Myrfyn Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Dr Myrfyn Owen (1943 – 2025) | Roedd y '''Dr Myrfyn Owen''' (1943 – 2025) yn wyddonydd ymchwil, ecolegydd a chadwraethwr a ddaeth yn bennaeth ar un o'r canolfannau cadwraeth bwysicaf o'i bath yn y byd. | ||
[[Delwedd:Myrfyn Owen yn bwydo Gwyddau Gwyllt yn Slimbridge.jpg|bawd]] | [[Delwedd:Myrfyn Owen yn bwydo Gwyddau Gwyllt yn Slimbridge.jpg|bawd|Llun o Dr Owen yn bwydo Gwyddau Gwyllt yn Slimbridge - ffotograff Ted Bath gyda chaniatad teulu Myrfyn Owen]] | ||
Magwyd Myrfyn Owen yn y ‘Wern Olau’ - fferm laeth yn rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]] rhwng [[Rhostryfan]] a [[Groeslon]] - yn ail blentyn i William Owen ac Annie Mary ( | Magwyd Myrfyn Owen yn y ‘Wern Olau’ - fferm laeth yn rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]] rhwng [[Rhostryfan]] a'r [[Groeslon]] - yn ail blentyn i William Owen ac Annie Mary (née Williams)<ref>Trwy ei fam roedd gan Dr Owen gysylltiad â’r hen dyddyn [[Llain Fadyn]] - cafodd Annie Owen (nee Williams) ei magu yno a’i mam, Kate Williams, cymynroddodd yr adeilad i’r Amgueddfa Werin ym 1955 (fe’i hagorwyd yn Sain Ffagan ym 1962). Yn dilyn eu hymddeoliad o ffermio symudodd William ac Annie Owen i dŷ unllawr newydd yn [[Rhos-isaf]] a’i enwi ‘Llainfadyn’. Roedd ewythr Dr Owen, Idris Williams, yn bennaeth Ffiseg a Dirprwy Bennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen ac ymgartrefodd yn Nhregarth gan enwi ei dŷ ‘Llainfadyn’hefyd.</ref><ref>Y Clorianydd, 3 October 1956, p.5 / Daily Post, 27 January 1962, p.1</ref>. | ||
<ref>Y Clorianydd, 3 October 1956, p.5 / Daily Post, 27 January 1962, p.1</ref>. | Mynychodd Myrfyn Owen [[Ysgol Gynradd y Groeslon]] ac wedyn Ysgol Ramadeg Syr Hugh Owen lle bu’n cyd-ddisgybl â [[Dafydd Wigley]].<ref>Herald Cymraeg, 22 August, 1992, p.3</ref>. | ||
Mynychodd Myrfyn Owen Ysgol Gynradd | |||
Cwblhaodd ei astudiaethau gradd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wrth astudio Llysieueg yno dechreuodd gymryd diddordeb arbennig mewn gweiriau a'u pwysigrwydd penodol wrth gynnal porthiant adar gwyllt. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds lle dyfarnwyd doethuriaeth iddo am ei ymchwil i batrwm dosbarthiad rhywogaethau planhigion penodol yn y gymuned <ref>Owen, | Cwblhaodd ei astudiaethau gradd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wrth astudio Llysieueg yno dechreuodd gymryd diddordeb arbennig mewn gweiriau a'u pwysigrwydd penodol wrth gynnal porthiant adar gwyllt. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds lle dyfarnwyd doethuriaeth iddo am ei ymchwil i batrwm dosbarthiad rhywogaethau planhigion penodol yn y gymuned <ref>M. Owen, ''Investigation of pattern in the distribution of certain species in a plant community.'' Ph.D. thesis, University of Leeds, (1967)</ref>. | ||
