Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwys Clynnog c1975.jpg|bawd|500px|de]]
[[Delwedd:Eglwys Clynnog c1975.jpg|bawd|500px|de]]


Adeiladwyd '''Eglwys Sant Beuno''', [[Clynnog Fawr]] rhwng 1480 a 1486, ac adeiladwyd adrannau eraill ohono rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae rhannau eraill o’r Eglwys yn dyddio i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac hefyd i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Disgrifiwyd '''Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr''' fel un o'r rhai mwyaf trawiadol yng ngogledd Cymru o ran maint ac urddas ac yn sicr gellir ei chyffelybu â’r eglwys gadeiriol ym Mangor. Sefydlwyd yr eglwys gynharaf ar y safle oddeutu 620-630 gan [[Sant Beuno|Beuno]], brodor o Aberriw ym Mhowys a ddaeth gyda'i ddilynwyr i genhadu i ogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru.  Credir i’r eglwys gynnar gael ei rheoli gan glas, sef cymuned o fynaich a oedd yn byw ac yn gweithio dan arweiniad abad. Tra oedd rhai o’r brodyr yn grefftwyr a ffermwyr, roedd eraill allan yn efengylu ac yn sefydlu eglwysi eraill.  [sylwer ar ynganiad "clas": mae’n odli efo “glas” (y lliw) nid efo’r gair Saesneg “gas“ (nwy)].
 
Adeilad bychan o goed a tho gwellt iddo oedd yr eglwys gyntaf ac mae’r [[Capel Beuno]] presennol wedi ei godi ar ei safle. Mae'n debygol iawn i'r eglwys gael ei hailadeiladu a'i helaethu sawl gwaith yn ystod y canrifoedd cynnar o ystyried mor fregus oedd adeiladau pren ac mor hawdd eu dinistrio gan dân a stormydd. Fel llawer o eglwysi eraill o amgylch arfordir Cymru, ymosododd y Llychlynwyr ar eglwys Clynnog ac yn y flwyddyn 978 cafodd ei dinistrio yn ystod cyrch gan fyddin Seisnig a oedd, am ryw reswm, yn cael ei chynorthwyo gan arglwydd Cymreig o'r enw Hywel ab Ieuaf. Darganfuwyd sylfeini adeiladau cynharach o dan y capel presennol, lle tybir y claddwyd Beuno.
 
Dechreuwyd adeiladu’r eglwys bresennol rhwng 1480 a 1486 a gwnaed ychwanegiadau pellach iddi rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach.  Mae ar gynllun croesffurf gyda thŵr gorllewinol.  Cysylltir Capel Beuno â’r eglwys gan goridor bychan gyda chrawiau cerrig yn do iddo. Adwaenid hwn fel y Rheinws oherwydd iddo gael ei ddefnyddio fel carchar am noson neu ddwy i fân droseddwyr hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhannau diweddarach o’r eglwys yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaed atgyweiriadau pellach yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
   
   
Mae gan yr Eglwys hefyd groglen sy’n dyddio o 1531, a pulpud sy’n dyddio o gwmpas 1700. Mae seddau côr hefyd yno sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif.
Mae gan yr Eglwys hefyd sgrin gerfiedig wyth bae sy’n dyddio o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ac yn gwahanu'r gangell oddi wrth gorff yr eglwys. Yn y gangell ceir pedair ar ddeg o seddau cerfiedig o'r bymthegfed ganrif ar gyfer y côr. Roedd y misericordiau  ar eu gwaelod yn galluogi’r brodyr i bwyso arnynt yn ystod y gwasanaethau meithion. Mae'n debyg fod y sgrîn, neu groglen, a rhannau eraill o'r ffitiadau coed, wedi eu gwneud gan yr un seiri arbennig o grefftus a weithiodd ar Eglwys Gadeiriol Bangor dan yr Esgob Skeffington yn yr un cyfnod. Roedd y rheiny'n rhai arbennig a ddaeth o Loegr i gyflawni'r gwaith, gan fod yr arddull yn Seisnig yn hytrach na chynhenid. Mae'r pulpud yn yr eglwys yn dyddio o ddechrau'r ddeunawfed ganrif.  
 
