Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Addoldy Methodistaidd ger pentref [[Dolydd]] oedd '''Capel Bryn'rodyn (MC)'''. fe'i gaewyd fel man addoli fis GOrffennaf 2018, er i'r capel gael ei dymchwel tua 20 mlynedd ynghynt, gan ddefnyddio'r festri wedyn fel addoldy.<ref>Gwybodaeth bersonol a lleol cyffredinol</ref>
[[Delwedd:Capel Bryn'rodyn tua 1900.jpg|bawd|de|500px|Capel Bryn'rodyn tua 1900]]


Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nafarn [[Plas Dolydd]], fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol, ond ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda dorf wrthwynebus yn taro drymiau ac ati. Aeth y rhai oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod ymlaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd mod iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref>
Addoldy Methodistaidd ger pentref [[Dolydd]] oedd '''Capel Bryn'rodyn (MC)'''. Fe'i caewyd fel man addoli fis Gorffennaf 2018, er i'r capel gael ei ddymchwel tua 20 mlynedd ynghynt, gan ddefnyddio'r festri wedyn fel addoldy.<ref>Gwybodaeth bersonol a lleol cyffredinol</ref>


Sylfaenydd yr achos oedd Sion Griffith a ddaeth i ffermdy Bryn'rodyn i fyw ym 1773 gyda'i wraig Elsbeth. Fe'i gefnogwyd yn y gwaith o sefydlu achos gan Ifan Sion, Tyddyn Mawr a Robert Hughes, Cae Llywarch.<ref>W. Hobley, ''op. cit.'', t.151</ref>
Yn ôl yr hanes yn llyfr [[William Hobley]], tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nhafarn [[Plas Dolydd]], fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, a hynny cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol. Fodd bynnag, ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda thorf wrthwynebus yn curo drymiau ac ati. Aeth y rhai a oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn [[Rhostryfan]], ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod yn ei flaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd modd iddo barhau.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref>


Agorwyd y Capel yn 1789, ar ôl dechrau achos yno ychydig o flynyddoedd yn gynharach. Yn debyg iawn i gapeli MC eraill a adeiladwyd yn yr un cyfnod, roedd prydles o 99 mlynedd ar y Capel gyda'r amod "''....o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddío, darllen a dehongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r hollalluog''". Roedd rhent o ddeg swllt y flwyddyn ar y capel hefyd.  
Sylfaenydd yr achos oedd Sion Griffith a ddaeth i ffermdy Bryn'rodyn i fyw ym 1773 gyda'i wraig Elsbeth. Fe'i cefnogwyd yn y gwaith o sefydlu achos gan Ifan Sion, Tyddyn Mawr a Robert Hughes, Cae Llywarch.<ref>W. Hobley, ''op. cit.'', t.151</ref>


Credir i'r Capel yma gynnal yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon yn 1790.  
Agorwyd y capel ym 1789, ar ôl dechrau achos yno ychydig flynyddoedd yn gynharach. Yn debyg iawn i gapeli MC eraill a adeiladwyd yn yr un cyfnod, roedd prydles o 99 mlynedd ar y capel gyda'r amod "''....o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddío, darllen a dehongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r hollalluog''". Roedd rhent o ddeg swllt y flwyddyn ar y capel hefyd.  


==Cysylltiad gyda Chapeli eraill==
Credir i'r capel yma gynnal yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon ym 1790.


Pan adeiladwyd [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] yn 1815 hon oedd ''cangen-eglwys'' cyntaf Capel Bryn'rodyn. Yr ail gangen oedd [[Capel Rhostryfan (MC)]], a chodwyd Capel yno yn 1820. Yna, y trydydd cangen oedd [[Capel Carmel (MC)]], ac ymunwyd y Capel hon yn 1826 ar ôl iddi gael ei hadeiladu.<ref>Hobley, W, op. cit.'' tt.150-157</ref>
Chwalwyd y capel, gan addasu'r festri fawr yn ofod addoli, yn ystod y 1990au. Gwerthwyd yr adeiladau oedd ar ôl yn 2019.
 
