Gorllewin Gwyllt cyn y brwydro anffodus dilynol.  
Ac yntau’n Athro Prifysgol yn Utah ymddiddorodd Yr Athro Ron Dennis yn hanes y Mormoniaid Cymreig a ddaeth i’r dalaith. Treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i’w alluogi i ddarllen y cylchgrawn a’r cyfnodion cynnar, a sefydlodd wefan i wahodd y Cymry yn Utah i gyfrannu hanesion eu teuluoedd arni.


Byddai’n arferiad gan y Mormoniaid gadw dyddiaduron a chofnodi eu hanesion. Ymddangosodd nifer o’r ysgrifau yn y cylchgrawn Udgorn Seion. [croes-gyfeiriad i ddilyn]
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|100px]]
Yn 2016 cyhoeddwyd ''Poeri i lygad yr eliffant'', Gwasg y Lolfa,400 tud. gan Wil Aaron. Treuliodd yr awdur amser yn dilyn llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa o faes ymchwil anferth Ron Dennis.                


Ac yntau’n Athro Prifysgol yn Utah ymddiddorodd Yr Athro Ron Dennis yn hanes y Mormoniaid Cymreig a ddaeth i’r dalaith. Treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i’w alluogi i ddarllen y cylchgrawn a’r cyfnodion cynnar,  a sefydlodd wefan i wahodd y Cymry yn Utah i gyfrannu hanesion eu teuluoedd arni.
[[Delwedd:RonDennisEFichera.jpg|bawd|200px]]
A’r llyfr newydd ei gyhoeddi, daeth Yr Athro Ron Dennis â llond bws o Formoniaid (cyfanswm o 53) gydag ef i Gymru, ac ar 20 Medi 2016 yr oedd yng Nghaernarfon yn gweld y dref a’i gyfaill Wil Aaron, a threfnodd i ddod, yng nghwmni un arall, i Glynnog a Melin Faesog. Yr un arall oedd  Emma Fichera, disgynnydd uniongyrchol i Robert Price, Melin Faesog a gladdwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Athrawes wedi ymddeol ydoedd ac roedd wedi dyheu am y daith hon a chael dychwelyd i ddweud yr hanes wrth ei brodyr a’i chwiorydd a ymddiddorai yn fawr, fel hithau, yn eu hachau.  [Llun: Yr Athro Ron Dennis ac Emma Fichera wrth fedd Robert Price yn Eglwys Beuno Sant] 
 
Dyma ail ymweliad Yr Athro Ron Dennis â Chlynnog, a siaradai Gymraeg heb arlliw o acen America.  Daeth yma i weld yr un bedd yn Hydref 2007 ac i weld yr arddangosfa yng [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai]] a luniodd Sophia Pari-Jones ar Felin Faesog, yn cynnwys manylion llawn am ddisgynyddion Robert Price a aeth oddi yno i Lanfrothen a Blaenau Ffestiniog a Dinas y Llyn Halen.


Yn ...... cyhoeddwyd, Poeri yn llygad yr eliffant, Gwasg.......  gan Wil Aaron.[croes-gyfeiriad i ddilyn] Mae hwn yn glasur o lyfr yn amlygu gallu arbennig a dawn ysgrifennu. Treuliodd yr awdur amser yn dilyn llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa yn helaeth o faes ymchwil anferth Ron Dennis a’r storfa o wybodaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
==Cyfeiriadau==


A’r llyfr newydd ei gyhoeddi, daeth  Yr Athro Ron Dennis  â llond bws o Formoniaid (cyfanswm o 53) gydag ef i Gymru, ac ar Fedi 20 2016 yr oedd yng Nghaernarfon yn gweld y dref a’i gyfaill Wil Aaron,  a threfnodd i ddod, yng nghwmni un arall, i Glynnog a Melin Faesog. Yr un arall oedd  Emma Fichera, disgynnydd uniongyrchol i Robert Price, Melin Faesog a gladdwyd ym mynwent Eglwys Beuno Sant.  [llun i ddilyn] Athrawes wedi ymddeol ydoedd ac roedd wedi dyheu am y daith hon a chael dychwelyd i ddweud yr hanes wrth ei brodyr a’i chwiorydd a ymddiddorai yn fawr, fel hithau, yn eu hachau.   
[[Categori:Pobl]]
 