Yn yr eglwys hefyd mae cist, neu [[Cyff Beuno|Gyff Beuno]] fel y’i gelwir yn lleol. Cafodd y boncyff onnen hwn ei gafnu yn ystod yr oesoedd canol a’i gryfhau gyda dau strap haearn. Ychwanegwyd tri chlo yn ystod yr unfed neu’r ail ganrif ar bymtheg. “Cystal i chi geisio torri Cyff Beuno” yw’r dywediad lleol pan geisir cyflawni tasg go anodd. Pwrpas y cyff oedd derbyn offrwm y pererinion tuag at gynnal yr adeilad a’r arian a dderbynnid pan werthid gwartheg nodedig gyda nod Beuno arnynt, sef hollt yng nghlust yr anifail.
 
Un o hynodion y fynwent yw’r [[Cloc Haul Clynnog-fawr|Cloc Haul]] sydd yn dyddio o’r 9fed-12fed ganrif a hyd y gwyddys dim ond un enghraifft arall o’i fath sydd yng Nghymru gyfan. Mae wedi ei rannu’n bedwar ar gyfer oriau a gwasanaethau’r clas. Cafwyd hyd iddo ar dir [[Llyn-y-gele]] a'i symud i fynwent yr eglwys (neu yn ôl yno). 
 
Tyfodd enwogrwydd Beuno yn ystod y canrifoedd yn dilyn ei farwolaeth, fel y datblygodd ei eglwys i fod yn gyrchfan pererinion ynddi’i hun, yn ogystal â bod yn arosfa bwysig ar y [[Llwybr y Pererinion|daith i Enlli]]. Awgrymodd E.G. Bowen y dylid ystyried Beuno fel nawddsant Gogledd Cymru oherwydd nifer yr eglwysi a chapeli sy’n dwyn ei enw.<ref>Gwefan Trefdraeth Eryri; Gwefan Coflein</ref> 
   
   
Credir i’r Eglwys ei sefydlu gan [[Beuno Sant]] o gwmpas 630, ac iddo fod wedi sefydlu eglwys a man dysgu Celtaidd ar fan y lle mae’r Eglwys yn sefyll heddiw. Mae’r Eglwys hefyd yn un o’r prif fannau ar hyd llwybr y pererinion i Enlli.
===Sut y llwyddwyd i godi adeilad mor hardd a drudfawr mewn pentref mor fychan?===


{{eginyn}}
Datblygodd mynachlog Clynnog yn safle pwysig ac roedd gan Abad Clynnog sedd yn Uchel Lys Brenin Gwynedd. Y ddamcaniaeth ddiweddaraf yw mai yma yr ysgrifennwyd Pedwaredd Gainc y Mabinogi.
   
 
==Ffynonellau==
Am ei bod hi’n fynachlog rhoddid tir iddi gan wahanol dywysogion.  Roedd gan Lywelyn y Llyw Olaf dir yn y plwyf a dyna oedd achos [[Brwydr Bryn Derwin]] yn 1255 rhyngddo fo a’i frodyr Owain a Dafydd.
 
Gwelir rhestr o’r holl diroedd oedd ym meddiant Clas Clynnog yn Atlas Sir Gaernarfon. <ref>T.M. Bassett a B.L.Davies (gol.), ''Atlas Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1977), t.90</ref>
 
“Y mae’n bosibl y gwerthwyd yr holl diroedd yn ail hanner y bymthegfed ganrif;  defnyddiwyd yr elw a chyfraniadau pererinion i godi’r eglwys harddaf a mwyaf urddasol yng Ngwynedd.” <ref>A.D. Carr yn ''Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol'', W.P. Griffith (gol.), (Abertawe, Gwasg John Penri, 1999), t.67 </ref>
 
Fel y nodwyd uchod, tua 1480 i ddechrau’r 16g. y bu’r ehangu.  Mae tebygrwydd tyrau gorllewinol Bangor, Clynnog a Llanengan yn awgrymu bod pensaer arbennig yn gyfrifol am ryw gymaint o’r adeiladu yn yr esgobaeth. <ref>Enid Pierce Roberts yn ''Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol'', t.82</ref>
 
Erbyn diwedd y 15fed ganrif roedd Eglwys Beuno Sant, Clynnog, yn Eglwys Golegol a theitl y pennaeth oedd "profost". Chwech Eglwys Golegol oedd yng Nghymru gyfan - Tyddewi, Abergwili, Llanddewibrefi, Caergybi, Clynnog Fawr a Rhuthun - ond roedd eglwysi Clynnog a Rhuthun yn llai pwysig na'r pedair arall a'r ddwy wedi dod yn eiddo i'r Goron. Golygai hyn mai Saeson oedd penaethiaid yr Eglwys.  Profost Eglwys Clynnog ym 1512 oedd Yr Esgob Skevyngton o Hampshire ac enw'r Canon yma oedd John Draper (cymydog iddo).  Nid oedd trigolion Clynnog yn eu deall, wrth gwrs, ac roedden nhw'n byw yn rhy bell i ddod yma p'run bynnag.
 
