Bryn Pipion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyfeirir at gae o'r enw '''Bryn Pibor''' mewn dogfen a luniwyd ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon) ond ni nodir ei leoliad. Fodd bynnag, yn Rhestr P...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Cyfeirir at gae o'r enw '''Bryn Pibor''' mewn dogfen a luniwyd ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon) ond ni nodir ei leoliad. Fodd bynnag, yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf [[Llandwrog]] ym 1842 cofnodir cae o'r enw ''Bryn pipion'' ar dir Garth. Mae'n debyg mai'r un enw, y naill yn unigol a'r llall y lluosog, sydd yn ail elfen y ddau gofnod uchod. Cynigir mai ''pibwr'', sef 'pibydd', sydd yng nghofnod 1556. Ceir sawl enghraifft o ''pibwr'' mewn enwau lleoedd yn Ne Cymru - Sir Gaerfyrddin yn bennaf - ond ''pibydd'' fyddai'r ffurf fwy arferol yng Ngogledd Cymru. Anodd yw esbonio'r ffurf ''pipion'' - gall fod yn llurguniad neu gywasgiad o ''pibyddion'' - y ''pibwr'' gwreiddiol wedi cynhyrchu teulu o bibyddion dros amser efallai. Prin yw'r cyfeiriadau at gerddorion mewn enwau lleoedd yn rhan orllewinol yr hen Sir Gaernarfon. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.50-1.</ref>
Cyfeirir at gae o'r enw '''Bryn Pibor''' mewn dogfen a luniwyd ym 1556 <ref>Archifdy Caernarfon, Casgliad Newborough, Glynllifon, XD2/6621</ref> i'r dwyrain o leoedd a enwyd fel Cae [[Grafog]] a [[Rhosnenan]], ac i'r de o bentref modern [[Y Groeslon]]. Mae hyn yn ei leoli ar dir y Garth. Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf [[Llandwrog]] ym 1842 cofnodir cae o'r enw ''Bryn pipion'' ar dir Garth. Mae'n debyg mai'r un enw, y naill yn unigol a'r llall y lluosog, sydd yn ail elfen y ddau gofnod uchod. Cynigir mai ''pibwr'', sef 'pibydd', sydd yng nghofnod 1556. Ceir sawl enghraifft o ''pibwr'' mewn enwau lleoedd yn Ne Cymru - Sir Gaerfyrddin yn bennaf - ond ''pibydd'' fyddai'r ffurf fwy arferol yng Ngogledd Cymru. Anodd yw esbonio'r ffurf ''pipion'' - gall fod yn llurguniad neu gywasgiad o ''pibyddion'' - y ''pibwr'' gwreiddiol wedi cynhyrchu teulu o bibyddion dros amser efallai. Prin yw'r cyfeiriadau at gerddorion mewn enwau lleoedd yn rhan orllewinol yr hen Sir Gaernarfon. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.50-1.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:00, 24 Ebrill 2024

Cyfeirir at gae o'r enw Bryn Pibor mewn dogfen a luniwyd ym 1556 [1] i'r dwyrain o leoedd a enwyd fel Cae Grafog a Rhosnenan, ac i'r de o bentref modern Y Groeslon. Mae hyn yn ei leoli ar dir y Garth. Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 cofnodir cae o'r enw Bryn pipion ar dir Garth. Mae'n debyg mai'r un enw, y naill yn unigol a'r llall y lluosog, sydd yn ail elfen y ddau gofnod uchod. Cynigir mai pibwr, sef 'pibydd', sydd yng nghofnod 1556. Ceir sawl enghraifft o pibwr mewn enwau lleoedd yn Ne Cymru - Sir Gaerfyrddin yn bennaf - ond pibydd fyddai'r ffurf fwy arferol yng Ngogledd Cymru. Anodd yw esbonio'r ffurf pipion - gall fod yn llurguniad neu gywasgiad o pibyddion - y pibwr gwreiddiol wedi cynhyrchu teulu o bibyddion dros amser efallai. Prin yw'r cyfeiriadau at gerddorion mewn enwau lleoedd yn rhan orllewinol yr hen Sir Gaernarfon. [2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Casgliad Newborough, Glynllifon, XD2/6621
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.50-1.