Capel Carmel (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Capel Carmel''' yn gapel sydd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Fe roddodd y capel ei enw i'r pentref chwarelyd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Capel Carmel''' yn gapel sydd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Fe roddodd y capel ei enw i'r pentref chwarelyddol [[Carmel]] sydd wedi tyfu o'i gwmpas ar lethrau [[Mynydd Cilgwyn]].
Mae '''Capel Carmel''' yn gapel sydd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Fe roddodd y capel ei enw i'r pentref chwarelyddol [[Carmel]] sydd wedi tyfu o'i gwmpas ar lethrau [[Mynydd Cilgwyn]].
Sefydlwyd ysgol Sabothol yn y lle ym 1812, wedi i gyfarfod athrawon ym [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon|Mryn'rodyn]] roi sêl bendith i gais gan Robert Jones, Bryn llety, Eleazer Owen, Tu-hwnt-i'r-bwlch, Thomas Rberts y teiliwr a John Griffith, Tŷ'n-y-weirglodd. Roedd y rhain yn awyddus i ddarparu lle amgen na llethrau'r mynydd lle arferid cynnal campau a chwareuon ar y Sul. Cynhaliwyd yr ysgol i ddechrau yn ysgubor Caehaidd Mawr. Dim ond saith aeth yno i ddechrau ac yn y man daeth yr ysgol Sul i ben. Cafwyd sawl ymdrech eto i sefydlu ysgol Sul yn y gymdogaeth, ac yn y man aeth y rhan fwyaf o'r ffyddloniaid ati i sefydlu ysgol yng [[Capel Pisgah (A), Carmel|nghapel yr annibynwyr, Pisgah]] ym 1820 a chyn bo hir roedd 80 yn aelodau yno.
Yn y diwedd, cafwyd diddordeb y Parch. [[John Jones, Tal-y-sarn]], a roddodd cefnogaeth i'r symudiad i gael capel Methodist yn y lle, a fe a enwyd y capel yn ''Garmel''. Agorwyd y capel newydd yn ffurfiol 24 Chwefror 1827. Cyn bo hir roedd 100 o aewlodau yn mynychu'r Ysgol Sul, a denwyd rhai cyn-Fethodistiaid yn ôl o Bisgah. Bu'r capel dan adain Bryn'rodyn am rai blynyddoedd nes torri'r cysylltiad ffurfiol ym 1838. Helaethwyd y capel ym 1853-4 ar gost o £204. Yn fuan wedyn fe brofodd Carmel effaith Diwygiad 1859, pan gynhaliwyd cyfarfodydd awyr agored ger [[Penfforddelen]].
Adeiladwyd capel newydd ym 1870 am £1520; a mans yn 1899 ar safle'r capel cyntaf - hynny am gost o £600..
Un o'r blaenoriaid amlwg gyda;r achos oedd [[Owen Griffith Owen (Alafon)]], a benodwyd ym 1864. Roedd gan y capel gobeithlu a chymdeithas lenyddol. Ffynnodd yr achos gydag amser, ac oherwydd twf yn y pentref gan fod y chwareli yn ehangu. Erbyn 1900, yr oedd 259 o aelodau.
Gydag amser, fodd bynnag, edwinodd yr achos fel pob un arall, gyda llai o boblogaeth leol a difaterwch. Chwalwyd y capel yn y 1990au, gan godi capel llai ond mwy pwrpasol ar safle'r festri, a agorwyd ym 1998.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:41, 17 Medi 2018

Mae Capel Carmel yn gapel sydd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Fe roddodd y capel ei enw i'r pentref chwarelyddol Carmel sydd wedi tyfu o'i gwmpas ar lethrau Mynydd Cilgwyn.

Sefydlwyd ysgol Sabothol yn y lle ym 1812, wedi i gyfarfod athrawon ym Mryn'rodyn roi sêl bendith i gais gan Robert Jones, Bryn llety, Eleazer Owen, Tu-hwnt-i'r-bwlch, Thomas Rberts y teiliwr a John Griffith, Tŷ'n-y-weirglodd. Roedd y rhain yn awyddus i ddarparu lle amgen na llethrau'r mynydd lle arferid cynnal campau a chwareuon ar y Sul. Cynhaliwyd yr ysgol i ddechrau yn ysgubor Caehaidd Mawr. Dim ond saith aeth yno i ddechrau ac yn y man daeth yr ysgol Sul i ben. Cafwyd sawl ymdrech eto i sefydlu ysgol Sul yn y gymdogaeth, ac yn y man aeth y rhan fwyaf o'r ffyddloniaid ati i sefydlu ysgol yng nghapel yr annibynwyr, Pisgah ym 1820 a chyn bo hir roedd 80 yn aelodau yno.

Yn y diwedd, cafwyd diddordeb y Parch. John Jones, Tal-y-sarn, a roddodd cefnogaeth i'r symudiad i gael capel Methodist yn y lle, a fe a enwyd y capel yn Garmel. Agorwyd y capel newydd yn ffurfiol 24 Chwefror 1827. Cyn bo hir roedd 100 o aewlodau yn mynychu'r Ysgol Sul, a denwyd rhai cyn-Fethodistiaid yn ôl o Bisgah. Bu'r capel dan adain Bryn'rodyn am rai blynyddoedd nes torri'r cysylltiad ffurfiol ym 1838. Helaethwyd y capel ym 1853-4 ar gost o £204. Yn fuan wedyn fe brofodd Carmel effaith Diwygiad 1859, pan gynhaliwyd cyfarfodydd awyr agored ger Penfforddelen.

Adeiladwyd capel newydd ym 1870 am £1520; a mans yn 1899 ar safle'r capel cyntaf - hynny am gost o £600..

Un o'r blaenoriaid amlwg gyda;r achos oedd Owen Griffith Owen (Alafon), a benodwyd ym 1864. Roedd gan y capel gobeithlu a chymdeithas lenyddol. Ffynnodd yr achos gydag amser, ac oherwydd twf yn y pentref gan fod y chwareli yn ehangu. Erbyn 1900, yr oedd 259 o aelodau.

Gydag amser, fodd bynnag, edwinodd yr achos fel pob un arall, gyda llai o boblogaeth leol a difaterwch. Chwalwyd y capel yn y 1990au, gan godi capel llai ond mwy pwrpasol ar safle'r festri, a agorwyd ym 1998.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma