J. Collis Browne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd Dr '''John Collis Browne''' (1819-1884) a hani o Maidstone yn Swydd Caint<ref>Gwefan Casgliadau'r Amgueddfeydd Gwyddoniaeth [https://collection.sciencemuseumgroup.org.uk/people/cp86170/john-collis], cyrchwyd 22.2.2024</ref> yn llawfeddyg gyda’r fyddin Brydeinig yn India. Dyfeisiodd Chlorodyne, sef ffisig i wrthsefyll y colera ym 1848, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd yn gymysgedd o forffin, clorofform a chanabis, ac er bod rhai o’r cynhwysion wedi newid, mae’n dal ar werth heddiw.  
Roedd Dr '''John Collis Browne''' (1819-1884) a hanai o Maidstone yn Swydd Caint<ref>Gwefan Casgliadau'r Amgueddfeydd Gwyddoniaeth [https://collection.sciencemuseumgroup.org.uk/people/cp86170/john-collis], cyrchwyd 22.2.2024</ref> yn llawfeddyg gyda’r fyddin Brydeinig yn India. Dyfeisiodd Chlorodyne, sef ffisig i wrthsefyll y colera ym 1848, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd yn gymysgedd o forffin, clorofform a chanabis, ac er bod rhai o’r cynhwysion wedi newid, mae’n dal ar werth heddiw.  


Gadawodd y fyddin ym 1856, a mynd i bartneriaeth gyda fferyllydd o’r enw Davenport er mwyn marchnata ei ffisig yn eang.
Gadawodd y fyddin ym 1856, a mynd i bartneriaeth gyda fferyllydd o’r enw Davenport er mwyn marchnata ei ffisig yn eang.
Llinell 5: Llinell 5:
Bu’n ddyfeisydd nifer o declynnau, yn arbennig rhai ar gyfer iotiau.
Bu’n ddyfeisydd nifer o declynnau, yn arbennig rhai ar gyfer iotiau.


Ei berthnasedd i [[Uwchgwyrfai]] yw’r ffaith ei fod wedi datblygu neu agor mwynfa haearn o dan y môr yn [[Trefor|Nhrefor]] tua 1870. Dichon ei fod yn gysylltiedig â’r cloddfeydd ar ben creigiau [[Y Gorllwyn]] sydd yn dyddio o’r un amser, oherwydd ym 1872, trefnodd James Clark gludo 500 tunnell o fwynau haearn “o Fwynfa Fwyn Haearn Dr J. Collis Browne sydd o dan y môr” ar hyd “Rheilffordd y Morfa” a oedd newydd gael ei hailadeiladu, hyd at [[Harbwr Trefor]].<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271</ref>   
Ei berthnasedd i [[Uwchgwyrfai]] yw’r ffaith ei fod wedi datblygu neu agor mwynfa haearn o dan y môr yn [[Trefor|Nhrefor]] tua 1870. Dichon ei fod yn gysylltiedig â’r cloddfeydd ar ben creigiau [[Y Gorllwyn]] sydd yn dyddio o’r un amser oherwydd, ym 1872, trefnodd James Clark gludo 500 tunnell o fwynau haearn “o Fwynfa Fwyn Haearn Dr J. Collis Browne sydd o dan y môr” ar hyd “Rheilffordd y Morfa” a oedd newydd gael ei hailadeiladu, hyd at [[Harbwr Trefor]].<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271</ref>   


Tua’r adeg honno roedd yn ymwneud â gwaith cloddio mwynau yn Sir y Fflint hefyd, fel aelod o gonsortiwm o bum dyn (pedwar fel ef ei hun o Lundain) a gymerodd brydles ar fwynfeydd plwm a chopr ym mhlwyf Llanelwy ym 1870.<ref>LlGC Papurau Plas-yn-Cefn 1370</ref> Nid yw’n hysbys beth a ddenodd i Ogledd Cymru o gwbl. Roedd dynion cefnog yn aml yn mentro eu pres ar sail addewid o gyfoeth mawr a fyddai’n dod o fwyngloddio,. Ac roedd digon o hwnnw yng Ngogledd Cymru. A thybed a oedd ei ddiddordeb mewn hwylio a’i ddyfeisiau i helpu morwyr pleser wedi dod â fo i gysylltiad â [[ Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], iotiwr mawr a pherchennog tiroedd yn Nhrefor - ond tybio heb dystiolaeth yw hynny.
Tua’r adeg honno roedd yn ymwneud â gwaith cloddio mwynau yn Sir y Fflint hefyd, fel aelod o gonsortiwm o bum dyn (pedwar fel ef ei hun o Lundain) a gymerodd brydles ar fwynfeydd plwm a chopr ym mhlwyf Llanelwy ym 1870.<ref>LlGC Papurau Plas-yn-Cefn 1370</ref> Nid yw’n hysbys beth a'i denodd i Ogledd Cymru o gwbl. Roedd dynion cefnog yn aml yn mentro eu pres ar sail addewid o gyfoeth mawr a fyddai’n dod o fwyngloddio, ac roedd digon o hwnnw yng Ngogledd Cymru. A thybed a oedd ei ddiddordeb mewn hwylio a’i ddyfeisiau i helpu morwyr pleser wedi dod ag ef i gysylltiad â [[ Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], iotiwr mawr a pherchennog tiroedd yn Nhrefor - ond tybio heb dystiolaeth yw hynny.


