Band Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Yn ôl y ''North Wales Chronicle'' ar gyfer 9 Mai 1863, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu '''band ym mhentref [[Llandwrog]]'''.
Yn ôl y ''North Wales Chronicle'' ar gyfer 9 Mai 1863, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu '''band ym mhentref [[Llandwrog]]'''.


Trefnwyd cyngerdd yn yr Ysgol ar 30 Ebrill 1863 i godi arian at ffurfio'r band, syniad a gychwynnwyd gan Miss Jones, Y Rheithordy. Ymysg y gynulleidfa oedd bonedd y fro, yn cynnwys teulu [[Plas Glynllifon]]:  Hon. [[Frederick George Wynn|Mr. Wynne]], a'r Misses Wynne, Glynllifon; Mrs. Jones a'r Misses Jones, Cefnycoed; y Parch. Ganon Jones, a'r Misses Jones, Y Rheithordy, a llawer iawn o rai eraill o "elite" y gymdogaeth, yn ôl y papur. Perfformiwyd y "Duke's March" gan Fand Milisia Caernarfon, dan arweiniad Mr. G. Hope, ynghyd â nifer o ddarnau eraill. Cafwyd ''Toriad y dydd'' a ganwyd gan J. Davies a Howel Roberts, encôr. Canodd Mr Davies hefyd "O tyr'd yn ôl fy ngeneth lân," gyda chyfeiliant gan Mr. Hayden. Anerchwyd y gynulleidfa yn y Gymraeg gan Howel Roberts am gerddoriaeth, Ymddangosodd Mr. R. Patrick, [[Y Bontnewydd]], am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa, gan ganu ''Excelsior''. Y cyfeilydd oedd Mr. W. Hayden, Caernarfon, a fo hefyd oedd cyfeilydd Miss Evans, Cwm-y-glo, ar gyfer ''Gwenith Gwyn'', ''Hen wlad fy nhadau'' a ''Clychau Aberdyfi''.  Caewyd y noson trwy i'r band chwarae ''Duw gadwo'r Frenhines''.<ref>''North Wales Chronicle'', 9 Mai 1863, [http://newspapers.library.wales/view/4511787/4511790/26/] adalwyd 7.9.2018</ref><ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'', (2004), t.148</ref>
Trefnwyd cyngerdd yn yr Ysgol ar 30 Ebrill 1863 i godi arian at ffurfio'r band, syniad a gychwynnwyd gan Miss Jones, Y Rheithordy. Ymysg y gynulleidfa oedd bonedd y fro, yn cynnwys teulu [[Plas Glynllifon]]:  Hon. [[Frederick George Wynn|Mr. Wynne]], a'r Misses Wynne, Glynllifon; Mrs. Jones a'r Misses Jones, Cefnycoed; y Parch. Ganon Jones, a'r Misses Jones, Y Rheithordy, a llawer iawn o rai eraill o "elite" y gymdogaeth, yn ôl y papur. Perfformiwyd y "Duke's March" gan Fand Milisia Caernarfon, dan arweiniad Mr. G. Hope, ynghyd â nifer o ddarnau eraill. Cafwyd ''Toriad y dydd'' a ganwyd gan J. Davies a Howel Roberts, encôr. Canodd Mr Davies hefyd "O tyr'd yn ôl fy ngeneth lân," gyda chyfeiliant gan Mr. Hayden. Anerchwyd y gynulleidfa yn y Gymraeg gan Howel Roberts am gerddoriaeth, Ymddangosodd Mr. R. Patrick, [[Y Bontnewydd]], am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa, gan ganu ''Excelsior''. Y cyfeilydd oedd Mr. W. Hayden, Caernarfon, a fo hefyd oedd cyfeilydd Miss Evans, Cwm-y-glo, ar gyfer ''Gwenith Gwyn'', ''Hen wlad fy nhadau'' a ''Clychau Aberdyfi''.  Caewyd y noson trwy i'r band chwarae ''Duw gadwo'r Frenhines''.<ref>''North Wales Chronicle'', 9.5.1863, [http://newspapers.library.wales/view/4511787/4511790/26/] adalwyd 7.9.2018</ref><ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'', (2004), t.148</ref>
 
Ysywaeth, mae'n ymddangos na ddaeth ddim byd o'r ymgyrch hon, gan na chlywir sôn eto am fand yn Llandwrog am ryw ugain mlynedd, er y credir bod pasrti o offerynwyr yn cyfeilio yn [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog|yr eglwys]] tua'r adeg honno.
 
