Penillion am Drefor gan R. Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Eisoes ar Cof y Cwmwd | Dyma ragor o '''benillion am Drefor'''. Eisoes ar '''Cof y Cwmwd''' ceir dau bennill [[Tyddynnod a Ffermydd Trefor]] a gyfansoddwyd gan [[Robert (R.) Lloyd Jones]] (1878-1959), a fu'n brifathro [[Ysgol Trefor]] o 1913 hyd 1928. Yn ddiweddar cafwyd ar fenthyg gan Dafydd Roberts, Tir Du, [[Trefor]] lyfr ymarferion ysgol (''Exercise Book''), a oedd yn eiddo i berthnasau iddo, sef y diweddar Catherine D. Davies (Ellis yn ddiweddarach) a'i brawd Griffith Charles Davies, Gorffwysfa, Trefor. Yn y llyfr hwn ceir y ddau bennill gweddol gyfarwydd i drigolion y fro yn enwi'r tyddynnod a'r ffermydd, ond o'u blaenau ceir wyth pennill arall o waith R. Lloyd Jones dan y pennawd 'Penillion Telyn' yn sôn am bentref Trefor a [[Chwarel yr Eifl]], a roddodd fodolaeth iddo mewn gwirionedd. Yn y trydydd pennill nodir fod y pentref ymhell o gyrraedd tref a rheilffordd, ond dywedir y caiff y trigolion eu cludo yn 'bur ddi-gur' gan 'fodur ceir yn fuan'; cyfeiriad mae'n debyg at gwmni bysiau [[Clynnog a Threfor]], neu'r 'Moto Coch'. Cyfeirir wedyn at y [[Seindorf Trefor|'seindorf bêr']] yn y pennill nesaf ac yna at fri cerdd a chân ymysg y pentrefwyr gan ddymuno llwyddiant i'r cystadleuwyr. Caiff moesoldeb Trefor ei ddyrchafu wedyn - pentref 'heb dafarn na heddgeidwad' lle nad oedd angen am wasanaeth na barnwr nac ustus. Cwynir, fodd bynnag, am gyflwr y ffordd droellog (yr hen lôn fel y gelwir hi o hyd) i lawr i'r pentref, gan resynu na ellid cael un amgenach o ystyried bod cerrig [[Yr Eifl|yr Eifl]] yn palmantu dinasoedd y byd. Bu'n rhaid disgwyl tan y 1930au, wedi ymadawiad R. Lloyd Jones, cyn y cafwyd ffordd newydd i Drefor. Fe'i bedyddiwyd hi'n '[[Lôn Newydd, Trefor|Lôn Newydd]]' - enw a arddelir hyd y dydd heddiw. Fel y gwelir mae'r penillion at ei gilydd yn rhai crefftus gydag odlau mewnol yn llawer o'r cwpledi. Dyma nhw, gan ddiolch i Dafydd am ei ganiatâd parod i'w rhoi yn y Cof: | ||
Penillion Telyn | Penillion Telyn | ||
Am Drefor canwn gyda hwyl | Am Drefor canwn gyda hwyl | ||
Yn nifyr ŵyl ein hysgol, | Yn nifyr ŵyl ein hysgol, | ||
Dyma dreflan garwn ni | Dyma dreflan garwn ni | ||
Lle gwych o fri cynyddol; | Lle gwych o fri cynyddol; | ||
O olwg byd yn isel cudd | O olwg byd yn isel cudd | ||
Dan fynydd mawr cysgodol. | Dan fynydd mawr cysgodol. | ||
Pentref poblog prysur plaen | Pentref poblog prysur plaen | ||
A maen yw sail ei lwyddiant, | A maen yw sail ei lwyddiant, | ||
Naddu’r graig yn balmant cryf | Naddu’r graig yn balmant cryf | ||
I’r byd yw’n prif ddiwydiant; | I’r byd yw’n prif ddiwydiant; | ||
Ar y graig uwchben y bae | Ar y graig uwchben y bae | ||
Ein tadau’n gyson weithiant. | Ein tadau’n gyson weithiant. | ||
Pelled ŷm o gyrraedd tref | Pelled ŷm o gyrraedd tref | ||
A relwe hwylus lydan, | A relwe hwylus lydan, | ||
Cludir ni yn bur ddi-gur | Cludir ni yn bur ddi-gur | ||
Gan fodur ceir yn fuan; | Gan fodur ceir yn fuan; | ||
Am daith agos neu fo bell | Am daith agos neu fo bell | ||
Nid oes mo’i gwell yn unman. | Nid oes mo’i gwell yn unman. | ||