Bu farw yn Ramsgate, Swydd Caint ym 1884. <ref>Erthygl Wikipedia ar J. Collis Browne  [https://en.wikipedia.org/wiki/John_Collis_Browne] ac ar Chlorodyne [https://en.wikipedia.org/wiki/Chlorodyne], cyrchwyd 22.2.2024</ref>
Bu farw yn Ramsgate, Swydd Caint, ym 1884. <ref>Erthygl Wikipedia ar J. Collis Browne  [https://en.wikipedia.org/wiki/John_Collis_Browne] ac ar Chlorodyne [https://en.wikipedia.org/wiki/Chlorodyne], cyrchwyd 22.2.2024</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:07, 28 Chwefror 2024

Roedd Dr John Collis Browne (1819-1884) a hanai o Maidstone yn Swydd Caint[1] yn llawfeddyg gyda’r fyddin Brydeinig yn India. Dyfeisiodd Chlorodyne, sef ffisig i wrthsefyll y colera ym 1848, ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd yn gymysgedd o forffin, clorofform a chanabis, ac er bod rhai o’r cynhwysion wedi newid, mae’n dal ar werth heddiw.

Gadawodd y fyddin ym 1856, a mynd i bartneriaeth gyda fferyllydd o’r enw Davenport er mwyn marchnata ei ffisig yn eang.

Bu’n ddyfeisydd nifer o declynnau, yn arbennig rhai ar gyfer iotiau.

Ei berthnasedd i Uwchgwyrfai yw’r ffaith ei fod wedi datblygu neu agor mwynfa haearn o dan y môr yn Nhrefor tua 1870. Dichon ei fod yn gysylltiedig â’r cloddfeydd ar ben creigiau Y Gorllwyn sydd yn dyddio o’r un amser oherwydd, ym 1872, trefnodd James Clark gludo 500 tunnell o fwynau haearn “o Fwynfa Fwyn Haearn Dr J. Collis Browne sydd o dan y môr” ar hyd “Rheilffordd y Morfa” a oedd newydd gael ei hailadeiladu, hyd at Harbwr Trefor.[2]

Tua’r adeg honno roedd yn ymwneud â gwaith cloddio mwynau yn Sir y Fflint hefyd, fel aelod o gonsortiwm o bum dyn (pedwar fel ef ei hun o Lundain) a gymerodd brydles ar fwynfeydd plwm a chopr ym mhlwyf Llanelwy ym 1870.[3] Nid yw’n hysbys beth a'i denodd i Ogledd Cymru o gwbl. Roedd dynion cefnog yn aml yn mentro eu pres ar sail addewid o gyfoeth mawr a fyddai’n dod o fwyngloddio, ac roedd digon o hwnnw yng Ngogledd Cymru. A thybed a oedd ei ddiddordeb mewn hwylio a’i ddyfeisiau i helpu morwyr pleser wedi dod ag ef i gysylltiad â Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, iotiwr mawr a pherchennog tiroedd yn Nhrefor - ond tybio heb dystiolaeth yw hynny.

Bu farw yn Ramsgate, Swydd Caint, ym 1884. [4]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Casgliadau'r Amgueddfeydd Gwyddoniaeth [1], cyrchwyd 22.2.2024
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271
  3. LlGC Papurau Plas-yn-Cefn 1370
  4. Erthygl Wikipedia ar J. Collis Browne [2] ac ar Chlorodyne [3], cyrchwyd 22.2.2024