Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Afon Llyfnwy''' yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trw...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Afon Llyfnwy''' yw prif afon [[Dyffryn Nantlle]]. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben [[Drws-y-coed]] ym mhen uchaf y dyffryn trwy [[Llyn Nantlle Uchaf]], heibio pentrefi [[Tal-y-sarn]] a [[Llanllyfni]] (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, [[Rhedyw Sant]], ac ymlaen hyd [[Pontlyfni]] gan arllwys i'r môr ym [[Bae Caernarfon|Mae Caernarfon]] yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn nantlle Uchaf, yw [[Afon Drws-y-coed]].
'''Afon Llyfni''' yw prif afon [[Dyffryn Nantlle]]. Mae'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben [[Drws-y-coed]] ym mhen uchaf y dyffryn trwy [[Llyn Nantlle Uchaf]], heibio pentrefi [[Tal-y-sarn]] a [[Llanllyfni]] (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, [[Rhedyw Sant]]), ac ymlaen hyd [[Pontlyfni]] gan arllwys i'r môr ym [[Bae Caernarfon|Mae Caernarfon]] yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn Nantlle Uchaf, yw [[Afon Drws-y-coed]]. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud mewn gwirionedd ar [[Afon Llyfni]], a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw "Llyfnwy", er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol o enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,<ref>Elwyn Davies (gol.), ''Rhestr o Enwau Lleoedd'', (Caerdydd, 3ydd argraffiad, 1967), t.8</ref> ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai
Terfyniad yn ''-i'' sydd yma, nid yn ''-wy'' fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf ''Llyfnwy'' wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.<ref>Melville Richards, ''Enwau Tir a Gwlad'', (Caernarfon, 1998), t.190</ref>


Yr oedd nifer o [[Melinau Afon Llyfnwy|felinau]] ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer, mae digon o ddwr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dwr yn ôl i'r afon fawr.
Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd iddi rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn</ref>
[[Delwedd:Dargyfeirio afon llyfni 1891.jpg|bawd|de|350px| Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.]]
 
Yr oedd nifer o [[Melinau Afon Llyfnwy|felinau]] ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel rheol (fel mae enw'r afon yn ei gyfleu - sef dŵr llyfn), roedd digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dŵr yn ôl i'r afon fawr.


Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.
Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.
Llinell 7: Llinell 11:
{{eginyn}}
{{eginyn}}


[[Categeori:Afonydd]]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:34, 5 Ebrill 2022

Afon Llyfni yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant), ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn Nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud mewn gwirionedd ar Afon Llyfni, a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw "Llyfnwy", er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol o enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,[1] ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai

Terfyniad yn -i sydd yma, nid yn -wy fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf Llyfnwy wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.[2]

Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd iddi rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.[3]

Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.

Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel rheol (fel mae enw'r afon yn ei gyfleu - sef dŵr llyfn), roedd digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dŵr yn ôl i'r afon fawr.

Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Elwyn Davies (gol.), Rhestr o Enwau Lleoedd, (Caerdydd, 3ydd argraffiad, 1967), t.8
  2. Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.190
  3. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn