Ysgol Eben Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Ysgol Eben Fardd''' oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] yng Nghapel Beuno, Eglwys Beuno Sant, Clynnog. Yn 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn oedd yn eiddo iddo yng nghefn ei gartref - o'r enw ''Cefn''.  Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844.  Cafodd Eben Fardd ganiat^ad i gadw ei ysgol yn y Capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.
'''Ysgol Eben Fardd''' oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] yng [[Capel Beuno|Nghapel Beuno]], [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Ym 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn a gododd yng nghefn ei dŷ ym 1841.<ref>Dyma lle mae ''Cefn''.</ref> Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd [[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr|Capel y Methodistiaid]] yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844.  Cafodd Eben Fardd ganiatâd i gadw ei ysgol yn y capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.


Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.
Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr [[Ysgol Genedlaethol Clynnog Fawr|Ysgol Genedlaethol]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]]. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny'n amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.


Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim, hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Pan agorodd Eben Fardd yr ysgol hon yng Nghapel Ebeneser dan y telerau newydd roedd yno dros 100 o ddisgyblion.  
Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Agorwyd yr “Ysgol Frytanaidd newydd” yn y Capel ar Hydref 21 1850. Yr oedd dros 100 yn yr ysgol (ond yn y fersiwn Gymraeg nodir dros 120).  Codwyd adeilad newydd ar ei chyfer erbyn 1863, yn cynnwys ysgoldy yn ogystal â thŷ i’r prifathro.  Ond bu farw Eben Fardd yn Chwefror y flwyddyn honno ychydig fisoedd cyn yr agoriad swyddogol.  Yr Ysgoldy hwn yw ystafell ymgynnull Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.


Codwyd Ty'r Capel yn 1861.  
Codwyd 'r Capel ym 1861.


Yn 1863 agorwyd [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]] gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, ''Ysgol Eben Fardd'' oedd yr enw cyffredinol arni.
Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal Eben Fardd oedd y Parch [[David Jones (Dewi Arfon)]] er i Eben fethu â deall pam y byddai dyn mor amlwg am fod yn ysgolor iddo. Wrth i Eben waelu, cymerodd Dewi Arfon at yr awennau, ac fe fagodd enw iddo'i hun fel athro mwy bywiog nag Eben ei hun. Codwyd ysgoldy newydd a thŷ ar gyfer Dewi Arfon, ond bu farw'n ddyn ifanc 36 oed cyn iddo allu symud i'r adeiladau newydd.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.93</ref>


{{eginyn}}
Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, ''Ysgol Eben Fardd'' oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis [[Mathonwy Hughes]].<ref>Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021</ref>


Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys ([[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr]]). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94</ref>
Caewyd yr ysgol yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Addysg]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:15, 16 Chwefror 2022

Ysgol Eben Fardd oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yng Nghapel Beuno, Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Ym 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn a gododd yng nghefn ei dŷ ym 1841.[1] Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844. Cafodd Eben Fardd ganiatâd i gadw ei ysgol yn y capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.

Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny'n amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.

Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim a hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Agorwyd yr “Ysgol Frytanaidd newydd” yn y Capel ar Hydref 21 1850. Yr oedd dros 100 yn yr ysgol (ond yn y fersiwn Gymraeg nodir dros 120). Codwyd adeilad newydd ar ei chyfer erbyn 1863, yn cynnwys ysgoldy yn ogystal â thŷ i’r prifathro. Ond bu farw Eben Fardd yn Chwefror y flwyddyn honno ychydig fisoedd cyn yr agoriad swyddogol. Yr Ysgoldy hwn yw ystafell ymgynnull Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Codwyd Tŷ'r Capel ym 1861.

Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal Eben Fardd oedd y Parch David Jones (Dewi Arfon) er i Eben fethu â deall pam y byddai dyn mor amlwg am fod yn ysgolor iddo. Wrth i Eben waelu, cymerodd Dewi Arfon at yr awennau, ac fe fagodd enw iddo'i hun fel athro mwy bywiog nag Eben ei hun. Codwyd ysgoldy newydd a thŷ ar gyfer Dewi Arfon, ond bu farw'n ddyn ifanc 36 oed cyn iddo allu symud i'r adeiladau newydd.[2]

Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis Mathonwy Hughes.[3]

Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys (Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.[4]

Caewyd yr ysgol yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.


Cyfeiriadau

  1. Dyma lle mae Cefn.
  2. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.93
  3. Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021
  4. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94