==Cyfeiriadau==


[http://www.treftadaetheryri.info/cy/location/437/st-beuno-church/ Cofnod o’r lle hwn ar wefan Treftadaeth Eryri.]


[http://www.coflein.gov.uk/en/site/43699/details/st-beunos-church-clynnog-fawr Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]
[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Eglwysi]]
[[Categori:Sefydliadau crefyddol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:54, 6 Ebrill 2022

Disgrifiwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr fel un o'r rhai mwyaf trawiadol yng ngogledd Cymru o ran maint ac urddas ac yn sicr gellir ei chyffelybu â’r eglwys gadeiriol ym Mangor. Sefydlwyd yr eglwys gynharaf ar y safle oddeutu 620-630 gan Beuno, brodor o Aberriw ym Mhowys a ddaeth gyda'i ddilynwyr i genhadu i ogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru. Credir i’r eglwys gynnar gael ei rheoli gan glas, sef cymuned o fynaich a oedd yn byw ac yn gweithio dan arweiniad abad. Tra oedd rhai o’r brodyr yn grefftwyr a ffermwyr, roedd eraill allan yn efengylu ac yn sefydlu eglwysi eraill. [sylwer ar ynganiad "clas": mae’n odli efo “glas” (y lliw) nid efo’r gair Saesneg “gas“ (nwy)].

Adeilad bychan o goed a tho gwellt iddo oedd yr eglwys gyntaf ac mae’r Capel Beuno presennol wedi ei godi ar ei safle. Mae'n debygol iawn i'r eglwys gael ei hailadeiladu a'i helaethu sawl gwaith yn ystod y canrifoedd cynnar o ystyried mor fregus oedd adeiladau pren ac mor hawdd eu dinistrio gan dân a stormydd. Fel llawer o eglwysi eraill o amgylch arfordir Cymru, ymosododd y Llychlynwyr ar eglwys Clynnog ac yn y flwyddyn 978 cafodd ei dinistrio yn ystod cyrch gan fyddin Seisnig a oedd, am ryw reswm, yn cael ei chynorthwyo gan arglwydd Cymreig o'r enw Hywel ab Ieuaf. Darganfuwyd sylfeini adeiladau cynharach o dan y capel presennol, lle tybir y claddwyd Beuno.

Dechreuwyd adeiladu’r eglwys bresennol rhwng 1480 a 1486 a gwnaed ychwanegiadau pellach iddi rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae ar gynllun croesffurf gyda thŵr gorllewinol. Cysylltir Capel Beuno â’r eglwys gan goridor bychan gyda chrawiau cerrig yn do iddo. Adwaenid hwn fel y Rheinws oherwydd iddo gael ei ddefnyddio fel carchar am noson neu ddwy i fân droseddwyr hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhannau diweddarach o’r eglwys yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwnaed atgyweiriadau pellach yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae gan yr Eglwys hefyd sgrin gerfiedig wyth bae sy’n dyddio o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ac yn gwahanu'r gangell oddi wrth gorff yr eglwys. Yn y gangell ceir pedair ar ddeg o seddau cerfiedig o'r bymthegfed ganrif ar gyfer y côr. Roedd y misericordiau ar eu gwaelod yn galluogi’r brodyr i bwyso arnynt yn ystod y gwasanaethau meithion. Mae'n debyg fod y sgrîn, neu groglen, a rhannau eraill o'r ffitiadau coed, wedi eu gwneud gan yr un seiri arbennig o grefftus a weithiodd ar Eglwys Gadeiriol Bangor dan yr Esgob Skeffington yn yr un cyfnod. Roedd y rheiny'n rhai arbennig a ddaeth o Loegr i gyflawni'r gwaith, gan fod yr arddull yn Seisnig yn hytrach na chynhenid. Mae'r pulpud yn yr eglwys yn dyddio o ddechrau'r ddeunawfed ganrif.

