Côr Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Côr Carmel''' yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn | Roedd '''Côr Carmel''' yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn flaenorol y cafodd ei ffurfio. Yr arweinydd oedd [[R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon)]].<ref>''Y Brython'', 23.4.1914, t.6</ref> Adroddodd yr ''Herald Cymraeg'' ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl cyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Roedd hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal yng [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Nghapel Bryn'rodyn]] yn ddiweddarach y flwyddyn honno.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 31.3.1914, t.5</ref> Yn fuan ar ôl i'r ''Herald'' gyhoeddi ei adroddiad, bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg, Caernarfon, eisteddfod bwysig ar y pryd - ac i wneud ei fuddugoliaeth yn fwy trawiadol fyth, bu iddo guro côr ardderchog o Lerpwl.<ref>''Y Darian'', 30.4.1914, t.4</ref> | ||
Ni cheir sôn am Gôr Carmel wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan, a dichon iddo ddod i ben yn fuan, er gwaethaf llewyrch ei berfformiadau. | Ni cheir sôn am Gôr Carmel wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan, a dichon iddo ddod i ben yn fuan, er gwaethaf llewyrch ei berfformiadau. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:11, 17 Rhagfyr 2025
Roedd Côr Carmel yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn flaenorol y cafodd ei ffurfio. Yr arweinydd oedd R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon).[1] Adroddodd yr Herald Cymraeg ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl cyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Roedd hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal yng Nghapel Bryn'rodyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[2] Yn fuan ar ôl i'r Herald gyhoeddi ei adroddiad, bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg, Caernarfon, eisteddfod bwysig ar y pryd - ac i wneud ei fuddugoliaeth yn fwy trawiadol fyth, bu iddo guro côr ardderchog o Lerpwl.[3]
Ni cheir sôn am Gôr Carmel wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan, a dichon iddo ddod i ben yn fuan, er gwaethaf llewyrch ei berfformiadau.