Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganwyd '''Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)''' (1869 - 1930), ar 1 Ebrill 1869 ym Mhenyryrfa, [[Tal-y-sarn]], yn fab i Hugh a Mary Owen, Bryn-y-coed, Tal-y-sarn. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan ei dad. Dysgodd chwarae'r sielo a'r clarinét, ac ysgrifennu i'r gerddorfa. Trefnodd i'r gerddorfa am flynyddoedd ddarnau cerddorol cymanfaoedd canu sirol y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr yn Arfon, a rhai yn y Deheudir, ynghyd â gŵyl gerddorol Eryri. Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac ''O, na byddai'n haf o hyd'' yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw ''Llais y Durtur'', a cheir tonau o'i waith yn ''Llyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd'', a ''Perorydd yr Ysgol Sul''. Bu f. 24 Mai 1930, a chladdwyd ef ym mynwent y dref, Caernarfon.<ref>Robert David Griffith, M.A., , Hen Golwyn, yn ''Y Goleuad'', 28 Mai 1930 </ref> | |||
Roedd yn frawd i'r cerddor [[John Jones Owen]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 21:05, 29 Rhagfyr 2022
Ganwyd Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869 - 1930), ar 1 Ebrill 1869 ym Mhenyryrfa, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen, Bryn-y-coed, Tal-y-sarn. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan ei dad. Dysgodd chwarae'r sielo a'r clarinét, ac ysgrifennu i'r gerddorfa. Trefnodd i'r gerddorfa am flynyddoedd ddarnau cerddorol cymanfaoedd canu sirol y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr yn Arfon, a rhai yn y Deheudir, ynghyd â gŵyl gerddorol Eryri. Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac O, na byddai'n haf o hyd yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw Llais y Durtur, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, a Perorydd yr Ysgol Sul. Bu f. 24 Mai 1930, a chladdwyd ef ym mynwent y dref, Caernarfon.[1]
Roedd yn frawd i'r cerddor John Jones Owen.[2]