Yn yr eglwys hefyd mae cist, neu Gyff Beuno fel y’i gelwir yn lleol. Cafodd y boncyff onnen hwn ei gafnu yn ystod yr oesoedd canol a’i gryfhau gyda dau strap haearn. Ychwanegwyd tri chlo yn ystod yr unfed neu’r ail ganrif ar bymtheg. “Cystal i chi geisio torri Cyff Beuno” yw’r dywediad lleol pan geisir cyflawni tasg go anodd. Pwrpas y cyff oedd derbyn offrwm y pererinion tuag at gynnal yr adeilad a’r arian a dderbynnid pan werthid gwartheg nodedig gyda nod Beuno arnynt, sef hollt yng nghlust yr anifail.

Un o hynodion y fynwent yw’r Cloc Haul sydd yn dyddio o’r 9fed-12fed ganrif a hyd y gwyddys dim ond un enghraifft arall o’i fath sydd yng Nghymru gyfan. Mae wedi ei rannu’n bedwar ar gyfer oriau a gwasanaethau’r clas. Cafwyd hyd iddo ar dir Llyn-y-gele a'i symud i fynwent yr eglwys (neu yn ôl yno).

Tyfodd enwogrwydd Beuno yn ystod y canrifoedd yn dilyn ei farwolaeth, fel y datblygodd ei eglwys i fod yn gyrchfan pererinion ynddi’i hun, yn ogystal â bod yn arosfa bwysig ar y daith i Enlli. Awgrymodd E.G. Bowen y dylid ystyried Beuno fel nawddsant Gogledd Cymru oherwydd nifer yr eglwysi a chapeli sy’n dwyn ei enw.[1]

Sut y llwyddwyd i godi adeilad mor hardd a drudfawr mewn pentref mor fychan?

Datblygodd mynachlog Clynnog yn safle pwysig ac roedd gan Abad Clynnog sedd yn Uchel Lys Brenin Gwynedd. Y ddamcaniaeth ddiweddaraf yw mai yma yr ysgrifennwyd Pedwaredd Gainc y Mabinogi.

Am ei bod hi’n fynachlog rhoddid tir iddi gan wahanol dywysogion. Roedd gan Lywelyn y Llyw Olaf dir yn y plwyf a dyna oedd achos Brwydr Bryn Derwin yn 1255 rhyngddo fo a’i frodyr Owain a Dafydd.

Gwelir rhestr o’r holl diroedd oedd ym meddiant Clas Clynnog yn Atlas Sir Gaernarfon. [2]

“Y mae’n bosibl y gwerthwyd yr holl diroedd yn ail hanner y bymthegfed ganrif; defnyddiwyd yr elw a chyfraniadau pererinion i godi’r eglwys harddaf a mwyaf urddasol yng Ngwynedd.” [3]

Fel y nodwyd uchod, tua 1480 i ddechrau’r 16g. y bu’r ehangu. Mae tebygrwydd tyrau gorllewinol Bangor, Clynnog a Llanengan yn awgrymu bod pensaer arbennig yn gyfrifol am ryw gymaint o’r adeiladu yn yr esgobaeth. [4]

Erbyn diwedd y 15fed ganrif roedd Eglwys Beuno Sant, Clynnog, yn Eglwys Golegol a theitl y pennaeth oedd "profost". Chwech Eglwys Golegol oedd yng Nghymru gyfan - Tyddewi, Abergwili, Llanddewibrefi, Caergybi, Clynnog Fawr a Rhuthun - ond roedd eglwysi Clynnog a Rhuthun yn llai pwysig na'r pedair arall a'r ddwy wedi dod yn eiddo i'r Goron. Golygai hyn mai Saeson oedd penaethiaid yr Eglwys. Profost Eglwys Clynnog ym 1512 oedd Yr Esgob Skevyngton o Hampshire ac enw'r Canon yma oedd John Draper (cymydog iddo). Nid oedd trigolion Clynnog yn eu deall, wrth gwrs, ac roedden nhw'n byw yn rhy bell i ddod yma p'run bynnag.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Trefdraeth Eryri; Gwefan Coflein
  2. T.M. Bassett a B.L.Davies (gol.), Atlas Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1977), t.90
  3. A.D. Carr yn Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol, W.P. Griffith (gol.), (Abertawe, Gwasg John Penri, 1999), t.67
  4. Enid Pierce Roberts yn Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol, t.82