Ffynnon Ddigwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ffynnon Ddigwg''' ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] nid nepell o fferm [[Pennarth]], rhwng [[Aberdesach]] a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol. ,<ref>Comisiwm Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57</ref> Ar adegau gwlyb, mae pwll sylweddol yn ffurfio, fodd bynnag, wedi ei bwydo gan ddwy ffrwd neu ffynnon.<ref>https://wellhopper.wordpress.com/2015/11/14/ffynnon-digwg-clynnog/</ref>
Mae '''Ffynnon Ddigwg''' ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] ar dir [[Pennarth]], rhwng [[Aberdesach]] a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol. <ref>Comisiwm Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57</ref> Ar adegau gwlyb, mae pwll sylweddol yn ffurfio, fodd bynnag, wedi ei fwydo gan ddwy ffrwd neu ffynnon.<ref>https://wellhopper.wordpress.com/2015/11/14/ffynnon-digwg-clynnog/</ref>


Mae nifer o hanesion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd ''Ffynnon Gwtig'' neu ''Ffynnon Gyttig''. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn nŵr y ffynnon.<ref>Francis Jones ''The Holy Wells of Wales'', (Caerdydd, 1954), t.155</ref>.
Mae nifer o hanesion anodd eu credu, neu goelion gwrach, yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd ''Ffynnon Gwtig'' neu ''Ffynnon Gyttig''. Dywedodd fod pinnau ac wyau yn cael eu rhoi ynddi; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb bigau arnynt yn nŵr y ffynnon.<ref>Francis Jones ''The Holy Wells of Wales'', (Caerdydd, 1954), t.155</ref>.


Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid y byddai mellt a tharannau'n cael eu hachosi pe cwympwyd coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristionogaeth.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.19.</ref>
Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid yr achosid mellt a tharanau pe cwympid coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristnogaeth.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.19.</ref>


Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod trysor wedi ei guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.134</ref>
Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod trysor wedi ei guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.134</ref>


Mae stori ar gael hefyd sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint amdano fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Bennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithio mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori cyffelyb am [[Beuno Sant|Sant Beuno]] mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.38.</ref>  
Mae stori ar gael hefyd sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys y Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint ohono fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Pennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithiau mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori gyffelyb am [[Beuno Sant|Sant Beuno]] mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.<ref>Francis Jones, ''op.cit.'', t.38.</ref>  
 
Am fersiynau eraill o'r stori, a manylion eraill am y Dywysoges Tigiwg ferch Ynyr Gwent, gweler yr erthygl ar [[Chwedl Ffynnon Digwg]].


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:27, 31 Mawrth 2022

Mae Ffynnon Ddigwg ym mhlwyf Clynnog Fawr ar dir Pennarth, rhwng Aberdesach a Chlynnog. Nid oes dim ar ôl i'w weld heddiw, ond pant corsiog heb unrhyw olion o adeiladwaith hynafol. [1] Ar adegau gwlyb, mae pwll sylweddol yn ffurfio, fodd bynnag, wedi ei fwydo gan ddwy ffrwd neu ffynnon.[2]

Mae nifer o hanesion anodd eu credu, neu goelion gwrach, yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth tebyg i orennau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd Ffynnon Gwtig neu Ffynnon Gyttig. Dywedodd fod pinnau ac wyau yn cael eu rhoi ynddi; fod y dŵr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb bigau arnynt yn nŵr y ffynnon.[3].

Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid yr achosid mellt a tharanau pe cwympid coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristnogaeth.[4]

Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod trysor wedi ei guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.[5]

Mae stori ar gael hefyd sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys y Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint ohono fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Pennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi â'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithiau mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd wedyn. Adroddir stori gyffelyb am Sant Beuno mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.[6]

Am fersiynau eraill o'r stori, a manylion eraill am y Dywysoges Tigiwg ferch Ynyr Gwent, gweler yr erthygl ar Chwedl Ffynnon Digwg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Comisiwm Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960) t.57
  2. https://wellhopper.wordpress.com/2015/11/14/ffynnon-digwg-clynnog/
  3. Francis Jones The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954), t.155
  4. Francis Jones, op.cit., t.19.
  5. Francis Jones, op.cit., t.134
  6. Francis Jones, op.cit., t.38.