Y Bryn, Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Saif '''Y Bryn''' ar ben yr allt sy'n codi o Ffingar a Phant Gadlys ar yr hen lôn bost i Ddyffryn Nantlle, ar gyrion y Dolydd. Mae'n debyg i'r tŷ presennol gael ei godi yn ystod y 1890au, a rhoddwyd enw newydd, sef Fern Villa, i'r annedd-dŷ. Yr oedd tŷ cynharach wedi bod ar yr un safle, a'r safle ei hun yn rhan o fferm Garth, Llanwnda. Ym 1838, Arglwydd Newborough oedd yn be..."
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Erbyn 1851, un Thomas Jones, goreurwr 61 oed oedd yn byw yno, a'r enw a roddwyd ar y tŷ yn nogfen y Cyfrifiad oedd Bryn Crach. Erbyn 1861, gwas ffarm o'r enw John Jones, 63 oed, a'i wraig Jane, o Langeinwen yn wreiddiol, oedd yn byw yno - a Cae Sais oedd yr enw a nodwyd. Bryn Crach oedd yr enw ym 1871 a John a Jane Jones oedd yn dal i fyw yno. Ym 1881, William Hughes, labrwr 41 oed, yn wreiddiol o Fodedern, ei wraig Jane a phedwar o blant oedd yn byw yn y tŷ - a Caer Sais oedd yr enw a gofnodwyd. Gweddw William Hughes oedd yn dal yno ym 1891, ac erbyn hynny, Tyddyn Sais oedd yr enw a roddwyd ar y tŷ.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-91</ref>
Erbyn 1851, un Thomas Jones, goreurwr 61 oed oedd yn byw yno, a'r enw a roddwyd ar y tŷ yn nogfen y Cyfrifiad oedd Bryn Crach. Erbyn 1861, gwas ffarm o'r enw John Jones, 63 oed, a'i wraig Jane, o Langeinwen yn wreiddiol, oedd yn byw yno - a Cae Sais oedd yr enw a nodwyd. Bryn Crach oedd yr enw ym 1871 a John a Jane Jones oedd yn dal i fyw yno. Ym 1881, William Hughes, labrwr 41 oed, yn wreiddiol o Fodedern, ei wraig Jane a phedwar o blant oedd yn byw yn y tŷ - a Caer Sais oedd yr enw a gofnodwyd. Gweddw William Hughes oedd yn dal yno ym 1891, ac erbyn hynny, Tyddyn Sais oedd yr enw a roddwyd ar y tŷ.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-91</ref>


Mae olion mur a ffenestr ar ochr y ffordd i'w gweld wrth ochr y tŷ presennol, a dichon mai dyna'r hyn sy'n weddill o'r hen adeilad, gan fod tŷ mwy swmpus a modern wedi'i godi yn ystod y 1890au. Rhoddwyd yr enw "Fern Villa" i'r tŷ ar ei newydd wedd, ac o'r dechrau, roedd yn breswylfod i bobl well eu byd na'r hen drigolion. Mae'n debygol iawn mai Samuel Tanner, ysgrifennydd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oedd yn gyfrifol am ei godi. Yn sicr, ef oedd yno pan aeth yn fethdalwr ym 1898.<ref>''North Wales Times'', 16.4.1898, t.7</ref>
Mae olion mur a ffenestr ar ochr y ffordd i'w gweld wrth ochr y tŷ presennol, a dichon mai dyna'r hyn sy'n weddill o'r hen adeilad, gan fod tŷ mwy swmpus a modern wedi'i godi yn ystod y 1890au. Rhoddwyd yr enw "Fern Villa" i'r tŷ ar ei newydd wedd, ac o'r dechrau, roedd yn breswylfod i bobl well eu byd na'r hen drigolion. Dywedir mai Samuel Tanner, ysgrifennydd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oedd yn gyfrifol am ei godi.<ref>Traethawd eisteddfodol c1950 gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat</ref> Yn sicr, ef oedd yno pan aeth yn fethdalwr ym 1898.<ref>''North Wales Times'', 16.4.1898, t.7</ref>


