R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cerddor o Garmel oedd ''' | Cerddor o Garmel oedd '''Richard Hughes Jones''', a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901</ref> | ||
Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef [[Capel Carmel (MC)]], a bu'n arwain [[Côr Carmel]]. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost [[Carmel]] ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 2.3.1909, t.6</ref> | |||
Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.<ref>''The Cardiff Times'', 10.8.1907, t.2</ref> | |||
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae | Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] ychydig cyn hynny.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5; ''Y Darian'', 6.12.1917, t.8; ''Yr Herald Cymraeg'', 30.1.1917, t.8</ref> | ||
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd: | |||
::'''PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.''' | ::'''PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.''' | ||
Do, fe welais ar fy llythyr | Do, fe welais ar fy llythyr | ||
Dy | Dy lawysgrif, gyfaill llon, | ||
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, | Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, | ||
Yn creu hiraeth dan fy mron | Yn creu hiraeth dan fy mron | ||
Llinell 18: | Llinell 20: | ||
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r | Wyt ti'n cofio fel y byddai'r | ||
Côr yn canu fel un llu, | |||
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, | Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, | ||
"Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", | "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", | ||
Llinell 39: | Llinell 41: | ||
Pan y gwelir meibion Gwalia | Pan y gwelir meibion Gwalia | ||
Wedi dychwel ar eu hynt; | Wedi dychwel ar eu hynt; | ||
Ac y | Ac y ffy'r cymylau duon | ||
'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, | 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, | ||
Pan y clywir cân a moliant | Pan y clywir cân a moliant | ||
Eto'n nghymoedd Cymru Wen. | Eto'n nghymoedd Cymru Wen. | ||
:::::RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 23.12.1914, t.2</ref> | :::::RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 23.12.1914, t.2</ref> | ||
Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.<ref>Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025</ref> | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:35, 5 Mawrth 2025
Cerddor o Garmel oedd Richard Hughes Jones, a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf Clynnog Fawr). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.[1]
Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".[2]
Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[3] Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.[4]
Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i Ddyffryn Nantlle ychydig cyn hynny.[5]
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:
- PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr Dy lawysgrif, gyfaill llon, Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, Yn creu hiraeth dan fy mron 'Rwyt am ddyfod eto i ganu Y Nadolig, medda ti, Na, hen ffrindiau, y mae amser Wedi newid gyda ni.
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r Côr yn canu fel un llu, Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", A "Gwnaed concwest ar Galfaria," "Ffarwel iti, Gymru fad," Nes y byddai creigiau Cilgwyn Yn adseinio mewn mwynhad.
Canu'r nos, a chanu'r bore, Fuom gynt yng Nghymru wen, Ac fe genir eto yno Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen Er i dywyll amgylchiadau Yrru'r plant i estron dir, Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, Ganddynt wneir am amser hir.
Ond gobeithiwn y daw dyddiau Difyr eto, megis cynt; Pan y gwelir meibion Gwalia Wedi dychwel ar eu hynt; Ac y ffy'r cymylau duon 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, Pan y clywir cân a moliant Eto'n nghymoedd Cymru Wen.
- RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[6]
Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 2.3.1909, t.6
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 28.7.1908, t.5
- ↑ The Cardiff Times, 10.8.1907, t.2
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5; Y Darian, 6.12.1917, t.8; Yr Herald Cymraeg, 30.1.1917, t.8
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2
- ↑ Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025