Ym 1967 penodwyd Dr Owen yn un o staff Uned Ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt i ymchwilio ym maes ecoleg adar gwyllt. Elusen gadwraeth ydi'r Ymddiriedolaeth hon - Wildfowl a Wetlands Trust (WWT) – a’i ganolfan yn Slimbridge, Swydd Caerloyw. Sefydlwyd y ganolfan hon yn 1946 gan yr adaregwr a chadwraethwr blaenllaw [https://en.wikipedia.org/wiki/Peter_Scott/ | Ym 1967 penodwyd Dr Owen yn un o staff Uned Ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt i ymchwilio ym maes ecoleg adar gwyllt. Elusen gadwraeth ydi'r Ymddiriedolaeth hon - Wildfowl a Wetlands Trust (WWT) – a’i ganolfan yn Slimbridge, Swydd Caerloyw. Sefydlwyd y ganolfan hon yn 1946 gan yr adaregwr a chadwraethwr blaenllaw Peter Scott <ref>Erthygl Wikipedia ar Peter Scott [https://en.wikipedia.org/wiki/Peter_Scott]</ref>, ac yno erbyn hyn mae'r casgliad helaethaf a'r mwyaf amrywiol yn y byd o adar gwyllt y dŵr.<ref>Gwefan WWT [https://www.wwt.org.uk/wetland-centres/slimbridge]</ref>. | ||
Ym 1973, fe’i penodwyd yn Swyddog Ymchwil Cadwraeth i’r WWT, gyda chyfrifoldeb am y lloches adar yn Slimbridge ac am oruchwylio rheolaeth llochesi eraill trwy Brydain. Tra yno cyfarwyddodd sawl prosiect ymchwil gan ddatblygu cysylltiadau gyda sawl prifysgol gan gynnwys Caerdydd a Bryste. Bu hefyd yn arwain teithiau ymchwil i | Ym 1973, fe’i penodwyd yn Swyddog Ymchwil Cadwraeth i’r WWT, gyda chyfrifoldeb am y lloches adar yn Slimbridge ac am oruchwylio rheolaeth llochesi eraill trwy Brydain. Tra yno cyfarwyddodd sawl prosiect ymchwil gan ddatblygu cysylltiadau gyda sawl prifysgol gan gynnwys Caerdydd a Bryste. Bu hefyd yn arwain teithiau ymchwil i Scandinafia, gan gynnwys Spitsbergen a Gwlad yr Iâ, gyda’r amcan o gasglu gwybodaeth i gefnogi parhad rhywogaethau adar gwyllt.<ref>M. Owen, a M.A. Ogilvie . "Wing molt and weights of barnacle geese in Spitsbergen." ''Condor'' (Oxford University Press) 81 (1979): tt.42–52</ref>. | ||
Ym 1992 daeth yn Brif Gyfarwyddwr WWT ac yn ei swydd fel pennaeth ceisiodd sicrhau bod ymdrechion addysgol yr Ymddiriedolaeth yn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd ac yn cefnogi cyfleoedd ymarferol at adfer tiroedd gwlyb. Dangosodd ymchwil staff y WWT bod y camddefnydd o gyflenwadau dŵr yn cyfrannu at gyfnodau o sychder, a hynny’n cael effaith niweidiol ar diroedd gwlyb a chynefinoedd bywyd gwyllt. | |||
Cymerodd Dr Owen ran flaenllaw yn yr ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y defnydd o blwm wrth saethu dros diroedd gwlyb ac yn y pwysau defnyddir gan bysgotwyr<ref>Thomas | Cymerodd Dr Owen ran flaenllaw yn yr ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y defnydd o blwm wrth saethu dros diroedd gwlyb ac yn y pwysau defnyddir gan bysgotwyr. <ref>Vernon Thomas a Myrfyn Owen, "Preventing lead toxicosis of European waterfowl by regulatory and non-regulatory means", ''Environmental Conservation'', Cyf. 23 (1996), Rhif 4, Rhagfyr, tt. 358-64</ref>. Cefnogodd hefyd yr ymdrechion i warchod y cloddiau a gwrychynnau cynhenid sydd yn cynnal bywyd gwyllt. Yn dilyn ei gyfnod fel Pennaeth WWT bu Dr Owen yn parhau i weithio fel Ymgynghorydd Ecolegol gan gyfrannu at weithgareddau’r grŵp ''‘Just Ecology’''. Cyfrannodd at astudiaethau a chanllawiau ecolegol ar gyfer sefydliadau a chyrff llywodraethol ym Mhrydain, yn Ewrop ac ar lefel rhyngwladol ehangach. | ||
