Pont Lyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfnwy]].  
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfni]]. Bu bont yno, fodd bynnag, am lawer o flynyddoedd cyn i'r ffordd dyrpeg ei gwella gan fod sôn am y bont , a hynny mewn cyflwr gwael, mor gynnar â 1654.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1654-5/56</ref>


Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].


Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf. ", t.45</ref>
Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref>  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.<ref>Archifdy Caernarfon XPE/28/131</ref> Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur: 
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]]
[[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]]
 
Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:
 
          ''Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw''
          ''Pont glòs odiaeth pont glws ydyw''
          ''Pont ar li Lyfni liw''
          ''Pont ddeil ond dŵr dyliw''."''
 
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777
 
Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post ([[Tafarn y Boar's Head]] gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref>
 


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:10, 12 Chwefror 2023

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfni. Bu bont yno, fodd bynnag, am lawer o flynyddoedd cyn i'r ffordd dyrpeg ei gwella gan fod sôn am y bont , a hynny mewn cyflwr gwael, mor gynnar â 1654.[1]

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[2]  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.[3] Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
Blwyddyn codi'r bont 1777
Englyn ar yr hen bont

Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:

         Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw
         Pont glòs odiaeth pont glws ydyw
         Pont ar li Lyfni liw
         Pont ddeil ond dŵr dyliw."
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777

Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post (Tafarn y Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[4]


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1654-5/56
  2. Archifdy Caernarfon XPlansB/158
  3. Archifdy Caernarfon XPE/28/131
  4. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45