Odyn friciau Dinas Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar fap Ordnans 1888 gwelir man yn Ninas Dinlle a ddisgrifiwyd ar y map fel ''old brick kiln''. Mae'n debyg fod hyn yn golygu bod yr '''od...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ar fap Ordnans 1888 gwelir man yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]] a ddisgrifiwyd ar y map fel ''old brick kiln''. Mae'n debyg fod hyn yn golygu bod yr '''odyn friciau''' hon wedi cau | Ar fap Ordnans 1888 gwelir man yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]] a ddisgrifiwyd ar y map fel ''old brick kiln''. Mae'n debyg fod hyn yn golygu bod yr '''odyn friciau''' hon wedi cau gryn amser cyn hynny. Roedd y safle ychydig i'r gogledd o'r hen [[Plas Tan Dinas|Blas Tan Dinas]] sydd bellach wedi ei ddymchwel. | ||
Mae'n debyg bod clai addas ar gyfer gwneud briciau yn y lleoliad hwn, a dyma'r unig waith briciau y gwyddom amdano yn [[Uwchgwyrfai]] heblaw am y gwaith diweddarach | Mae'n debyg bod clai addas ar gyfer gwneud briciau yn y lleoliad hwn, a dyma'r unig waith briciau y gwyddom amdano yn [[Uwchgwyrfai]] heblaw am y gwaith diweddarach lle gwneid briciau o lwch ithfaen yn [[Chwarel yr Eifl]] yn [[Trefor|Nhrefor]]. Roedd digon o glai i'w gael ar lannau Afon Seiont ger Caernarfon, lle ceid dwy ffatri, Gwaith Briciau Seiont a Gwaith Briciau Peblig. Roedd ganddynt ddwy fantais fawr: roeddent wrth ochr rheilffordd a ddeuai â glo i mewn a chario'r briciau ymaith, ac roedd digonedd o glai dan y ddaear y gellid ei gloddio. Roedd hen waith briciau yn nes at Ddinas Dinlle, ac ychydig dros y ffin rhwng Uwchgwyrfai ac [[Isgwyrfai]], sef Gwaith Briciau Llwyn-ynn ger fferm Cefn Ynysoedd. Roedd pwll clai gerllaw, sef ar dir Cae'r Efail, Llanfaglan.<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, 1888</ref> | ||
Gallwn ddychmygu felly fod gwaith briciau Dinas Dinlle wedi methu â chystadlu â'r gweithiau mwy, yn arbennig wedi i'r rheilffyrdd gyrraedd fel nad oedd angen bellach | Gallwn ddychmygu felly fod gwaith briciau Dinas Dinlle wedi methu â chystadlu â'r gweithiau mwy, yn arbennig wedi i'r rheilffyrdd gyrraedd fel nad oedd angen bellach bod o fewn cyrraedd harbwr neu draeth gwastad i gludo deunyddiau mewn llongau bach. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:15, 22 Chwefror 2024
Ar fap Ordnans 1888 gwelir man yn Ninas Dinlle a ddisgrifiwyd ar y map fel old brick kiln. Mae'n debyg fod hyn yn golygu bod yr odyn friciau hon wedi cau gryn amser cyn hynny. Roedd y safle ychydig i'r gogledd o'r hen Blas Tan Dinas sydd bellach wedi ei ddymchwel.
Mae'n debyg bod clai addas ar gyfer gwneud briciau yn y lleoliad hwn, a dyma'r unig waith briciau y gwyddom amdano yn Uwchgwyrfai heblaw am y gwaith diweddarach lle gwneid briciau o lwch ithfaen yn Chwarel yr Eifl yn Nhrefor. Roedd digon o glai i'w gael ar lannau Afon Seiont ger Caernarfon, lle ceid dwy ffatri, Gwaith Briciau Seiont a Gwaith Briciau Peblig. Roedd ganddynt ddwy fantais fawr: roeddent wrth ochr rheilffordd a ddeuai â glo i mewn a chario'r briciau ymaith, ac roedd digonedd o glai dan y ddaear y gellid ei gloddio. Roedd hen waith briciau yn nes at Ddinas Dinlle, ac ychydig dros y ffin rhwng Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai, sef Gwaith Briciau Llwyn-ynn ger fferm Cefn Ynysoedd. Roedd pwll clai gerllaw, sef ar dir Cae'r Efail, Llanfaglan.[1]
Gallwn ddychmygu felly fod gwaith briciau Dinas Dinlle wedi methu â chystadlu â'r gweithiau mwy, yn arbennig wedi i'r rheilffyrdd gyrraedd fel nad oedd angen bellach bod o fewn cyrraedd harbwr neu draeth gwastad i gludo deunyddiau mewn llongau bach.
Cyfeiriadau
- ↑ Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, 1888