Ailgydiwyd yn y syniad o gael band yn Llandwrog tua Medi 1883. Gweler y dyfyniad isod o'r wasg ar y pryd:
LLANDWROG. CYNGHERDD.—Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyngherdd poblogaidd yn y lle uchod, er budd y seindorf bres sydd wedi dechreu yma er's rhyw dri mis yn ol, o dan addysgiaeth Mr David D. Williams. Cymerwyd rhan ynddo gan Misses Fanny Richards a M. J. Williams, Caernarfon; Glan Peris, Meistri Thomas T.Williams, a Griffith Roberts, [[Pen-y-groes]]; a Samuel R. Jones, Pisgah. Cyfeiliwyd yn alluog gan Mr. J. W. Roberts. Y llywydd oedd Mr David D. Thomas, [[Nantlle]], a goruchwyliwr Chwarel Glan'rafon, Rhyd-ddu, ac aeth drwy ei waith yn dra galluog, felly hefyd yr holl gantorion. Prif at-dyniad y cyfarfod oedd y gantores ieuanc dalentog Miss Fanny Richards, Caernarfon, a chafodd y derbyniad mwyaf gwresog. Yr oedd yn syndod clywed y band yn chwareu mor dda, ac os parhant yn selog, diau y byddant yn anrhydedd i'r ardal. Yr ydym yn deall fod llwyddiant y cyfarfod i'w briodoli i Meistri Richard Jones, gôf, Glynllifon, a Mr David D. Williams.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 19.12.1883, t.8 [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/4441993/4442001/65/Seindorf%2BAND%2BLlandwrog]</ref>
 
Roedd y band yn dal i fynd ym 1884 pan drefnwyd tro i [[Dinas Dinlle|Ddinas Dinlle]] gan Miss Catherine Wynn, [[Glynllifon]], sef yr hyn a alwyd yn "trît te blynyddol". Ar ôl gorymdeithio'n drefnus at y môr gyda Band Llandwrog yn arwain, cafwyd nifer o chwareuon cyn i'r plant gael eu te. Ar ôl dychwelyd i'r pentref, rhoddwyd bynsan i bob plentyn, a the a "phethau da eraill" i'r oedolion ac aelodau'r band.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 9.8.1894, t.6 [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3599466/3599472/46/Band%2BAND%2BLlandwrog]</ref>
 
Dyna, fodd bynnag, yw'r olaf y clywir yn y wasg, hyd y gwyddom, am fand Llandwrog. Trefnwyd cyngerdd mawreddog yn yr [[Ysgol Llandwrog|ysgol]] ym 1894, a rhaid oedd dibynnu ar fand ''ad hoc'' a oedd mewn gwirionedd yn debycach i grŵp siambr, er mwyn cyfeilio:
The following ladies and gentlemen kindly volunteered their services in the band :—The Misses F. Bankes Price, Maggie M. Jones. Mr Richard Jones (violin). Mr Cole (flute), Mr J. W. Roberts, Pen'rallt (organ), Miss Annie Humphreys (piano).<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 13.7.1884, t.6 [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3602067/3602073/60/Band%2BAND%2BLlandwrog]</ref>
 
Dichon nad oedd neb o'r offerynwyr oedd yn y band ddeng mlynedd ynghynt yn dal i arddel eu hofferynnau. 
 


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:15, 3 Hydref 2024

Yn ôl y North Wales Chronicle ar gyfer 9 Mai 1863, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu band ym mhentref Llandwrog.