[[Categori:Melinwyr]]
Dyma ail ymweliad Yr Athro Ron Dennis â Chlynnog, a siaradai Gymraeg heb arlliw o acen America.  Daeth yma i weld yr un bedd yn Hydref 2007 ac i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai a luniodd Sophia Pari-Jones ar Felin Faesog, yn cynnwys manylion llawn am ddisgynyddion Robert Price a aeth oddi yno i Lanfrothen a Blaenau Ffestiniog a Dinas y Llyn Halen.
[[Categori:Seiri coed]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:52, 29 Ionawr 2023

Melinydd a saer coed oedd Robert Price, (1720-1806). Mab i Thomas Price a Jane Roberts, Clynnog Fawr. Ym Mai 1741 priododd â Catherine, unig ferch Meyrick Barnaby a Jane Samuel, Melin Faesog, ac yno y cartrefodd y ddau.[1]

Bu Robert Price yn un o ddau a ofalai am gofrestr eglwys Clynnog.[2]

Yr oedd cryn erlid ar Fethodistiaid ar y pryd a phan ddaeth Lewis Evan, Llanllugan, (1720-92) i bregethu i Glynnog, tarawodd un o’r plwyfolion y pregethwr â choes ei chwip, nes oedd ei waed yn llifo. Pwy ataliodd yr helynt ond Robert Prys, Melin Faesog.[3]

Roedd Robert Price ymysg y rhai a lafuriodd i godi’r capel yng Nghapel Uchaf.[4]Cyn codi’r capel,[5] cynhelid llawer o gyfarfodydd y Methodistiaid ym Merth-ddu Bach ger Brynaerau ac mewn tŷ o';r enw Tŷ’n Lôn – tua chanllath o’r safle a ddewiswyd ar gyfer y capel yn ddiweddarach. Byddai plant yn mynd i’r cyfarfodydd yno a thorrodd diwygiad yn eu plith nes byddent yn moliannu ac yn gorfoleddu ar hyd y ffordd. Ar un o’r adegau hyn daeth Richard Ellis, ficer Clynnog, heibio ar ei ffordd adref i Blas y Gwynfryn. Roedd ar gefn ei geffyl a chwip yn ei law. Pan glywodd orfoledd y plant dechreuodd eu chwipio a pheri iddynt dewi. Ond daeth Robert Price, Melin Faesog, i’w hamddiffyn. Llwyddodd i afael ym mhen y ceffyl a dweud wrth y ficer: “Dyma’r ffordd i’r Gwynfryn, Syr. Pe tawai y rhai hyn fe lefarai y cerrig yn y fan.” [6]

Ganwyd deg o blant i Robert Price a’i wraig Catherine. Rhoddwyd y cyfenw Price, fel eu tad, i rai ohonynt. Gyda rhai eraill, dilynwyd arferiad y cyfnod a rhoi Roberts yn gyfenw iddynt ar ôl enw bedydd eu tad. Bu amryw ohonynt yn byw ar hyd a lled yr ardal – e.e. Tyddyn Madyn, Coch-y-big, Cae Glas. Un disgynydd adnabyddus iawn i Robert Price oedd y crwydryn John Price.

Gor-ŵyr i Robert Price oedd David Roberts, a sefydlodd Eglwys y Mormoniaid yn Ffestiniog. Ymaelododd ei frawd, Daniel Roberts (ganwyd ym Mron Wen, Nantmor) a’i wraig Gwen (gynt o Gae’rllwynog, Croesor) â’r gangen honno.

