Buchedd Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Categori: |
BDim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Buchedd Beuno''' yw ffynhonnell y rhan fwyaf o draddodiadau am hanes [[Beuno Sant]]. Cafodd ''Buchedd Beuno'', (sef hanes bywyd a gweinidogaeth y sant, ynghyd â'r gwyrthiau a'r traddodiadau a gysylltid ag ef erbyn yr adeg honno), ei hysgrifennu yng nghanol y 12g yn y ''scriptorium'' ym mynachlog [[Clynnog-fawr]]. Credir mai Lladin oedd iaith y fuchedd wreiddiol, ond fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg yn ddiweddarach a dim ond y fersiwn Gymraeg sydd bellach yn bodoli hyd y gwyddys, gyda'r llawysgrif Ladin wedi mynd ar goll. Mae pedair fersiwn gynnar o'r ''Fuchedd'' wedi goroesi (ynghyd ag wyth copi diweddarach); y fersiwn gynharaf yw honno a gynhwyswyd yn Llyfr Meudwyes Llanddewi-brefi. Mae'r awdurdod ar y ''Fuchedd'', yr Athro Sims-Williams, yn credu iddi gael ei hysgrifennu yn ei ffurf bresennol yn ystod y 14g., ond mae'r traddodiadau a gofnodir ynddi yn dyddio i gyfnod llawer cynharach. | |||
Mae'r Athro Sims-Williams wedi cyhoeddi testun y ''Buchedd'', ynghyd â manylion am yr holl agweddau ar y testun a'r hanes ac esboniad arnynt, mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 2018.<ref>Patrick Sims-Williams, ''Buchedd Beuno: the Middle Welsh ''Life'' of St Beuno'', (Dulyn, 2018), ''passim''.</ref> | |||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:44, 10 Rhagfyr 2025
Buchedd Beuno yw ffynhonnell y rhan fwyaf o draddodiadau am hanes Beuno Sant. Cafodd Buchedd Beuno, (sef hanes bywyd a gweinidogaeth y sant, ynghyd â'r gwyrthiau a'r traddodiadau a gysylltid ag ef erbyn yr adeg honno), ei hysgrifennu yng nghanol y 12g yn y scriptorium ym mynachlog Clynnog-fawr. Credir mai Lladin oedd iaith y fuchedd wreiddiol, ond fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg yn ddiweddarach a dim ond y fersiwn Gymraeg sydd bellach yn bodoli hyd y gwyddys, gyda'r llawysgrif Ladin wedi mynd ar goll. Mae pedair fersiwn gynnar o'r Fuchedd wedi goroesi (ynghyd ag wyth copi diweddarach); y fersiwn gynharaf yw honno a gynhwyswyd yn Llyfr Meudwyes Llanddewi-brefi. Mae'r awdurdod ar y Fuchedd, yr Athro Sims-Williams, yn credu iddi gael ei hysgrifennu yn ei ffurf bresennol yn ystod y 14g., ond mae'r traddodiadau a gofnodir ynddi yn dyddio i gyfnod llawer cynharach.
Mae'r Athro Sims-Williams wedi cyhoeddi testun y Buchedd, ynghyd â manylion am yr holl agweddau ar y testun a'r hanes ac esboniad arnynt, mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 2018.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Patrick Sims-Williams, Buchedd Beuno: the Middle Welsh Life of St Beuno, (Dulyn, 2018), passim.