Pandy Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai Pandy Glynllifon ar lethr deheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty Glynllifon, ac mae yna olion o gafn neu ffrwd melin yn y coed. 'Gwerny...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Safai [[Pandy Glynllifon]] ar lethr deheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty [[Glynllifon]], ac mae yna olion o gafn neu ffrwd melin yn y coed.  'Gwerny Felin' yw enw'r darn o goedwig ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]]<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, Gol.1af, 1888)</ref> sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin gweithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddyn gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'rhamantaidd' yr ardd.
Safai [[Pandy Glynllifon]] ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty [[Glynllifon]], ac mae yna olion cafn neu ffrwd melin yn y coed.  'Gwern y Felin' yw enw'r darn o goedwig ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]]<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, Gol.1af, 1888)</ref> sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin weithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddun gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'ramantaidd' yr ardd.


Pwrpas ''pandy'' oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddo gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thyn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y gwlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol.
Pwrpas ''pandy'' oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddi gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thynn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y wlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol.


Mae rhywfaint o le i gredu fod disgynnydd [[Edmund Glynn]], efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ar ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.<ref>Gwybodaeth bersonol opddi wrth W Alister Williams</ref>
Mae rhywfaint o le i gredu mai disgynnydd i [[Edmund Glynn]], efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.<ref>Gwybodaeth bersonol oddi wrth W Alister Williams</ref> Mae'n sicr, beth bynnag, mai un Thomas Griffith (tad [[Dafydd Ddu Eryri]] oedd y pannwr rywbryd o gwmpas 1740-50.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953) t.883</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 10: Llinell 10:


[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Pandai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:16, 22 Mawrth 2022

Safai Pandy Glynllifon ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty Glynllifon, ac mae yna olion cafn neu ffrwd melin yn y coed. 'Gwern y Felin' yw enw'r darn o goedwig ym Mharc Glynllifon[1] sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin weithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddun gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'ramantaidd' yr ardd.

Pwrpas pandy oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddi gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thynn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y wlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol.

Mae rhywfaint o le i gredu mai disgynnydd i Edmund Glynn, efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.[2] Mae'n sicr, beth bynnag, mai un Thomas Griffith (tad Dafydd Ddu Eryri oedd y pannwr rywbryd o gwmpas 1740-50.[3]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, Gol.1af, 1888)
  2. Gwybodaeth bersonol oddi wrth W Alister Williams
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953) t.883