Diystyriwyd bodolaeth y Mormoniaid bron yn gyfan gwbl yn ein llyfrau hanes er bod rhwng 6,000 a 10,000 ohonynt wedi ymfudo o Gymru i Ddinas y Llyn Halen a’r cyffiniau yn nhalaith Utah rhwng 1840 a 1870. Y rheswm am hyn, mewn gwirionedd, oedd fod y Mormoniaid yn wrthodedig gan y capeli anghydffurfiol Cymreig. Mae eu hanesion yn ddirdynnol gan i rai ohonynt orfod wynebu trychinebau erchyll ar y daith: collwyd bywydau dirifedi, rhai wedi rhynnu i farwolaeth mewn stormydd eira wrth groesi mynyddoedd y Rockies, rhai wedi marw o newyn, eraill wedi boddi wrth groesi’r afonydd; mae yma hanes pobl yn gwarchod ei gilydd a chyfeillachu efo brodorion y Gorllewin Gwyllt cyn y brwydro anffodus dilynol.

Byddai’n arferiad gan y Mormoniaid gadw dyddiaduron a chofnodi eu hanesion. Ymddangosodd nifer o’r ysgrifau yn y cylchgrawn Udgorn Seion.

Ac yntau’n Athro Prifysgol yn Utah ymddiddorodd Yr Athro Ron Dennis yn hanes y Mormoniaid Cymreig a ddaeth i’r dalaith. Treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i’w alluogi i ddarllen y cylchgrawn a’r cyfnodion cynnar, a sefydlodd wefan i wahodd y Cymry yn Utah i gyfrannu hanesion eu teuluoedd arni.

Yn 2016 cyhoeddwyd Poeri i lygad yr eliffant, Gwasg y Lolfa,400 tud. gan Wil Aaron. Treuliodd yr awdur amser yn dilyn llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa o faes ymchwil anferth Ron Dennis.

A’r llyfr newydd ei gyhoeddi, daeth Yr Athro Ron Dennis â llond bws o Formoniaid (cyfanswm o 53) gydag ef i Gymru, ac ar 20 Medi 2016 yr oedd yng Nghaernarfon yn gweld y dref a’i gyfaill Wil Aaron, a threfnodd i ddod, yng nghwmni un arall, i Glynnog a Melin Faesog. Yr un arall oedd Emma Fichera, disgynnydd uniongyrchol i Robert Price, Melin Faesog a gladdwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Athrawes wedi ymddeol ydoedd ac roedd wedi dyheu am y daith hon a chael dychwelyd i ddweud yr hanes wrth ei brodyr a’i chwiorydd a ymddiddorai yn fawr, fel hithau, yn eu hachau. [Llun: Yr Athro Ron Dennis ac Emma Fichera wrth fedd Robert Price yn Eglwys Beuno Sant]

Dyma ail ymweliad Yr Athro Ron Dennis â Chlynnog, a siaradai Gymraeg heb arlliw o acen America. Daeth yma i weld yr un bedd yn Hydref 2007 ac i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai a luniodd Sophia Pari-Jones ar Felin Faesog, yn cynnwys manylion llawn am ddisgynyddion Robert Price a aeth oddi yno i Lanfrothen a Blaenau Ffestiniog a Dinas y Llyn Halen.

Cyfeiriadau

  1. Melin Faesog, Sophia Pari-Jones, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007.
  2. Ibid. tud.24.
  3. Methodistiaeth Cymru,Cyfrol II,John Hughes, Liverpool, tud. 159.
  4. Ibid. t. 161.
  5. Ibid. Troednodyn: "Dywed Robert Jones mai hwn oedd y capel cyntaf yn sir Gaernarfon, ond mae o flaen fy llygaid, yn awr, lyfr o gofnodau y gymdeithasfa yn dadgan fod un capel, sef capel Tŷ mawr, Bryncroes,wedi ei godi tuag 8 ml. o flaen yr amser y dywedir i gapel Clynog gael ei godi. Hwnw yn y fl. 1752, hwn yn y fl. 1760."
  6. Ibid.t.160.