Erbyn 1901, roedd David Williams, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd a hen lanc, wedi symud yno, gyda'i chwaer yn cadw tŷ iddo, a morwyn hefyd yn byw yno. Roedd y Parch. David Williams yn gweithredu fel gweinidog cyntaf [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]]. Bu yno hyd ei farwolaeth ym 1914. Wedyn, symudodd gŵr o'r enw William Jones i'r tŷ, a enwid yn Fern Villa o hyd, a hynny tua mis Ebrill 1914. Bu William Jones yn amlwg iawn fel blaenor yng Nghapel Glan-rhyd am flynyddoedd.<ref>''Y Goleuad'', 14.4.1914, t.11</ref>
Yn nes ymlaen ym 1898 symudodd y Parch.[[David Williams, Fern Villa|David Williams]], gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmorfa tan hynny, i'r . Er iddo ymddeol, bu'n gweithredu fel gweinidog cyntaf [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], a hynny heb dderbyn cyflog.<ref>Deunydd anghyhoedd ym meddiant y capel</ref> Hen lanc ydoedd,a'i chwaer yn cadw tŷ iddo, a morwyn hefyd yn byw yno. Bu yn Fern Villa hyd ei farwolaeth ym 1914. Wedyn, symudodd gŵr o'r enw William Jones i'r tŷ, a enwid yn Fern Villa o hyd, a hynny tua mis Ebrill 1914. Bu William Jones yn amlwg iawn fel blaenor yng Nghapel Glan-rhyd am flynyddoedd.<ref>''Y Goleuad'', 14.4.1914, t.11</ref>


Rywbryd yn nes ymlaen yn y ganrif, newidiwyd enw'r tŷ i "Y Bryn". Bu un o swyddogion cyllid y Cyngor Sir, Roland Jones, yn byw yno am flynyddoedd, ond bellach ers nifer helaeth o flynyddoedd mae'n gartref i'r gantores opera a hyfforddwraig, Sian Gibson a'i gŵr.<ref>Gwybodaeth leol</ref>
Rywbryd yn nes ymlaen yn y ganrif, newidiwyd enw'r tŷ i "Y Bryn". Bu un o swyddogion cyllid y Cyngor Sir, Roland Jones, yn byw yno am flynyddoedd, ond bellach ers nifer helaeth o flynyddoedd mae'n gartref i'r gantores opera a hyfforddwraig, Sian Gibson a'i gŵr.<ref>Gwybodaeth leol</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:25, 18 Medi 2024

Saif Y Bryn ar ben yr allt sy'n codi o Ffingar a Phant Gadlys ar yr hen lôn bost i Ddyffryn Nantlle, ar gyrion y Dolydd. Mae'n debyg i'r tŷ presennol gael ei godi yn ystod y 1890au, a rhoddwyd enw newydd, sef Fern Villa, i'r annedd-dŷ. Yr oedd tŷ cynharach wedi bod ar yr un safle, a'r safle ei hun yn rhan o fferm Garth, Llanwnda. Ym 1838, Arglwydd Newborough oedd yn berchen ar Garth, a'r ffermwr oedd Robert Jones.[1] Mae'r map degwm yn dangos bod adeilad lle saif Y Bryn heddiw gerllaw cae o'r enw Bryn Corach. Mae'r Cyfrifiad ym 1841, fodd bynnag, yn rhoi'r enw "Cae Sais" i'r adeilad, gan nodi mai Hywel Parry, gwehydd 70 oed oedd yn byw yno. Mae rhai ffynonellau'n rhoi'r enw "Bryn Crach", llurgeiniad o "Bryn Corach", i gartref Hywel Parry.[2]