Yn ystod ei yrfa ddisglair cyhoeddodd Dr Owen nifer sylweddol ο bapurau gwyddonol gan ysbrydoli eraill i ymchwilio yn y maes<ref>Cyhoeddwyd ei waith ymchwil yn | Yn ystod ei yrfa ddisglair cyhoeddodd Dr Owen nifer sylweddol ο bapurau gwyddonol gan ysbrydoli eraill i ymchwilio yn y maes<ref>Cyhoeddwyd ei waith ymchwil yn ''Animal Behaviour; Annals of Applied Biology; Biological Conservation; Bird Study; Condor; Environmental Conservation; Journal of Avian Biology; The IBIS; New Phytologist; Norsk Polar Institute Skrifter; Ornis Scandinavica; The Journal of Animal Ecology; Journal of Applied Ecology; The Journal of Wildlife Management; Wildfowl''. </ref>. Trwy ei yrfa bu’n cefnogi a chynghori ymchwilwyr eraill ym maes ecoleg adar ac mae nifer ohonynt wedi nodi eu diolch am ei ddiddordeb manwl yn eu gwaith. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys ei gyfraniad i ail argraffiad y gyfrol arloesol ''Wildfowl of Great Britain'' (1986) - ystyrir y llyfr yn glasur o’i fath ac mae’n parhau i fod ar gael yn ddigidol trwy Wasg Prifysgol Caergrawnt. | ||
Ymgartrefodd Dr Owen mewn pentref cyfagos i’w weithle ac yno bu’n byw â’i wraig Marian | Ymgartrefodd Dr Owen mewn pentref cyfagos i’w weithle ac yno bu’n byw â’i wraig Marian (née Rees) a’u dwy ferch Nia ac Elen - gan fagu’r ddwy i siarad Cymraeg . Bu farw ar Fawrth y Cyntaf, 2025 yn 81 oed. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:47, 3 Ebrill 2026
Roedd y Dr Myrfyn Owen (1943 – 2025) yn wyddonydd ymchwil, ecolegydd a chadwraethwr a ddaeth yn bennaeth ar un o'r canolfannau cadwraeth bwysicaf o'i bath yn y byd.

Magwyd Myrfyn Owen yn y ‘Wern Olau’ - fferm laeth yn rhan uchaf plwyf Llandwrog rhwng Rhostryfan a'r Groeslon - yn ail blentyn i William Owen ac Annie Mary (née Williams)[1][2]. Mynychodd Myrfyn Owen Ysgol Gynradd y Groeslon ac wedyn Ysgol Ramadeg Syr Hugh Owen lle bu’n cyd-ddisgybl â Dafydd Wigley.[3].
Cwblhaodd ei astudiaethau gradd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wrth astudio Llysieueg yno dechreuodd gymryd diddordeb arbennig mewn gweiriau a'u pwysigrwydd penodol wrth gynnal porthiant adar gwyllt. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Leeds lle dyfarnwyd doethuriaeth iddo am ei ymchwil i batrwm dosbarthiad rhywogaethau planhigion penodol yn y gymuned [4].
Ym 1967 penodwyd Dr Owen yn un o staff Uned Ymchwil yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt i ymchwilio ym maes ecoleg adar gwyllt. Elusen gadwraeth ydi'r Ymddiriedolaeth hon - Wildfowl a Wetlands Trust (WWT) – a’i ganolfan yn Slimbridge, Swydd Caerloyw. Sefydlwyd y ganolfan hon yn 1946 gan yr adaregwr a chadwraethwr blaenllaw Peter Scott [5], ac yno erbyn hyn mae'r casgliad helaethaf a'r mwyaf amrywiol yn y byd o adar gwyllt y dŵr.[6].
Ym 1973, fe’i penodwyd yn Swyddog Ymchwil Cadwraeth i’r WWT, gyda chyfrifoldeb am y lloches adar yn Slimbridge ac am oruchwylio rheolaeth llochesi eraill trwy Brydain. Tra yno cyfarwyddodd sawl prosiect ymchwil gan ddatblygu cysylltiadau gyda sawl prifysgol gan gynnwys Caerdydd a Bryste. Bu hefyd yn arwain teithiau ymchwil i Scandinafia, gan gynnwys Spitsbergen a Gwlad yr Iâ, gyda’r amcan o gasglu gwybodaeth i gefnogi parhad rhywogaethau adar gwyllt.[7].