==Cysylltiad gyda chapeli eraill==
 
Pan adeiladwyd [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ym 1815 hon oedd ''cangen-eglwys'' gyntaf Capel Bryn'rodyn. Yr ail gangen oedd capel yn Rhostryfan a ddaeth yn [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], lle codwyd capel ym 1820. Yna, y drydedd gangen oedd [[Capel Carmel (MC)]], ac ymunodd y capel hwn ym 1826 ar ôl iddo gael ei adeiladu.<ref>Hobley, W, ''op. cit.'', tt.150-157</ref>
 
Ar ddiwedd oes yr achos, fe ymunodd eglwysi Bryn'rodyn a [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon|Brynrhos]] i ffurfio un eglwys, a hynny tua 2012, ond daeth yr achos unedig i ben yn 2018, oherwydd, meddid, anhawster penodi swyddogion, gyda'r aelodau'n symud i [[Capel y Groes (MC), Pen-y-groes]] neu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda|Capel Glan-rhyd]] .<ref>Gwybodaeth leol</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:58, 8 Rhagfyr 2021

Capel Bryn'rodyn tua 1900

Addoldy Methodistaidd ger pentref Dolydd oedd Capel Bryn'rodyn (MC). Fe'i caewyd fel man addoli fis Gorffennaf 2018, er i'r capel gael ei ddymchwel tua 20 mlynedd ynghynt, gan ddefnyddio'r festri wedyn fel addoldy.[1]

Yn ôl yr hanes yn llyfr William Hobley, tua 1770 fe arferid cynnal cyfarfodydd misol ac ati yn nhafarn Plas Dolydd, fel y man lleol addas gyda lle a lluniaeth ar gael, a hynny cyn i'r achos gael ei sefydlu'n ffurfiol. Fodd bynnag, ar un achlysur neilltuol fe gafwyd gwrthwynebiad dan esgus amddiffyn yr Eglwys Sefydledig, gyda thorf wrthwynebus yn curo drymiau ac ati. Aeth y rhai a oedd yn y cyfarfod oddi yno a cheisio cynnal cyfarfod yn Rhostryfan, ond er clywed y drymiau'n agosáu at y fan honno aeth y cyfarfod yn ei flaen. Honnwyd fod y prif ddrymiwr wedi ei daro gan y cryndod, fel nad oedd modd iddo barhau.[2]

Sylfaenydd yr achos oedd Sion Griffith a ddaeth i ffermdy Bryn'rodyn i fyw ym 1773 gyda'i wraig Elsbeth. Fe'i cefnogwyd yn y gwaith o sefydlu achos gan Ifan Sion, Tyddyn Mawr a Robert Hughes, Cae Llywarch.[3]

Agorwyd y capel ym 1789, ar ôl dechrau achos yno ychydig flynyddoedd yn gynharach. Yn debyg iawn i gapeli MC eraill a adeiladwyd yn yr un cyfnod, roedd prydles o 99 mlynedd ar y capel gyda'r amod "....o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddío, darllen a dehongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r hollalluog". Roedd rhent o ddeg swllt y flwyddyn ar y capel hefyd.

Credir i'r capel yma gynnal yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon ym 1790.

Chwalwyd y capel, gan addasu'r festri fawr yn ofod addoli, yn ystod y 1990au. Gwerthwyd yr adeiladau oedd ar ôl yn 2019.

Cysylltiad gyda chapeli eraill

Pan adeiladwyd Capel Bwlan (MC), Llandwrog ym 1815 hon oedd cangen-eglwys gyntaf Capel Bryn'rodyn. Yr ail gangen oedd capel yn Rhostryfan a ddaeth yn Capel Horeb (MC), Rhostryfan, lle codwyd capel ym 1820. Yna, y drydedd gangen oedd Capel Carmel (MC), ac ymunodd y capel hwn ym 1826 ar ôl iddo gael ei adeiladu.[4]

Ar ddiwedd oes yr achos, fe ymunodd eglwysi Bryn'rodyn a Brynrhos i ffurfio un eglwys, a hynny tua 2012, ond daeth yr achos unedig i ben yn 2018, oherwydd, meddid, anhawster penodi swyddogion, gyda'r aelodau'n symud i Capel y Groes (MC), Pen-y-groes neu Capel Glan-rhyd .[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol a lleol cyffredinol
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
  3. W. Hobley, op. cit., t.151
  4. Hobley, W, op. cit., tt.150-157
  5. Gwybodaeth leol