Efail Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Efail Dolydd''' yn un o'r tai ac adeiladau cyntaf i'w codi yn yr hyn sydd bellach yn bentref Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda. Mae'r tŷ yn da...' |
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Efail Dolydd''' yn un o'r | Roedd '''Efail Dolydd''' yn un o'r adeiladau cyntaf i'w codi yn yr hyn sydd bellach yn bentref [[Dolydd]], ym mhlwyf [[Llanwnda]]. | ||
Mae'r tŷ yn dal i sefyll, gyferbyn â'r tŷ a elwir Y Bwthyn, lle gynt yr oedd prif dollborth y ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a [[ | Mae'r tŷ yn dal i sefyll, gyferbyn â'r tŷ a elwir Y Bwthyn, lle gynt yr oedd prif dollborth y ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a [[Dyffryn Nantlle]]. Dyma safle strategol bwysig, fel y gallai cwsmeriaid o bobtu'r giât doll gyrraedd y busnes i sicrhau gwasanaeth y gof. | ||
Yn naturiol ddigon, canolbwyntiai'r efail ar wasanaethu'r gymuned | Yn naturiol ddigon, canolbwyntiai'r efail ar wasanaethu'r gymuned amaethyddol, ac fe geir llawer o lidiardau hyd heddiw sydd yn nodi eu bod wedi cael eu gwneud gan ''Dolydd Smithy''. | ||
Ym 1889, yn ôl yr hanes yn y cyfarwyddiadur masnach ar gyfer Llanwnda, William R Roberts oedd y gof, ac fe gadwai siop yno hefyd.<ref>''Cyfarwyddiadur Masnach Sutton ar gyfer 1889-90'' (o dan 'Llanwnda')</ref> | Ym 1861, Robert Thomas oedd y gof yno, ac yn oedd hefyd yn gweithredu fel groser i'r ardal. Roedd yn 68 oed, ac roedd ei fab, Robert, yn gweithio yn yr efail hefyd.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861</ref> Ym 1889, yn ôl yr hanes yn y cyfarwyddiadur masnach ar gyfer Llanwnda, William R Roberts oedd y gof, ac fe gadwai siop yno hefyd.<ref>''Cyfarwyddiadur Masnach Sutton ar gyfer 1889-90'' (o dan 'Llanwnda')</ref> | ||
Yn ystod ail hanner y 20g, ac ar ôl i'r busnes symud i adeilad newydd lle mae Modurdy Dolydd heddiw, agorwyd caffi yn yr adeilad (''The Old Smithy Café'') gan Albanes o'r enw Mrs | Yn ystod ail hanner y 20g, ac ar ôl i'r busnes symud i adeilad newydd lle mae Modurdy Dolydd heddiw, agorwyd caffi yn yr adeilad (''The Old Smithy Café'') gan Albanes o'r enw Mrs McGregor a'i ferch. Lluniwyd llwyn yn y maes parcio i fod ar siâp eliffant, a oedd yn nodwedd o'r ardal am flynyddoedd. Hyd heddiw, disgrifir llefydd yn y cyffiniau fel rhywle neu'i gilydd 'ger yr eliffant'! Cwmni diogelwch sydd yn gweithredu o'r safle erbyn hyn. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:32, 11 Chwefror 2021
Roedd Efail Dolydd yn un o'r adeiladau cyntaf i'w codi yn yr hyn sydd bellach yn bentref Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda.
Mae'r tŷ yn dal i sefyll, gyferbyn â'r tŷ a elwir Y Bwthyn, lle gynt yr oedd prif dollborth y ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Dyffryn Nantlle. Dyma safle strategol bwysig, fel y gallai cwsmeriaid o bobtu'r giât doll gyrraedd y busnes i sicrhau gwasanaeth y gof.
Yn naturiol ddigon, canolbwyntiai'r efail ar wasanaethu'r gymuned amaethyddol, ac fe geir llawer o lidiardau hyd heddiw sydd yn nodi eu bod wedi cael eu gwneud gan Dolydd Smithy.
Ym 1861, Robert Thomas oedd y gof yno, ac yn oedd hefyd yn gweithredu fel groser i'r ardal. Roedd yn 68 oed, ac roedd ei fab, Robert, yn gweithio yn yr efail hefyd.[1] Ym 1889, yn ôl yr hanes yn y cyfarwyddiadur masnach ar gyfer Llanwnda, William R Roberts oedd y gof, ac fe gadwai siop yno hefyd.[2]
Yn ystod ail hanner y 20g, ac ar ôl i'r busnes symud i adeilad newydd lle mae Modurdy Dolydd heddiw, agorwyd caffi yn yr adeilad (The Old Smithy Café) gan Albanes o'r enw Mrs McGregor a'i ferch. Lluniwyd llwyn yn y maes parcio i fod ar siâp eliffant, a oedd yn nodwedd o'r ardal am flynyddoedd. Hyd heddiw, disgrifir llefydd yn y cyffiniau fel rhywle neu'i gilydd 'ger yr eliffant'! Cwmni diogelwch sydd yn gweithredu o'r safle erbyn hyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma