Melin y Bont-faen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Melin ŷd oedd '''Melin y Bont-faen'''. Erbyn hyn, dim ond fferm Pont-faen sydd ar y safle. Hon oedd y felin olaf ar lan [[Afon Gwyrfai]] cyn iddi gyrraedd ei haber yn [[Y Foryd]]. Roedd ffos yn cludo dŵr iddi o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i [[Pont Faen|Bont Faen]]), er bod yna ffrwd felin (sef ''mill-race'') hefyd a oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan. | Melin ŷd oedd '''Melin y Bont-faen'''. Erbyn hyn, dim ond fferm Pont-faen sydd ar y safle. Hon oedd y felin olaf ar lan [[Afon Gwyrfai]] cyn iddi gyrraedd ei haber yn [[Y Foryd]]. Roedd ffos yn cludo dŵr iddi o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i [[Pont Faen|Bont Faen]]), er bod yna ffrwd felin (sef ''mill-race'') hefyd a oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan. | ||
Fe'i hadeiladwyd gan [[Richard Evans]], [[Elernion]], a ficer [[Llanaelhaearn]] tua dechrau'r 17g yn lle [[Melin Cae Mawr]] a safai tua 2 filltir i fyny'r afon ac a oedd wedi mynd i gyflwr drwg. Roedd safle Melin y Bont-faen hefyd yn fwy cyfleus i'r amaethwyr lleol. Bu'n malu tan oddeutu 1904.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131</ref>. Mae map dyddiedig 1914 yn dangos y felin fel un nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, Arolwg 1914, cyhoeddwyd | Fe'i hadeiladwyd gan [[Richard Evans]], [[Elernion]], a ficer [[Llanaelhaearn]] tua dechrau'r 17g yn lle [[Melin Cae Mawr]] a safai tua 2 filltir i fyny'r afon ac a oedd wedi mynd i gyflwr drwg. Roedd safle Melin y Bont-faen hefyd yn fwy cyfleus i'r amaethwyr lleol. Bu'n malu tan oddeutu 1904.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131</ref>. Mae map dyddiedig 1914 yn dangos y felin fel un nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach.<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, Arolwg 1914, cyhoeddwyd 1920.</ref> Ym 1881, John Huxley oedd y melinydd;<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1881</ref> ac ym 1889, ceir nodyn mai John Huxley oedd yn dal yno.<ref>''Cyfarwyddiadur Masnach Sutton ar gyfer 1889-90'' (o dan 'Llanwnda')</ref>; bu ef a'i deulu yno adeg Cyfrifiad 1891 hefyd, pan nodwyd mai gŵr o Aberffraw ydoedd, 71 oed, gyda'i wraig flwyddyn yn hŷn nag ef, ac yn hanu o Lanfaglan. Roedd eu mab John Huxley, gŵr gweddw 45 oed, yn byw gyda hwynt. Roedd John, fel ei dad, yn gweithio yn y felin.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1891</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:52, 25 Awst 2024
Melin ŷd oedd Melin y Bont-faen. Erbyn hyn, dim ond fferm Pont-faen sydd ar y safle. Hon oedd y felin olaf ar lan Afon Gwyrfai cyn iddi gyrraedd ei haber yn Y Foryd. Roedd ffos yn cludo dŵr iddi o'r afon ger Tŷ Cerrig (yr ochr uchaf i Bont Faen), er bod yna ffrwd felin (sef mill-race) hefyd a oedd yn dod yn syth o'r afon ger y felin. Roedd y felin yn sefyll ochr Uwchgwyrfai i'r afon, ac ar ffin Uwchgwyrfai felly, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan.
Fe'i hadeiladwyd gan Richard Evans, Elernion, a ficer Llanaelhaearn tua dechrau'r 17g yn lle Melin Cae Mawr a safai tua 2 filltir i fyny'r afon ac a oedd wedi mynd i gyflwr drwg. Roedd safle Melin y Bont-faen hefyd yn fwy cyfleus i'r amaethwyr lleol. Bu'n malu tan oddeutu 1904.[1]. Mae map dyddiedig 1914 yn dangos y felin fel un nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach.[2] Ym 1881, John Huxley oedd y melinydd;[3] ac ym 1889, ceir nodyn mai John Huxley oedd yn dal yno.[4]; bu ef a'i deulu yno adeg Cyfrifiad 1891 hefyd, pan nodwyd mai gŵr o Aberffraw ydoedd, 71 oed, gyda'i wraig flwyddyn yn hŷn nag ef, ac yn hanu o Lanfaglan. Roedd eu mab John Huxley, gŵr gweddw 45 oed, yn byw gyda hwynt. Roedd John, fel ei dad, yn gweithio yn y felin.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma