R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cerddor o Garmel oedd '''Richard Hughes Jones''', a adweinid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine ( aned ym 1850 ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]). Wedi iddo gadael yr ysgol, fe'i gyflogwyd fel postmon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901</ref>
Cerddor o Garmel oedd '''Richard Hughes Jones''', a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901</ref>


Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef [[Capel Carmel (MC)]], a bu'n arwain [[Côr Carmel]]. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost [[Carmel]] ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar destun "Ieuan Gwyllt".<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 2.3.1909, t.6</ref>
Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef [[Capel Carmel (MC)]], a bu'n arwain [[Côr Carmel]]. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost [[Carmel]] ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 2.3.1909, t.6</ref>


Fe'i dychafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i bencerddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> Y flwyddyn gynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo fo'r enw "Alaw Arfon" fel aelod yr Orsedd.<ref>''The Cardiff Times'', 10.8.1907, t.2</ref>
Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.<ref>''The Cardiff Times'', 10.8.1907, t.2</ref>


Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] ychydig cyn hynny.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5; ''Y Darian'', 6.12.1917, t.8; ''Yr Herald Cymraeg'', 30.1.1917, t.8</ref>
Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] ychydig cyn hynny.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5; ''Y Darian'', 6.12.1917, t.8; ''Yr Herald Cymraeg'', 30.1.1917, t.8</ref>


Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:


::'''PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.'''
::'''PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.'''
  Do, fe welais ar fy llythyr  
  Do, fe welais ar fy llythyr  
   Dy lawsygrif, gyfaill llon,  
   Dy lawysgrif, gyfaill llon,  
  Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost,  
  Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost,  
   Yn creu hiraeth dan fy mron  
   Yn creu hiraeth dan fy mron  
Llinell 20: Llinell 20:


  Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
   Cor yn canu fel un llu,  
   Côr yn canu fel un llu,  
  Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon,  
  Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon,  
   "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu",  
   "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu",  
Llinell 41: Llinell 41:
  Pan y gwelir meibion Gwalia  
  Pan y gwelir meibion Gwalia  
   Wedi dychwel ar eu hynt;  
   Wedi dychwel ar eu hynt;  
  Ac y ffu'r cymylau duon  
  Ac y ffy'r cymylau duon  
   'Nawr sy'n hofran uwch ein pen,  
   'Nawr sy'n hofran uwch ein pen,  
  Pan y clywir cân a moliant  
  Pan y clywir cân a moliant  
Llinell 47: Llinell 47:
:::::RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 23.12.1914, t.2</ref>
:::::RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 23.12.1914, t.2</ref>


Ar ôl diwedd y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.<ref>Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025</ref>
Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.<ref>Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025</ref>





Golygiad diweddaraf yn ôl 17:35, 5 Mawrth 2025

Cerddor o Garmel oedd Richard Hughes Jones, a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf Clynnog Fawr). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.[1]

Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".[2]

Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[3] Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.[4]

Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i Ddyffryn Nantlle ychydig cyn hynny.[5]

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:

PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr 
 Dy lawysgrif, gyfaill llon, 
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, 
 Yn creu hiraeth dan fy mron 
'Rwyt am ddyfod eto i ganu 
 Y Nadolig, medda ti, 
Na, hen ffrindiau, y mae amser 
 Wedi newid gyda ni. 
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Côr yn canu fel un llu, 
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, 
 "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", 
A "Gwnaed concwest ar Galfaria," 
 "Ffarwel iti, Gymru fad," 
Nes y byddai creigiau Cilgwyn 
 Yn adseinio mewn mwynhad. 
Canu'r nos, a chanu'r bore, 
 Fuom gynt yng Nghymru wen, 
Ac fe genir eto yno 
 Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen 
Er i dywyll amgylchiadau 
 Yrru'r plant i estron dir, 
Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, 
 Ganddynt wneir am amser hir. 
Ond gobeithiwn y daw dyddiau 
 Difyr eto, megis cynt; 
Pan y gwelir meibion Gwalia 
 Wedi dychwel ar eu hynt; 
Ac y ffy'r cymylau duon 
 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, 
Pan y clywir cân a moliant 
 Eto'n nghymoedd Cymru Wen. 
RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[6]

Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.[7]


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901
  2. Yr Herald Cymraeg, 2.3.1909, t.6
  3. Yr Herald Cymraeg, 28.7.1908, t.5
  4. The Cardiff Times, 10.8.1907, t.2
  5. Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5; Y Darian, 6.12.1917, t.8; Yr Herald Cymraeg, 30.1.1917, t.8
  6. Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2
  7. Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025