Enwog yw ein seindorf bêr | Enwog yw ein seindorf bêr | ||
Nis oes i’r sêr ei thebyg, | Nis oes i’r sêr ei thebyg, | ||
O’r cyrn arian clywn yn dod | O’r cyrn arian clywn yn dod | ||
Bêr nodau felys fiwsig; | Bêr nodau felys fiwsig; | ||
Cant alwadau o bob man | Cant alwadau o bob man | ||
I wneud eu rhan gwir bwysig. | I wneud eu rhan gwir bwysig. | ||
Hoff yw’r fro o gerdd a chân | Hoff yw’r fro o gerdd a chân | ||
Rym fel ar dân am ganu, | Rym fel ar dân am ganu, | ||
Lleisiau gwir gyfoethog fedd | Lleisiau gwir gyfoethog fedd | ||
Ein llanciau a’n lodesi; | Ein llanciau a’n lodesi; | ||
Llwyddiant fo i gorau’r fro | Llwyddiant fo i gorau’r fro | ||
Pan fyddont yn cystadlu | Pan fyddont yn cystadlu | ||
Difyr lecyn dyma’n barn | Difyr lecyn dyma’n barn | ||
Heb dafarn na heddgeidwad, | Heb dafarn na heddgeidwad, | ||
Tawel fyw wnawn yn gytûn | Tawel fyw wnawn yn gytûn | ||
Mewn heddwch cun yn wastad; | Mewn heddwch cun yn wastad; | ||
Tae pawb fel ni ni chawsid gwaith | Tae pawb fel ni ni chawsid gwaith | ||
I farnwr nac ustusiad | I farnwr nac ustusiad | ||
O ben-lôn i lawr rhaid dweud | O ben-lôn i lawr rhaid dweud | ||
Fod angen gwneud mawr welliant, | Fod angen gwneud mawr welliant, | ||
Hen ffordd droellog front i draed | Hen ffordd droellog front i draed | ||
Wel aed i ebargofiant; | Wel aed i ebargofiant; | ||
Am balmantu ffyrdd i’r byd | Am balmantu ffyrdd i’r byd | ||
Ai dyma’i gyd yw’n haeddiant? | Ai dyma’i gyd yw’n haeddiant? | ||
Er mai gŵyr y chwarel geir | Er mai gŵyr y chwarel geir | ||
Yn trigo yn y pentref, | Yn trigo yn y pentref, | ||
Ffermydd welwn yma a thraw | Ffermydd welwn yma a thraw | ||
I blant yn hoffus gyrchle; | I blant yn hoffus gyrchle; | ||
Enwn hwy yn awr ar gân | Enwn hwy yn awr ar gân | ||
Ac yna mi gawn eistedd. | Ac yna mi gawn eistedd. | ||
Gwydir Bach a Gwydir Mawr, | Gwydir Bach a Gwydir Mawr, | ||
Llwyn’raethnen a Chefn Berdda, | Llwyn’raethnen a Chefn Berdda, | ||
Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm, | Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm, | ||
Tir Du, Llwy Pric, Cae Cropa, | Tir Du, Llwy Pric, Cae Cropa, | ||
’Sgubor Wen a Thanybwlch, | ’Sgubor Wen a Thanybwlch, | ||
Pen Lôn, Cae’r Foty, Morfa. | Pen Lôn, Cae’r Foty, Morfa. | ||
Lleiniau Hirion, Parsal, Graig, | Lleiniau Hirion, Parsal, Graig, | ||
Uwchfoty, Tanycreigiau, | Uwchfoty, Tanycreigiau, | ||
Tyddyn Coch a Nantycwm, | Tyddyn Coch a Nantycwm, | ||
Dau Derfyn a Brynhudfa, | Dau Derfyn a Brynhudfa, | ||
’Lernion, Maesneuadd a Thyngors, | ’Lernion, Maesneuadd a Thyngors, | ||
Tai Nwddion, Bwlcyn, Rhendra. | Tai Nwddion, Bwlcyn, Rhendra. | ||
R Lloyd Jones | R Lloyd Jones | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | |||
[[Categori:Ffermydd]] | |||
[[Categori:Barddoniaeth]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:43, 25 Mawrth 2025
