Gwaith copr Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynnol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw [[Dyffryn Nantlle]], ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef [[Drws-y-coed]].
Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw [[Dyffryn Nantlle]], ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef [[Drws-y-coed]].


Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ailagor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ailagor yn 1792.<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> Tua'r un pryd, roedd dyn o'r enw Mr. Nell yn chwilio eto am y mwynau yn y cylch, gan dderbyn trwydded gan perchennog tir yr ochr ogleddol i'r dyffryn, [[Hugh Owen (Orielton)]].<ref>Archifdy Gwynedd, X/Poole/1025.</ref> Erbyn tua 1800, fodd bynnag, mae arolwg o Ystad y Faenol (yr oedd y mwynglawdd ar ei thir) yn nodi bod yr holl adeiladau oedd yn perthyn i'r gwaith mwynau wedi dadfeilio, a'u coed a'u cerrig wedi cael eu dwyn, ond am un tŷ lle roedd Evan Thomas, un o'r mwynwyr, yn byw.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), t.55</ref>   
Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid, ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ail-agor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ail-agor ym 1792.<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> Tua'r un pryd, roedd dyn o'r enw Mr. Nell yn chwilio eto am y mwynau yn y cylch, gan dderbyn trwydded gan berchennog tir yr ochr ogleddol i'r dyffryn, [[Hugh Owen, Orielton]].<ref>Archifdy Gwynedd, X/Poole/1025.</ref> Erbyn tua 1800, fodd bynnag, mae arolwg o Ystad y Faenol (yr oedd y mwynglawdd ar ei thir) yn nodi bod yr holl adeiladau a oedd yn perthyn i'r gwaith mwynau wedi dadfeilio, a'u coed a'u cerrig wedi cael eu dwyn, ond am un tŷ lle roedd Evan Thomas, un o'r mwynwyr, yn byw.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), t.55</ref>   


Pan agorodd [[Rheilffordd Nantlle]] ym 1828, roedd y cwmni copr ymysg y rhai cyntaf i anfon ei gynnyrch ar hyd y lein i gei Caernarfon: ym mis Ionawr 1829, talwyd £4.1.0c mewn tollau i'r rheilffordd, ( i gymhau â £3.17.10 o dollau a dalwyd gan [[Chwarel Coedmadog]] a rhwng £22 a £25 a dalwyd gan y ddwy chwarel fawr, [[Chwarel Hafodlas]] a [[Chwarel Pen-y-bryn]]).<ref>Archifdy Gwynedd, XM/9309/3.</ref> Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd fwynwyr a merched sgrinio copr (y ''copar ladis'') o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed, ac erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn,<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> er i gwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Mwyngloddio Copr Drws-y-coed gael ei sefydlu ym 1876.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/1786/96.</ref> Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, a gludwyd y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn yn y diwedd mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.<ref>Llun yn Archifdy Gwynedd.</ref>
Pan agorodd [[Rheilffordd Nantlle]] ym 1828, roedd y cwmni copr ymysg y rhai cyntaf i anfon ei gynnyrch ar hyd y lein i gei Caernarfon: ym mis Ionawr 1829, talwyd £4.1.0c mewn tollau i'r rheilffordd, (o'i gymharu â £3.17.10 o dollau a dalwyd gan [[Chwarel Coedmadog]] a rhwng £22 a £25 a dalwyd gan y ddwy chwarel fawr, [[Chwarel Hafodlas]] a [[Chwarel Pen-y-bryn]]).<ref>Archifdy Gwynedd, XM/9309/3.</ref> Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd mwynwyr a merched sgrinio copr (y ''copar ladis'') o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed ac, erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn,<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> er i gwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Mwyngloddio Copr Drws-y-coed, gael ei sefydlu ym 1876.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/1786/96.</ref> Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, ac yn y diwedd cludid y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.<ref>Llun yn Archifdy Gwynedd.</ref>


Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio y 18g hwyr a'r 19g gynnar. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i c0dwyd ym 1769-70<ref>Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.</ref>, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.
Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio o ddiwedd y 18g a dechrau'r 19. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i codwyd ym 1769-70<ref>Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.</ref>, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall, a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.


Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at ddefnydd y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r un gwreiddiol gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.


Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai ddwywaith cymaint  â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''passim''.</ref>
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai dwywaith cymaint  â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''passim''.</ref>




Llinell 19: Llinell 19:


[[Categori:Mwyngloddio]]
[[Categori:Mwyngloddio]]
[[Categori:Mwynau]]
[[Categori:Copr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:17, 28 Ionawr 2023

Roedd gwaith copr Drws-y-coed yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw Dyffryn Nantlle, ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef Drws-y-coed.

Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid, ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ail-agor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ail-agor ym 1792.[1] Tua'r un pryd, roedd dyn o'r enw Mr. Nell yn chwilio eto am y mwynau yn y cylch, gan dderbyn trwydded gan berchennog tir yr ochr ogleddol i'r dyffryn, Hugh Owen, Orielton.[2] Erbyn tua 1800, fodd bynnag, mae arolwg o Ystad y Faenol (yr oedd y mwynglawdd ar ei thir) yn nodi bod yr holl adeiladau a oedd yn perthyn i'r gwaith mwynau wedi dadfeilio, a'u coed a'u cerrig wedi cael eu dwyn, ond am un tŷ lle roedd Evan Thomas, un o'r mwynwyr, yn byw.[3]

Pan agorodd Rheilffordd Nantlle ym 1828, roedd y cwmni copr ymysg y rhai cyntaf i anfon ei gynnyrch ar hyd y lein i gei Caernarfon: ym mis Ionawr 1829, talwyd £4.1.0c mewn tollau i'r rheilffordd, (o'i gymharu â £3.17.10 o dollau a dalwyd gan Chwarel Coedmadog a rhwng £22 a £25 a dalwyd gan y ddwy chwarel fawr, Chwarel Hafodlas a Chwarel Pen-y-bryn).[4] Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd mwynwyr a merched sgrinio copr (y copar ladis) o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed ac, erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn,[5] er i gwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Mwyngloddio Copr Drws-y-coed, gael ei sefydlu ym 1876.[6] Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, ac yn y diwedd cludid y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.[7]

Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio o ddiwedd y 18g a dechrau'r 19. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i codwyd ym 1769-70[8], a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall, a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.

Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at ddefnydd y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, Capel Drws-y-coed (A), gan i'r un gwreiddiol gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.

Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai dwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. [9]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, ar wefan Aditnow [1], cyrchwyd 8.10.2018
  2. Archifdy Gwynedd, X/Poole/1025.
  3. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), t.55
  4. Archifdy Gwynedd, XM/9309/3.
  5. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, ar wefan Aditnow [2], cyrchwyd 8.10.2018
  6. Archifdy Gwynedd, XM/1786/96.
  7. Llun yn Archifdy Gwynedd.
  8. Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.
  9. David Bick, The Old Copper Mines of Snowdonia, 3ydd argraffiad, (2003), passim.