Ceir hanes difyr i Hywel Parry. Roedd yn daid i'r bardd Gwilym Droed-ddu, a aned mewn tyddyn o'r enw Llwyn Angharad nid nepell i ffwrdd ar draws caeau Gadlys. Rhaid bod Hywel Parry'n un o wehyddion olaf y fro, gan fod deunyddiau parod yn llifo o ffatrïoedd Gogledd Lleogr erbyn hynny. Mae 'na sôn bod Hywel Parry'n arbennig o wybodus, ac yn ffrind arbennig i Dic Aberdaron. Teithiodd hwnnw aml i dro rhwng Aberdaron a Lerpwl, a byddai'n arfer treulio'r noson ym Mryn Crach neu Cae Sais. Roedd Hywel Parry wedi symud o'r tŷ rywbryd yn ystod y 1840au, gan fyw yn Gellach fain, plwyf Llanbeblig, lle bu farw yn 80 oed ym 1850.[3]

Erbyn 1851, un Thomas Jones, goreurwr 61 oed oedd yn byw yno, a'r enw a roddwyd ar y tŷ yn nogfen y Cyfrifiad oedd Bryn Crach. Erbyn 1861, gwas ffarm o'r enw John Jones, 63 oed, a'i wraig Jane, o Langeinwen yn wreiddiol, oedd yn byw yno - a Cae Sais oedd yr enw a nodwyd. Bryn Crach oedd yr enw ym 1871 a John a Jane Jones oedd yn dal i fyw yno. Ym 1881, William Hughes, labrwr 41 oed, yn wreiddiol o Fodedern, ei wraig Jane a phedwar o blant oedd yn byw yn y tŷ - a Caer Sais oedd yr enw a gofnodwyd. Gweddw William Hughes oedd yn dal yno ym 1891, ac erbyn hynny, Tyddyn Sais oedd yr enw a roddwyd ar y tŷ.[4]

Mae olion mur a ffenestr ar ochr y ffordd i'w gweld wrth ochr y tŷ presennol, a dichon mai dyna'r hyn sy'n weddill o'r hen adeilad, gan fod tŷ mwy swmpus a modern wedi'i godi yn ystod y 1890au. Rhoddwyd yr enw "Fern Villa" i'r tŷ ar ei newydd wedd, ac o'r dechrau, roedd yn breswylfod i bobl well eu byd na'r hen drigolion. Dywedir mai Samuel Tanner, ysgrifennydd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oedd yn gyfrifol am ei godi.[5] Yn sicr, ef oedd yno pan aeth yn fethdalwr ym 1898.[6]

Yn nes ymlaen ym 1898 symudodd y Parch.David Williams, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmorfa tan hynny, i'r tŷ. Er iddo ymddeol, bu'n gweithredu fel gweinidog cyntaf Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda, a hynny heb dderbyn cyflog.[7] Hen lanc ydoedd,a'i chwaer yn cadw tŷ iddo, a morwyn hefyd yn byw yno. Bu yn Fern Villa hyd ei farwolaeth ym 1914. Wedyn, symudodd gŵr o'r enw William Jones i'r tŷ, a enwid yn Fern Villa o hyd, a hynny tua mis Ebrill 1914. Bu William Jones yn amlwg iawn fel blaenor yng Nghapel Glan-rhyd am flynyddoedd.[8]

Rywbryd yn nes ymlaen yn y ganrif, newidiwyd enw'r tŷ i "Y Bryn". Bu un o swyddogion cyllid y Cyngor Sir, Roland Jones, yn byw yno am flynyddoedd, ond bellach ers nifer helaeth o flynyddoedd mae'n gartref i'r gantores opera a hyfforddwraig, Sian Gibson a'i gŵr.[9]

Cyfeiriadau

  1. Map a Rhestr bennu'r Degwm, plwyf Llanwnda, 1838
  2. Di-enw, Gwilym Droed-ddu, Cymru, Cyf. 24 (1903), t.197
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr marwolaethau plwyf Llanbeblig
  4. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-91
  5. Traethawd eisteddfodol c1950 gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat
  6. North Wales Times, 16.4.1898, t.7
  7. Deunydd anghyhoedd ym meddiant y capel
  8. Y Goleuad, 14.4.1914, t.11
  9. Gwybodaeth leol