Criw y Cei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Barcud (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Criw y Cei''' yn gymdeithas answyddogol o bobl ifanc yn Nhrefor oedd yn ymhyfrydu yn y gamp o neidio i'r môr oddi ar y Cei yn Nhrefor.
Roedd '''Criw y Cei''' yn gymdeithas answyddogol o bobl ifanc yn [[Trefor|Nhrefor]] oedd yn ymhyfrydu yn y gamp o neidio i'r môr oddi ar y Cei yn Nhrefor.
Fe'i sefydlwyd ym 1986 pan adnewyddwyd y Cei Pren.  
Fe'i sefydlwyd ym 1986 pan adnewyddwyd y [[Cei Trefor|Cei Pren]].  
Dros y blynyddoedd ehangwyd y gamp o neidio i lefydd eraill ar y glannau megis y Brêc, Brêc Bach, Ynys Gachu, a'r hafn brawychus yn y Fraich Las ble mae mynydd Garnfor yn codi o'r môr.
Dros y blynyddoedd ehangwyd y gamp o neidio i lefydd eraill ar y glannau megis y Brêc, [[Brêc Bach]], [[Ynys Gachu]], a'r hafn brawychus yn y Fraich Las ble mae mynydd [[Garnfor]] yn codi o'r môr.
Er nad yw'r gymdeithas yn bodoli erbyn heddiw (oherwydd bod ei sylfaenwyr wedi mynd yn rhy hen a llwfr i neidio) mae'r gamp yn dal i flodeuo yn y pentref, a chenedlaethau o Dreforiaid newydd yn parhau i gael blas mawr ar daflu ei hunain oddi ar y cei i'r dyfnderoedd.
Er nad yw'r gymdeithas yn bodoli erbyn heddiw (oherwydd bod ei sylfaenwyr wedi mynd yn rhy hen a llwfr i neidio) mae'r gamp yn dal i flodeuo yn y pentref, a chenedlaethau o Dreforiaid newydd yn parhau i gael blas mawr ar daflu eu hunain oddi ar y cei i'r dyfnderoedd.
Erbyn heddiw nid yw'r Cei Pren yn bodoli. Cafodd ei ddymchwel yn 2018 oherwydd ei gyflwr peryglus. Ond mae'r Hen Gei yn dal yn hafan i neidwyr y pentref.
Erbyn heddiw nid yw'r Cei Pren yn bodoli. Cafodd ei ddymchwel yn 2018 oherwydd ei gyflwr peryglus. Ond mae'r Hen Gei yn dal yn hafan i neidwyr y pentref.
Prif fantais y Cei Pren oedd bod modd neidio ar drai (pan oedd y môr allan) ac roedd uchder y naid gymaint mwy a'r wefr yn gymaint mwy cynhyrfus.  
Prif fantais y Cei Pren oedd bod modd neidio ar drai (pan oedd y môr allan) ac roedd uchder y naid gymaint mwy a'r wefr yn gymaint mwy cynhyrfus.  

Er mwyn ychwanegu at yr hwyl o neidio, bu i rai aelodau drygionus Criw y Cei lifio rhai o bolion reilings y cei er mwyn creu adwy agored fel y gellid rhedeg fel mellten drwy'r agoriad a hedfan yn braf cyn taro'r tonau. Yn amlwg nid oedd hynny'n plesio swyddogion iechyd a diogelwch y cyngor gan iddynt geisio weldio polion newydd dro ar ôl tro. Ond roedd dyfalbarhad y llifwyr yn drech na'r cyngor, ac yn y diwedd bu i'r cyngor osod dwy gadwyn ar draws yr agoriad y gellid eu dadfachu at ddibenion neidio.
Er mwyn ychwanegu at yr hwyl o neidio, bu i rai aelodau drygionus Criw y Cei lifio rhai o bolion reilings y cei er mwyn creu adwy agored fel y gellid rhedeg fel mellten drwy'r agoriad a hedfan yn braf cyn taro'r tonnau. Yn amlwg nid oedd hynny'n plesio swyddogion iechyd a diogelwch y cyngor gan iddynt geisio weldio polion newydd dro ar ôl tro. Ond roedd dyfalbarhad y llifwyr yn drech na'r cyngor, ac yn y diwedd bu i'r cyngor osod dwy gadwyn ar draws yr agoriad y gellid eu dadfachu at ddibenion neidio.

Yn ôl y sôn, does dim modd bod yn Dreforian go iawn oni bai eich bod wedi neidio o ben cei.
Yn ôl y sôn, does dim modd bod yn Dreforian go iawn oni bai eich bod wedi neidio o ben cei.
[[Categori:Cymdeithasau]]
[[Categori:Chwaraeon]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:38, 5 Mai 2022

Roedd Criw y Cei yn gymdeithas answyddogol o bobl ifanc yn Nhrefor oedd yn ymhyfrydu yn y gamp o neidio i'r môr oddi ar y Cei yn Nhrefor. Fe'i sefydlwyd ym 1986 pan adnewyddwyd y Cei Pren. Dros y blynyddoedd ehangwyd y gamp o neidio i lefydd eraill ar y glannau megis y Brêc, Brêc Bach, Ynys Gachu, a'r hafn brawychus yn y Fraich Las ble mae mynydd Garnfor yn codi o'r môr. Er nad yw'r gymdeithas yn bodoli erbyn heddiw (oherwydd bod ei sylfaenwyr wedi mynd yn rhy hen a llwfr i neidio) mae'r gamp yn dal i flodeuo yn y pentref, a chenedlaethau o Dreforiaid newydd yn parhau i gael blas mawr ar daflu eu hunain oddi ar y cei i'r dyfnderoedd. Erbyn heddiw nid yw'r Cei Pren yn bodoli. Cafodd ei ddymchwel yn 2018 oherwydd ei gyflwr peryglus. Ond mae'r Hen Gei yn dal yn hafan i neidwyr y pentref. Prif fantais y Cei Pren oedd bod modd neidio ar drai (pan oedd y môr allan) ac roedd uchder y naid gymaint mwy a'r wefr yn gymaint mwy cynhyrfus.