Cwm Cerwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cwm Cerwin''' yn gwm uchel ar lethrau Mynydd Mawr, i'r dwyrain o greigiau Craig y Bera. Nid yw'n cael ei enwi ar fapiau Ordnans. Mae tradd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cwm Cerwin''' yn gwm uchel ar lethrau [[Mynydd Mawr]], i'r dwyrain o greigiau [[Craig y Bera]]. Nid yw'n cael ei enwi ar fapiau Ordnans.
Mae '''Cwm Cerwin''' yn gwm uchel ar lethrau [[Mynydd Mawr]], i'r dwyrain o greigiau [[Craig y Bera]]. Nid yw'n cael ei enwi ar fapiau Ordnans.


Mae traddodiad fod troseddwyr yn cael eu dienyddio trwy gael eu rhoi mewn baril gyda hoelion wedi eu gosod o'r tu allan ynddo, cyn i'r baril gael ei wthio i lawr y llethr serth. Honnid yn Oes Fictoria mai'r Rhufeiniaid a wnâi hyn wrth ladd y Cristnogion lleol, er nad oes unrhyw dystiolaeth, mae'n debyg, i gadarnhau'r stori.<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), t.54</ref>
Mae hen draddodiad yn honni fod troseddwyr yn cael eu dienyddio yno. Byddid yn eu rhoi mewn baril gyda hoelion gyda'u pigau'n pwyntio i mewn wedi eu gosod o'r tu allan ynddo, cyn i'r baril gael ei wthio i lawr y llethr serth, a hynny er mwyn creu marwolaeth sicr ond poenus iddynt. Honnid yn Oes Fictoria mai'r Rhufeiniaid a wnâi hyn wrth ladd y Cristnogion lleol, er nad oes unrhyw dystiolaeth, mae'n debyg, i gadarnhau'r stori.<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), t.54</ref>


Mae "cerwin" yn enw am faril gwin neu faril lle bragir cwrw.<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-1967), t.469</ref> Dichon mai ymdrech i esbonio'r enw yw'r chwedl.
Mae "cerwin" yn enw am faril gwin neu faril lle bragir cwrw.<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-1967), t.469</ref> Dichon mai ymdrech i esbonio'r enw yw'r chwedl.

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:01, 13 Awst 2024

Mae Cwm Cerwin yn gwm uchel ar lethrau Mynydd Mawr, i'r dwyrain o greigiau Craig y Bera. Nid yw'n cael ei enwi ar fapiau Ordnans.

Mae hen draddodiad yn honni fod troseddwyr yn cael eu dienyddio yno. Byddid yn eu rhoi mewn baril gyda hoelion gyda'u pigau'n pwyntio i mewn wedi eu gosod o'r tu allan ynddo, cyn i'r baril gael ei wthio i lawr y llethr serth, a hynny er mwyn creu marwolaeth sicr ond poenus iddynt. Honnid yn Oes Fictoria mai'r Rhufeiniaid a wnâi hyn wrth ladd y Cristnogion lleol, er nad oes unrhyw dystiolaeth, mae'n debyg, i gadarnhau'r stori.[1]

Mae "cerwin" yn enw am faril gwin neu faril lle bragir cwrw.[2] Dichon mai ymdrech i esbonio'r enw yw'r chwedl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.54
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-1967), t.469