Capel Carmel (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 7: Llinell 7:
Adeiladwyd capel newydd ym 1870 am £1520; a mans yn 1899 ar safle'r capel cyntaf - hynny am gost o £600..  
Adeiladwyd capel newydd ym 1870 am £1520; a mans yn 1899 ar safle'r capel cyntaf - hynny am gost o £600..  


Un o'r blaenoriaid amlwg gyda;r achos oedd [[O.G. Owen (Alafon)]], a benodwyd ym 1864. Roedd gan y capel gobeithlu a chymdeithas lenyddol. Ffynnodd yr achos gydag amser, ac oherwydd twf yn y pentref gan fod y chwareli yn ehangu. Erbyn 1900, yr oedd 259 o aelodau.
Un o'r blaenoriaid amlwg gyda;r achos oedd [[Owen Griffith Owen (Alafon)]], a benodwyd ym 1864. Roedd gan y capel gobeithlu a chymdeithas lenyddol. Ffynnodd yr achos gydag amser, ac oherwydd twf yn y pentref gan fod y chwareli yn ehangu. Erbyn 1900, yr oedd 259 o aelodau.


Gydag amser, fodd bynnag, edwinodd yr achos fel pob un arall, gyda llai o boblogaeth leol a difaterwch. Chwalwyd y capel yn y 1990au, gan godi capel llai ond mwy pwrpasol ar safle'r festri.
Gydag amser, fodd bynnag, edwinodd yr achos fel pob un arall, gyda llai o boblogaeth leol a difaterwch. Chwalwyd y capel yn y 1990au, gan godi capel llai ond mwy pwrpasol ar safle'r festri, a agorwyd ym 1998.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:41, 17 Medi 2018

Mae Capel Carmel yn gapel sydd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Fe roddodd y capel ei enw i'r pentref chwarelyddol Carmel sydd wedi tyfu o'i gwmpas ar lethrau Mynydd Cilgwyn.

Sefydlwyd ysgol Sabothol yn y lle ym 1812, wedi i gyfarfod athrawon ym Mryn'rodyn roi sêl bendith i gais gan Robert Jones, Bryn llety, Eleazer Owen, Tu-hwnt-i'r-bwlch, Thomas Rberts y teiliwr a John Griffith, Tŷ'n-y-weirglodd. Roedd y rhain yn awyddus i ddarparu lle amgen na llethrau'r mynydd lle arferid cynnal campau a chwareuon ar y Sul. Cynhaliwyd yr ysgol i ddechrau yn ysgubor Caehaidd Mawr. Dim ond saith aeth yno i ddechrau ac yn y man daeth yr ysgol Sul i ben. Cafwyd sawl ymdrech eto i sefydlu ysgol Sul yn y gymdogaeth, ac yn y man aeth y rhan fwyaf o'r ffyddloniaid ati i sefydlu ysgol yng nghapel yr annibynwyr, Pisgah ym 1820 a chyn bo hir roedd 80 yn aelodau yno.

Yn y diwedd, cafwyd diddordeb y Parch. John Jones, Tal-y-sarn, a roddodd cefnogaeth i'r symudiad i gael capel Methodist yn y lle, a fe a enwyd y capel yn Garmel. Agorwyd y capel newydd yn ffurfiol 24 Chwefror 1827. Cyn bo hir roedd 100 o aewlodau yn mynychu'r Ysgol Sul, a denwyd rhai cyn-Fethodistiaid yn ôl o Bisgah. Bu'r capel dan adain Bryn'rodyn am rai blynyddoedd nes torri'r cysylltiad ffurfiol ym 1838. Helaethwyd y capel ym 1853-4 ar gost o £204. Yn fuan wedyn fe brofodd Carmel effaith Diwygiad 1859, pan gynhaliwyd cyfarfodydd awyr agored ger Penfforddelen.

Adeiladwyd capel newydd ym 1870 am £1520; a mans yn 1899 ar safle'r capel cyntaf - hynny am gost o £600..

Un o'r blaenoriaid amlwg gyda;r achos oedd Owen Griffith Owen (Alafon), a benodwyd ym 1864. Roedd gan y capel gobeithlu a chymdeithas lenyddol. Ffynnodd yr achos gydag amser, ac oherwydd twf yn y pentref gan fod y chwareli yn ehangu. Erbyn 1900, yr oedd 259 o aelodau.

Gydag amser, fodd bynnag, edwinodd yr achos fel pob un arall, gyda llai o boblogaeth leol a difaterwch. Chwalwyd y capel yn y 1990au, gan godi capel llai ond mwy pwrpasol ar safle'r festri, a agorwyd ym 1998.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma