Kate Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Llenor oedd '''Catherine ‘Kate’ Roberts''' (1891-1985). | Llenor oedd '''Catherine ‘Kate’ Roberts''' (1891-1985). Cyfeirir ati'n aml fel "Brenhines ein Llên". | ||
Ganwyd | Ganwyd yng [[Cae'r Gors|Nghae'r Gors]], [[Rhosgadfan]] ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Caernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones a [[Syr Ifor Williams]]. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera,(1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28). | ||
Mae’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael â phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn yr 20g. Priododd â [[Morris T. Williams]] ym 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw ''Traed mewn Cyffion'', ''Y Byw sy’n Cysgu'' a ''Tegwch y Bore''. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o storïau byrion hefyd megis ''Te yn y Grug'', ''O Gors y Bryniau'' a ''Ffair Gaeaf''. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lôn Wen’ ym 1960.<ref>Kate Roberts, "Y Lôn Wen" (Dinbych, 1960).</ref> Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1950, a derbyniodd Fedal y Cymmrodorion ym 1961. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn nhref Dinbych. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/en/s10-ROBE-KAT-1891.html?query=Catherine+Roberts&field=name ''Y Bywgraffiadur Arlein'', Llyfrgell Genedlaethol Cymru.]</ref> Roedd Kate Roberts hefyd yn genedlaetholwr Cymreig.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c10-ROBE-KAT-1891.html?query=Kate+Roberts&field=name Cofnod ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol]</ref>. | |||
[[Delwedd:Cae'r Gors - the Kate Roberts Heritage Centre, Rhosgadfan - geograph.org.uk - 959903.jpg|bawd|de|"Cae'r Gors", Rhosgadfan.]] | [[Delwedd:Cae'r Gors - the Kate Roberts Heritage Centre, Rhosgadfan - geograph.org.uk - 959903.jpg|bawd|de|"Cae'r Gors", Rhosgadfan.]] | ||
Cyflwynodd ei hen gartref, a oedd wedi mynd i gyflwr sâl, i'r genedl. Trowyd yr adeilad yn "furddun rheoledig", gan dynnu ei do, plaster mewnol a choediach. Yn ddiweddarach, cafwyd grantiau ac, yn dilyn ymdrech leol a arweiniwyd gan (ymysg eraill), [[Guto Roberts]], yr actor a [[Dewi Tomos]], hanesydd lleol y pentref, fe adferwyd y tŷ i'w hen gyflwr ac ychwanegwyd ystafell ddarlithio, gan ei agor i'r cyhoedd. Gan nad oedd agor rheolaidd yn llwyddiant, rhoddwyd rheolaeth y lle yn nwylo CADW, a gellir ymweld â'r safle trwy drefnu ymlaen llaw.<ref>[http://cadw.gov.wales/daysout/CaerGors/visitorinformation?skip=1&lang=cy Gwefan CADW - Cae'r Gors]; [http://www.caergors.org/katecef.html Gwefan Cae'r Gors]</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Llenorion]] | [[Categori:Llenorion]] | ||
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]] | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Merched]] | |||
[[Categori:Awduron]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:37, 2 Ebrill 2022
Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985). Cyfeirir ati'n aml fel "Brenhines ein Llên".
Ganwyd yng Nghae'r Gors, Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Caernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera,(1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28).
Mae’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael â phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn yr 20g. Priododd â Morris T. Williams ym 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw Traed mewn Cyffion, Y Byw sy’n Cysgu a Tegwch y Bore. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o storïau byrion hefyd megis Te yn y Grug, O Gors y Bryniau a Ffair Gaeaf. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lôn Wen’ ym 1960.[1] Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1950, a derbyniodd Fedal y Cymmrodorion ym 1961. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn nhref Dinbych. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.[2] Roedd Kate Roberts hefyd yn genedlaetholwr Cymreig.[3].
Cyflwynodd ei hen gartref, a oedd wedi mynd i gyflwr sâl, i'r genedl. Trowyd yr adeilad yn "furddun rheoledig", gan dynnu ei do, plaster mewnol a choediach. Yn ddiweddarach, cafwyd grantiau ac, yn dilyn ymdrech leol a arweiniwyd gan (ymysg eraill), Guto Roberts, yr actor a Dewi Tomos, hanesydd lleol y pentref, fe adferwyd y tŷ i'w hen gyflwr ac ychwanegwyd ystafell ddarlithio, gan ei agor i'r cyhoedd. Gan nad oedd agor rheolaidd yn llwyddiant, rhoddwyd rheolaeth y lle yn nwylo CADW, a gellir ymweld â'r safle trwy drefnu ymlaen llaw.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Kate Roberts, "Y Lôn Wen" (Dinbych, 1960).
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Cofnod ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol
- ↑ Gwefan CADW - Cae'r Gors; Gwefan Cae'r Gors