Trefnwyd cyngerdd yn yr Ysgol ar 30 Ebrill 1863 i godi arian at ffurfio'r band, syniad a gychwynnwyd gan Miss Jones, Y Rheithordy. Ymysg y gynulleidfa oedd bonedd y fro, yn cynnwys teulu Plas Glynllifon: Hon. Mr. Wynne, a'r Misses Wynne, Glynllifon; Mrs. Jones a'r Misses Jones, Cefnycoed; y Parch. Ganon Jones, a'r Misses Jones, Y Rheithordy, a llawer iawn o rai eraill o "elite" y gymdogaeth, yn ôl y papur. Perfformiwyd y "Duke's March" gan Fand Milisia Caernarfon, dan arweiniad Mr. G. Hope, ynghyd â nifer o ddarnau eraill. Cafwyd Toriad y dydd a ganwyd gan J. Davies a Howel Roberts, encôr. Canodd Mr Davies hefyd "O tyr'd yn ôl fy ngeneth lân," gyda chyfeiliant gan Mr. Hayden. Anerchwyd y gynulleidfa yn y Gymraeg gan Howel Roberts am gerddoriaeth, Ymddangosodd Mr. R. Patrick, Y Bontnewydd, am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa, gan ganu Excelsior. Y cyfeilydd oedd Mr. W. Hayden, Caernarfon, a fo hefyd oedd cyfeilydd Miss Evans, Cwm-y-glo, ar gyfer Gwenith Gwyn, Hen wlad fy nhadau a Clychau Aberdyfi. Caewyd y noson trwy i'r band chwarae Duw gadwo'r Frenhines.[1][2]

Ysywaeth, mae'n ymddangos na ddaeth ddim byd o'r ymgyrch hon, gan na chlywir sôn eto am fand yn Llandwrog am ryw ugain mlynedd, er y credir bod pasrti o offerynwyr yn cyfeilio yn yr eglwys tua'r adeg honno.

Ailgydiwyd yn y syniad o gael band yn Llandwrog tua Medi 1883. Gweler y dyfyniad isod o'r wasg ar y pryd:

LLANDWROG. CYNGHERDD.—Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyngherdd poblogaidd yn y lle uchod, er budd y seindorf bres sydd wedi dechreu yma er's rhyw dri mis yn ol, o dan addysgiaeth Mr David D. Williams. Cymerwyd rhan ynddo gan Misses Fanny Richards a M. J. Williams, Caernarfon; Glan Peris, Meistri Thomas T.Williams, a Griffith Roberts, Pen-y-groes; a Samuel R. Jones, Pisgah. Cyfeiliwyd yn alluog gan Mr. J. W. Roberts. Y llywydd oedd Mr David D. Thomas, Nantlle, a goruchwyliwr Chwarel Glan'rafon, Rhyd-ddu, ac aeth drwy ei waith yn dra galluog, felly hefyd yr holl gantorion. Prif at-dyniad y cyfarfod oedd y gantores ieuanc dalentog Miss Fanny Richards, Caernarfon, a chafodd y derbyniad mwyaf gwresog. Yr oedd yn syndod clywed y band yn chwareu mor dda, ac os parhant yn selog, diau y byddant yn anrhydedd i'r ardal. Yr ydym yn deall fod llwyddiant y cyfarfod i'w briodoli i Meistri Richard Jones, gôf, Glynllifon, a Mr David D. Williams.[3] 

Roedd y band yn dal i fynd ym 1884 pan drefnwyd tro i Ddinas Dinlle gan Miss Catherine Wynn, Glynllifon, sef yr hyn a alwyd yn "trît te blynyddol". Ar ôl gorymdeithio'n drefnus at y môr gyda Band Llandwrog yn arwain, cafwyd nifer o chwareuon cyn i'r plant gael eu te. Ar ôl dychwelyd i'r pentref, rhoddwyd bynsan i bob plentyn, a the a "phethau da eraill" i'r oedolion ac aelodau'r band.[4]

Dyna, fodd bynnag, yw'r olaf y clywir yn y wasg, hyd y gwyddom, am fand Llandwrog. Trefnwyd cyngerdd mawreddog yn yr ysgol ym 1894, a rhaid oedd dibynnu ar fand ad hoc a oedd mewn gwirionedd yn debycach i grŵp siambr, er mwyn cyfeilio:

The following ladies and gentlemen kindly volunteered their services in the band :—The Misses F. Bankes Price, Maggie M. Jones. Mr Richard Jones (violin). Mr Cole (flute), Mr J. W. Roberts, Pen'rallt (organ), Miss Annie Humphreys (piano).[5]

Dichon nad oedd neb o'r offerynwyr oedd yn y band ddeng mlynedd ynghynt yn dal i arddel eu hofferynnau.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 9.5.1863, [1] adalwyd 7.9.2018
  2. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004), t.148
  3. Y Genedl Gymreig, 19.12.1883, t.8 [2]
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 9.8.1894, t.6 [3]
  5. Caernarvon and Denbigh Herald, 13.7.1884, t.6 [4]