Dyma ragor o benillion am Drefor. Eisoes ar Cof y Cwmwd ceir dau bennill Tyddynnod a Ffermydd Trefor a gyfansoddwyd gan Robert (R.) Lloyd Jones (1878-1959), a fu'n brifathro Ysgol Trefor o 1913 hyd 1928. Yn ddiweddar cafwyd ar fenthyg gan Dafydd Roberts, Tir Du, Trefor lyfr ymarferion ysgol (Exercise Book), a oedd yn eiddo i berthnasau iddo, sef y diweddar Catherine D. Davies (Ellis yn ddiweddarach) a'i brawd Griffith Charles Davies, Gorffwysfa, Trefor. Yn y llyfr hwn ceir y ddau bennill gweddol gyfarwydd i drigolion y fro yn enwi'r tyddynnod a'r ffermydd, ond o'u blaenau ceir wyth pennill arall o waith R. Lloyd Jones dan y pennawd 'Penillion Telyn' yn sôn am bentref Trefor a Chwarel yr Eifl, a roddodd fodolaeth iddo mewn gwirionedd. Yn y trydydd pennill nodir fod y pentref ymhell o gyrraedd tref a rheilffordd, ond dywedir y caiff y trigolion eu cludo yn 'bur ddi-gur' gan 'fodur ceir yn fuan'; cyfeiriad mae'n debyg at gwmni bysiau Clynnog a Threfor, neu'r 'Moto Coch'. Cyfeirir wedyn at y 'seindorf bêr' yn y pennill nesaf ac yna at fri cerdd a chân ymysg y pentrefwyr gan ddymuno llwyddiant i'r cystadleuwyr. Caiff moesoldeb Trefor ei ddyrchafu wedyn - pentref 'heb dafarn na heddgeidwad' lle nad oedd angen am wasanaeth na barnwr nac ustus. Cwynir, fodd bynnag, am gyflwr y ffordd droellog (yr hen lôn fel y gelwir hi o hyd) i lawr i'r pentref, gan resynu na ellid cael un amgenach o ystyried bod cerrig yr Eifl yn palmantu dinasoedd y byd. Bu'n rhaid disgwyl tan y 1930au, wedi ymadawiad R. Lloyd Jones, cyn y cafwyd ffordd newydd i Drefor. Fe'i bedyddiwyd hi'n 'Lôn Newydd' - enw a arddelir hyd y dydd heddiw. Fel y gwelir mae'r penillion at ei gilydd yn rhai crefftus gydag odlau mewnol yn llawer o'r cwpledi. Dyma nhw, gan ddiolch i Dafydd am ei ganiatâd parod i'w rhoi yn y Cof:
Penillion Telyn
Am Drefor canwn gyda hwyl Yn nifyr ŵyl ein hysgol, Dyma dreflan garwn ni Lle gwych o fri cynyddol; O olwg byd yn isel cudd Dan fynydd mawr cysgodol.
Pentref poblog prysur plaen A maen yw sail ei lwyddiant, Naddu’r graig yn balmant cryf I’r byd yw’n prif ddiwydiant; Ar y graig uwchben y bae Ein tadau’n gyson weithiant.
Pelled ŷm o gyrraedd tref A relwe hwylus lydan, Cludir ni yn bur ddi-gur Gan fodur ceir yn fuan; Am daith agos neu fo bell Nid oes mo’i gwell yn unman.
Enwog yw ein seindorf bêr Nis oes i’r sêr ei thebyg, O’r cyrn arian clywn yn dod Bêr nodau felys fiwsig; Cant alwadau o bob man I wneud eu rhan gwir bwysig.
Hoff yw’r fro o gerdd a chân Rym fel ar dân am ganu, Lleisiau gwir gyfoethog fedd Ein llanciau a’n lodesi; Llwyddiant fo i gorau’r fro Pan fyddont yn cystadlu
Difyr lecyn dyma’n barn Heb dafarn na heddgeidwad, Tawel fyw wnawn yn gytûn Mewn heddwch cun yn wastad; Tae pawb fel ni ni chawsid gwaith I farnwr nac ustusiad
O ben-lôn i lawr rhaid dweud Fod angen gwneud mawr welliant, Hen ffordd droellog front i draed Wel aed i ebargofiant; Am balmantu ffyrdd i’r byd Ai dyma’i gyd yw’n haeddiant?
Er mai gŵyr y chwarel geir Yn trigo yn y pentref, Ffermydd welwn yma a thraw I blant yn hoffus gyrchle; Enwn hwy yn awr ar gân Ac yna mi gawn eistedd.
Gwydir Bach a Gwydir Mawr, Llwyn’raethnen a Chefn Berdda, Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm, Tir Du, Llwy Pric, Cae Cropa, ’Sgubor Wen a Thanybwlch, Pen Lôn, Cae’r Foty, Morfa.
Lleiniau Hirion, Parsal, Graig, Uwchfoty, Tanycreigiau, Tyddyn Coch a Nantycwm, Dau Derfyn a Brynhudfa, ’Lernion, Maesneuadd a Thyngors, Tai Nwddion, Bwlcyn, Rhendra. R Lloyd Jones