Gwynfor Pierce Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hanesydd ac athro ysgol o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd y Dr '''Gwynfor Pierce Jones''' (1953-2013). | Hanesydd ac athro ysgol o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd y Dr '''Gwynfor Pierce Jones''' (1953-2013). Roedd yn arbenigwr ar hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a [[Dyffryn Nantlle]] yn benodol. Ac yntau'n dal yn fachgen ysgol, ymwelodd â nifer o'r chwareli lleol oedd wedi cau, gan achub llawer o fân greiriau a chofnodion a fyddai, fel arall, wedi mynd i ddifancoll. Ers blynyddoedd maent wedi eu hadneuo yn Archifdy Caernarfon, lle mae'r casgliad yn llenwi bwlch yng nghofnod chwarelydda yn Nyffryn Nantlle. | ||
Cafodd ei radd mewn pwnc gwyddonol ac am flynyddoedd bu'n athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Pwllheli, cyn ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd. Derbyniodd radd Doethur am draethawd ar hanes chwareli'r Dyffryn. O hynny ymlaen, gweithiai fel ymgynghorydd llaw-rydd ym maes daeareg a chwarelydda. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd yn ei faes, a chyhoeddodd ddwy gyfrol fer - er y gallai fod wedi ysgrifennu'n fwy helaeth o lawer ar ei ddewis bwnc. | Cafodd ei radd mewn pwnc gwyddonol ac am flynyddoedd bu'n athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Pwllheli, cyn ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd. Derbyniodd radd Doethur am draethawd ar hanes chwareli'r Dyffryn. O hynny ymlaen, gweithiai fel ymgynghorydd llaw-rydd ym maes daeareg a chwarelydda. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd yn ei faes, a chyhoeddodd ddwy gyfrol fer - er y gallai fod wedi ysgrifennu'n fwy helaeth o lawer ar ei ddewis bwnc. | ||
Roedd | Cefnogai ailadeiladu [[Rheilffordd Eryri]] ac roedd yn un o gyfarwyddwyr cwmni [[Cymdeithas Rheilffordd Eryri]], 2009-2013.<ref>Wici Festipedia, [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Gwynfor_Pierce_Jones], adalwyd 9.10.2023</ref> | ||
Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]], ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy y nos Sul cyn ei farwolaeth ar Noswyl Nadolig 2013, a hynny mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.<ref>www.golwg360.com/newyddion/cymru/132202; gwybodaeth bersonol; Erthygl Wicipedia ar Gwynfor Pierce Jones [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwynfor_Pierce_Jones], adalwyd 9.10.2023</ref> | |||
== Llyfryddiaeth == | == Llyfryddiaeth == |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:08, 10 Hydref 2023
Hanesydd ac athro ysgol o bentref Tal-y-sarn oedd y Dr Gwynfor Pierce Jones (1953-2013). Roedd yn arbenigwr ar hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, a Dyffryn Nantlle yn benodol. Ac yntau'n dal yn fachgen ysgol, ymwelodd â nifer o'r chwareli lleol oedd wedi cau, gan achub llawer o fân greiriau a chofnodion a fyddai, fel arall, wedi mynd i ddifancoll. Ers blynyddoedd maent wedi eu hadneuo yn Archifdy Caernarfon, lle mae'r casgliad yn llenwi bwlch yng nghofnod chwarelydda yn Nyffryn Nantlle.
Cafodd ei radd mewn pwnc gwyddonol ac am flynyddoedd bu'n athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Pwllheli, cyn ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd. Derbyniodd radd Doethur am draethawd ar hanes chwareli'r Dyffryn. O hynny ymlaen, gweithiai fel ymgynghorydd llaw-rydd ym maes daeareg a chwarelydda. Daeth yn ddarlithydd poblogaidd yn ei faes, a chyhoeddodd ddwy gyfrol fer - er y gallai fod wedi ysgrifennu'n fwy helaeth o lawer ar ei ddewis bwnc.
Cefnogai ailadeiladu Rheilffordd Eryri ac roedd yn un o gyfarwyddwyr cwmni Cymdeithas Rheilffordd Eryri, 2009-2013.[1]
Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy y nos Sul cyn ei farwolaeth ar Noswyl Nadolig 2013, a hynny mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.[2]
Llyfryddiaeth
- Cwm Gwyrfai: The Quarries of the North Wales Narrow Gauge and the Welsh Highland Railways (ar y cyd ag Alun John Richards; 2004)
- Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle (2008)