R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Cerddor o Garmel oedd '''R. Hughes Jones''', a adweinid fel Pencerdd Llifon. Priododd â'r gantores Moelwyn Jones ar ddechrau 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5</ref> ==Cyfeiriadau== Categori:Pobl Categori:Cerddorion"
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cerddor o Garmel oedd '''R. Hughes Jones''', a adweinid fel Pencerdd Llifon.
Cerddor o Garmel oedd '''Richard Hughes Jones''', a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901</ref>
 
Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef [[Capel Carmel (MC)]], a bu'n arwain [[Côr Carmel]]. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost [[Carmel]] ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 2.3.1909, t.6</ref>
 
Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.<ref>''The Cardiff Times'', 10.8.1907, t.2</ref>
 
Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] ychydig cyn hynny.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5; ''Y Darian'', 6.12.1917, t.8; ''Yr Herald Cymraeg'', 30.1.1917, t.8</ref>
 
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:
 
::'''PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.'''
Do, fe welais ar fy llythyr
  Dy lawysgrif, gyfaill llon,
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost,
  Yn creu hiraeth dan fy mron
'Rwyt am ddyfod eto i ganu
  Y Nadolig, medda ti,
Na, hen ffrindiau, y mae amser
  Wedi newid gyda ni.
 
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Côr yn canu fel un llu,
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon,
  "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu",
A "Gwnaed concwest ar Galfaria,"
  "Ffarwel iti, Gymru fad,"
Nes y byddai creigiau Cilgwyn
  Yn adseinio mewn mwynhad.
 
Canu'r nos, a chanu'r bore,
  Fuom gynt yng Nghymru wen,
Ac fe genir eto yno
  Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen
Er i dywyll amgylchiadau
  Yrru'r plant i estron dir,
Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi,
  Ganddynt wneir am amser hir.
 
Ond gobeithiwn y daw dyddiau
  Difyr eto, megis cynt;
Pan y gwelir meibion Gwalia
  Wedi dychwel ar eu hynt;
Ac y ffy'r cymylau duon
  'Nawr sy'n hofran uwch ein pen,
Pan y clywir cân a moliant
  Eto'n nghymoedd Cymru Wen.
:::::RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 23.12.1914, t.2</ref>
 
Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.<ref>Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025</ref>


Priododd â'r gantores Moelwyn Jones ar ddechrau 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:35, 5 Mawrth 2025

Cerddor o Garmel oedd Richard Hughes Jones, a adwaenid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf Clynnog Fawr). Wedi iddo adael yr ysgol, fe'i cyflogwyd fel postmon.[1]

Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar y testun "Ieuan Gwyllt".[2]

Fe'i dyrchafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i benceirddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[3] Y flwyddyn cynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo'i hun yr enw "Alaw Arfon" fel aelod o'r Orsedd.[4]

Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw i Ddyffryn Nantlle ychydig cyn hynny.[5]

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:

PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr 
 Dy lawysgrif, gyfaill llon, 
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, 
 Yn creu hiraeth dan fy mron 
'Rwyt am ddyfod eto i ganu 
 Y Nadolig, medda ti, 
Na, hen ffrindiau, y mae amser 
 Wedi newid gyda ni. 
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Côr yn canu fel un llu, 
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, 
 "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", 
A "Gwnaed concwest ar Galfaria," 
 "Ffarwel iti, Gymru fad," 
Nes y byddai creigiau Cilgwyn 
 Yn adseinio mewn mwynhad. 
Canu'r nos, a chanu'r bore, 
 Fuom gynt yng Nghymru wen, 
Ac fe genir eto yno 
 Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen 
Er i dywyll amgylchiadau 
 Yrru'r plant i estron dir, 
Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, 
 Ganddynt wneir am amser hir. 
Ond gobeithiwn y daw dyddiau 
 Difyr eto, megis cynt; 
Pan y gwelir meibion Gwalia 
 Wedi dychwel ar eu hynt; 
Ac y ffy'r cymylau duon 
 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, 
Pan y clywir cân a moliant 
 Eto'n nghymoedd Cymru Wen. 
RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[6]

Ar ôl y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.[7]


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901
  2. Yr Herald Cymraeg, 2.3.1909, t.6
  3. Yr Herald Cymraeg, 28.7.1908, t.5
  4. The Cardiff Times, 10.8.1907, t.2
  5. Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5; Y Darian, 6.12.1917, t.8; Yr Herald Cymraeg, 30.1.1917, t.8
  6. Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2
  7. Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025