Ym 1992 daeth yn Brif Gyfarwyddwr WWT ac yn ei swydd fel pennaeth ceisiodd sicrhau bod ymdrechion addysgol yr Ymddiriedolaeth yn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd ac yn cefnogi cyfleoedd ymarferol at adfer tiroedd gwlyb. Dangosodd ymchwil staff y WWT bod y camddefnydd o gyflenwadau dŵr yn cyfrannu at gyfnodau o sychder, a hynny’n cael effaith niweidiol ar diroedd gwlyb a chynefinoedd bywyd gwyllt.
Cymerodd Dr Owen ran flaenllaw yn yr ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y defnydd o blwm wrth saethu dros diroedd gwlyb ac yn y pwysau defnyddir gan bysgotwyr. [8]. Cefnogodd hefyd yr ymdrechion i warchod y cloddiau a gwrychynnau cynhenid sydd yn cynnal bywyd gwyllt. Yn dilyn ei gyfnod fel Pennaeth WWT bu Dr Owen yn parhau i weithio fel Ymgynghorydd Ecolegol gan gyfrannu at weithgareddau’r grŵp ‘Just Ecology’. Cyfrannodd at astudiaethau a chanllawiau ecolegol ar gyfer sefydliadau a chyrff llywodraethol ym Mhrydain, yn Ewrop ac ar lefel rhyngwladol ehangach.
Yn ystod ei yrfa ddisglair cyhoeddodd Dr Owen nifer sylweddol ο bapurau gwyddonol gan ysbrydoli eraill i ymchwilio yn y maes[9]. Trwy ei yrfa bu’n cefnogi a chynghori ymchwilwyr eraill ym maes ecoleg adar ac mae nifer ohonynt wedi nodi eu diolch am ei ddiddordeb manwl yn eu gwaith. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys ei gyfraniad i ail argraffiad y gyfrol arloesol Wildfowl of Great Britain (1986) - ystyrir y llyfr yn glasur o’i fath ac mae’n parhau i fod ar gael yn ddigidol trwy Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Ymgartrefodd Dr Owen mewn pentref cyfagos i’w weithle ac yno bu’n byw â’i wraig Marian (née Rees) a’u dwy ferch Nia ac Elen - gan fagu’r ddwy i siarad Cymraeg . Bu farw ar Fawrth y Cyntaf, 2025 yn 81 oed.
- ↑ Trwy ei fam roedd gan Dr Owen gysylltiad â’r hen dyddyn Llain Fadyn - cafodd Annie Owen (nee Williams) ei magu yno a’i mam, Kate Williams, cymynroddodd yr adeilad i’r Amgueddfa Werin ym 1955 (fe’i hagorwyd yn Sain Ffagan ym 1962). Yn dilyn eu hymddeoliad o ffermio symudodd William ac Annie Owen i dŷ unllawr newydd yn Rhos-isaf a’i enwi ‘Llainfadyn’. Roedd ewythr Dr Owen, Idris Williams, yn bennaeth Ffiseg a Dirprwy Bennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen ac ymgartrefodd yn Nhregarth gan enwi ei dŷ ‘Llainfadyn’hefyd.
- ↑ Y Clorianydd, 3 October 1956, p.5 / Daily Post, 27 January 1962, p.1
- ↑ Herald Cymraeg, 22 August, 1992, p.3
- ↑ M. Owen, Investigation of pattern in the distribution of certain species in a plant community. Ph.D. thesis, University of Leeds, (1967)
- ↑ Erthygl Wikipedia ar Peter Scott [1]
- ↑ Gwefan WWT [2]
- ↑ M. Owen, a M.A. Ogilvie . "Wing molt and weights of barnacle geese in Spitsbergen." Condor (Oxford University Press) 81 (1979): tt.42–52
- ↑ Vernon Thomas a Myrfyn Owen, "Preventing lead toxicosis of European waterfowl by regulatory and non-regulatory means", Environmental Conservation, Cyf. 23 (1996), Rhif 4, Rhagfyr, tt. 358-64
- ↑ Cyhoeddwyd ei waith ymchwil yn Animal Behaviour; Annals of Applied Biology; Biological Conservation; Bird Study; Condor; Environmental Conservation; Journal of Avian Biology; The IBIS; New Phytologist; Norsk Polar Institute Skrifter; Ornis Scandinavica; The Journal of Animal Ecology; Journal of Applied Ecology; The Journal of Wildlife Management; Wildfowl.